Defnyddio'r ffordd (159 i 203)
Rheolau ar gyfer defnyddio'r ffordd, gan gynnwys rheolau cyffredinol, goddiweddyd, cyffyrdd, cylchfannau, croesfannau i gerddwyr a bacio.
Rheol 159
Cyn symud i ffwrdd dylech
-
ddefnyddio pob drych i wirio bod y ffordd yn glir
-
edrych o gwmpas i wirio鈥檙 mannau dall (y lleoedd nad ydych yn gallu eu gweld yn y drychau)
-
rhoi signal os bydd angen cyn symud allan
-
edrych o gwmpas unwaith eto fel gwiriad terfynol.
Symudwch i ffwrdd dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Rheol 160
Unwaith y byddwch yn symud dylech
-
gadw i鈥檙 chwith, oni bai bod arwyddion neu farciau ffyrdd yn nodi fel arall. Mae eithriadau i hyn yn cynnwys pan fyddwch am oddiweddyd, troi i鈥檙 dde neu basio cerbydau sydd wedi鈥檜 parcio neu gerddwyr yn y ffordd
-
cadw鈥檔 agos i鈥檙 chwith ar droadau i鈥檙 ochr dde. Bydd hyn yn gwella eich golwg o鈥檙 ffordd ac yn helpu i osgoi鈥檙 risg o wrthdaro 芒 thraffig sy鈥檔 agos谩u o鈥檙 cyfeiriad arall
-
gyrru neu reidio 芒鈥檙 ddwy law ar yr olwyn neu鈥檙 carn lle bo鈥檔 bosibl. Bydd hyn yn eich helpu i gadw rheolaeth lawn dros y cerbyd bob amser. Gallwch ddefnyddio systemau cymorth gyrwyr pan fyddwch yn gyrru. Gwnewch yn si诺r eich bod yn defnyddio unrhyw system yn 么l cyfarwyddiadau鈥檙 gwneuthurwr.
-
bod yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig beiciau a beiciau modur a all fod yn hidlo drwy鈥檙 traffig. 惭补别鈥档 anoddach gweld y defnyddwyr ffyrdd hyn na cherbydau mwy ac mae eu beicwyr yn fregus iawn. Rhowch ddigon o le iddyn nhw, yn enwedig os byddwch chi鈥檔 gyrru cerbyd hir neu鈥檔 tynnu trelar. Dylech ildio i seiclwyr pan fyddwch yn newid cyfeiriad neu l么n - peidiwch 芒 thorri ar eu traws.
-
dewis g锚r is cyn i chi gyrraedd llethr hir iawn ar i lawr. Bydd hyn yn helpu i reoli eich cyflymder
-
wrth lusgo, cofiwch y bydd yr hyd ychwanegol yn effeithio ar oddiweddyd a manwfro. Bydd y pwysau ychwanegol hefyd yn effeithio ar y brecio a chyflymu.
Rheol 161
Drychau. Dylid defnyddio pob drych yn effeithiol drwy gydol eich taith. Dylech chi
-
ddefnyddio eich drychau yn aml fel eich bod bob amser yn gwybod beth sydd y tu 么l i chi ac i bob ochr i chi
-
defnyddio鈥檙 drychau mewn da bryd cyn i chi roi signal neu newid cyfeiriad neu gyflymder
-
bod yn ymwybodol nad yw drychau yn dangos pob man ac y bydd rhai mannau dall.
Bydd angen i chi edrych o鈥檆h cwmpas a gwirio.
Cofiwch: Drychau 鈥� Rhowch signal 鈥� Symudwch
Rheol 162
Cyn goddiweddyd dylech sicrhau鈥檙 canlynol
-
mae鈥檙 ffordd o鈥檆h blaen yn ddigon clir
-
nid yw defnyddwyr y ffordd yn dechrau eich goddiweddyd
-
mae bwlch addas o flaen defnyddiwr y ffordd yr ydych yn bwriadu ei oddiweddyd.
Rheol 163
Dylech ond goddiweddyd pan fydd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny. Dylech chi
-
beidio 芒 mynd yn rhy agos at y cerbyd y bwriadwch ei oddiweddyd
-
defnyddio eich drychau, rhoi signalau pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, edrych i鈥檙 ochr yn y man dall yn gyflym os bydd angen ac yna dechrau symud
-
peidio 芒 chymryd yn ganiataol y gallwch ddilyn cerbyd sydd o鈥檆h blaen sy鈥檔 goddiweddyd; efallai y bydd ond digon o le i un cerbyd
-
symud yn gyflym heibio鈥檙 cerbyd yr ydych yn ei oddiweddyd, unwaith y byddwch wedi dechrau goddiweddyd. Gadewch ddigon o le. Symudwch yn 么l i鈥檙 chwith cyn gynted ag y gallwch ond peidiwch 芒 thorri i mewn
-
cymryd gofal ychwanegol yn y nos ac mewn gwelededd gwael pan 尘补别鈥档 anoddach amcangyfrif cyflymder a phellter
-
ildio i gerbydau sy鈥檔 dod tuag atoch cyn mynd heibio i gerbydau sydd wedi鈥檜 parcio neu rwystrau eraill ar eich ochr chi o鈥檙 ffordd
-
goddiweddyd ar y chwith yn unig os bydd y cerbyd o鈥檆h blaen yn rhoi signal i droi i鈥檙 dde, ac mae lle i wneud hynny
-
aros yn eich l么n os bydd y traffig yn symud yn araf mewn ciwiau. Os bydd y ciw ar eich dde yn symud yn arafach na chi, gallwch basio ar y chwith
-
rhoi yr un maint o le i feicwyr modur, beicwyr a marchogion ceffylau ag y byddech chi鈥檔 ei roi wrth oddiweddyd car (gweler Rheol 211 i 215). Fel canllaw:
-
gadewch o leiaf 1.5 metr wrth oddiweddyd seiclwyr ar gyflymderau o hyd at 30mya, a rhowch ragor o ofod iddynt wrth oddiweddyd ar gyflymderau uwch
-
ewch heibio i farchogion a cherbydau wedi鈥檜 tynnu gan geffylau ar gyflymderau o dan 10 mya a chaniatewch o leiaf 2 metr o ofod
-
caniatewch o leiaf 2 metr o ofod a chadwch at gyflymder isel wrth fynd heibio i gerddwr sy鈥檔 cerdded yn y ffordd (er enghraifft, pan nad oes palmant)
-
cymerwch ofal ychwanegol a ragor fwy o ofod wrth oddiweddyd beicwyr modur, marchogion, cerbydau wedi鈥檜 tynnu gan geffylau a cherddwyr mewn tywydd gwael (gan gynnwys gwyntoedd cryf) ac yn y nos
-
dylech aros y tu 么l i鈥檙 beiciwr modur, marchog, cerbyd wedi鈥檌 dynnu gan geffyl neu gerddwr a pheidio 芒 goddiweddyd os nad yw鈥檔 ddiogel neu nad yw鈥檔 bosibl i fynd heibio iddynt.
Cofiwch: Drychau 鈥� Rhowch signal 鈥� Symudwch
Rheol 164
Cerbydau mawr. Mae goddiweddyd cerbydau mawr yn fwy anodd. Dylech chi
-
ollwng yn 么l. Bydd hyn yn cynyddu eich gallu i weld yn eich blaen a dylai alluogi gyrrwr y cerbyd mawr i鈥檆h gweld yn ei ddrychau. Bydd mynd yn rhy agos at gerbydau mawr, gan gynnwys cerbydau amaethyddol megis tractor 芒 threlar neu offer sefydlog arall, yn cuddio鈥檆h golwg o鈥檙 ffordd o鈥檆h blaen ac 尘补别鈥档 bosibl y bydd cerbyd arall sy鈥檔 symud yn araf o鈥檆h blaen
-
gwneud yn si诺r bod gennych chi ddigon o le i gwblhau eich manwfr goddiweddyd cyn ymrwymo iddo. 惭补别鈥档 cymryd mwy o amser i basio cerbyd mawr. Os nad ydych yn si诺r, peidiwch 芒 goddiweddyd
-
peidio 芒 chymryd yn ganiataol y gallwch ddilyn cerbyd o鈥檆h blaen sy鈥檔 goddiweddyd cerbyd hir. Os bydd problem yn datblygu, efallai na fyddant yn goddiweddyd ac yn tynnu鈥檔 么l
Rheol 165
惭补别鈥档 RHAID I CHI BEIDIO 芒 goddiweddyd
-
pe byddai鈥檔 rhaid i chi groesi neu grwydro llinellau gwyn dwbl gyda llinell solet agosaf atoch chi (ond gweler Rheol 129)
-
pe byddai鈥檔 rhaid i chi fynd i mewn i ardal a gynlluniwyd i rannu traffig, os bydd yn cael ei chwmpasu gan linell wen gadarn
-
y cerbyd agosaf at groesfan i gerddwyr, yn enwedig pan fydd wedi stopio i adael i gerddwyr groesi
-
pe byddai鈥檔 rhaid i chi fynd i mewn i l么n a neilltuwyd ar gyfer bysus, tramiau neu feiciau yn ystod ei horiau gweithredu
-
ar 么l arwydd 鈥楧im Goddiweddyd鈥� a nes i chi basio arwydd yn dangos nad oes cyfyngiad bellach.
Deddfau , , ,
Rheol 166
Os nad ydych yn sicr, neu os na allwch weld yn ddigon pell o鈥檆h blaen i fod yn si诺r ei bod yn ddiogel, PEIDIWCH 芒 goddiweddyd. Er enghraifft, pan fyddwch yn nes谩u at
-
gornel neu dro
-
pont groca
-
ael bryn.
Rheol 167
PEIDIWCH 芒 goddiweddyd lle y gallech wrthdaro 芒 defnyddwyr eraill y ffordd. Er enghraifft
-
agos谩u neu wrth gyffordd ar y naill ochr a鈥檙 llall i鈥檙 ffordd
-
lle mae鈥檙 ffordd yn culhau
-
wrth nes谩u at hebryngwr croesi ysgol
-
wrth agos谩u at gyfleusterau croesi
-
lle mae cerbyd ymlaen yn arafu i stopio i gerddwr sy鈥檔 croesi o ynys cerddwr (gweler Rheol 165)
-
rhwng y cwrbyn a鈥檙 bws neu鈥檙 tram pan fydd mewn arhosfan
-
lle mae traffig yn ciwio wrth gyffyrdd neu waith ffyrdd
-
pan fyddech yn gorfodi defnyddiwr ffordd arall i droi yn sydyn neu arafu
-
ar groesfan wastad
-
pan fydd defnyddiwr y ffordd yn rhoi arwydd ei fod yn troi i鈥檙 dde, hyd yn oed os credwch y dylai鈥檙 signal fod wedi cael ei ganslo. Peidiwch 芒 chymryd risg; arhoswch i鈥檙 signal gael ei ganslo
-
aros tu 么l os byddwch yn dilyn beiciwr yn agos谩u at gylchfan neu gyffordd, a鈥檆h bod yn bwriadu troi i鈥檙 chwith. Peidiwch 芒 thorri ar draws seiclwyr wrth fynd ymlaen, gan gynnwys y rheini sy鈥檔 defnyddio lonydd seiclo a thraciau seiclo (gweler Rheol H3)
-
arhoswch y tu 么l os ydych chi鈥檔 dilyn marchog neu gerbyd wedi鈥檌 dynnu gan geffyl wrth agos谩u at gylchfan neu gyffordd, a鈥檆h bod yn bwriadu troi i鈥檙 chwith. Peidiwch 芒 thorri ar draws marchog neu gerbyd wedi鈥檌 dynnu gan geffyl wrth fynd ymlaen
-
pan fydd tram yn aros wrth arhosfan tram wrth ymyl y ffordd ac nad oes l么n basio wedi鈥檌 marcio鈥檔 glir ar gyfer traffig arall.
Rheol 168
Cael eich goddiweddyd. Os bydd gyrrwr yn ceisio eich goddiweddyd, cadwch eich cyflymder yn gyson, gan arafu os bydd angen gadael i鈥檙 cerbyd basio. Peidiwch 芒 rhwystro gyrwyr sy鈥檔 dymuno pasio. Mae cyflymu neu yrru鈥檔 anrhagweladwy pan fydd rhywun yn eich goddiweddyd yn beryglus. Gollyngwch yn 么l i gynnal bwlch o ddwy eiliad os bydd rhywun yn goddiweddyd ac yn tynnu i mewn i鈥檙 bwlch o鈥檆h blaen.
Rheol 169
Peidiwch 芒 dal rhes hir o draffig yn ei 么l, yn enwedig os byddwch yn gyrru cerbyd mawr neu gerbyd sy鈥檔 symud yn araf. Edrychwch ar eich drychau yn aml, ac os bydd angen, tynnwch i mewn lle 尘补别鈥档 ddiogel a gadewch i鈥檙 traffig basio.
Rheol 170
Byddwch yn fwy gofalus wrth gyffyrdd. Dylech chi
-
wylio am feicwyr, beicwyr modur, cadeiriau olwyn/sgwteri symudedd modur a cherddwyr am nad ydynt bob amser yn hawdd eu gweld. Byddwch yn ymwybodol efallai na fyddant wedi eich gweld neu eich clywed os ydych yn agos谩u o鈥檙 tu 么l
-
Wrth gyffordd dylech chi ildio i gerddwyr sy鈥檔 croesi neu鈥檔 aros i groesi ffordd rydych chi鈥檔 troi i mewn iddi neu鈥檔 troi allan ohoni. Os ydynt wedi dechrau croesi mae ganddynt flaenoriaeth, felly ildiwch (gweler Rheol H2)
-
arhoswch y tu 么l i seiclwyr, marchogion, cerbydau wedi鈥檜 tynnu gan geffylau a beicwyr modur wrth gyffyrdd hyd yn oed os ydynt yn aros i droi ac wedi鈥檜 safleoli yn agos at yr ymyl
-
gwylio am gerbydau hir a all fod yn troi wrth gyffordd o鈥檆h blaen; efallai y bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio lled cyfan y ffordd i wneud y troad (gweler Rheol 221)
-
gwylio am farchogion a all gymryd llinell wahanol ar y ffordd i鈥檙 hyn y byddech yn ei ddisgwyl
-
peidio 芒 thybio, wrth aros ar gyffordd, y bydd cerbyd sy鈥檔 dod o鈥檙 dde ac yn rhoi signal i鈥檙 chwith o reidrwydd yn mynd i droi. Arhoswch a gwnewch yn si诺r
-
edrych o鈥檆h cwmpas cyn dod allan. Peidiwch 芒 chroesi neu ymuno 芒 ffordd nes bod bwlch digon mawr i chi wneud hynny鈥檔 ddiogel.
Rheol 171
惭补别鈥档 RHAID I CHI stopio y tu 么l i鈥檙 llinell ar gyffordd gydag arwydd 鈥楽top鈥� a llinell wen gadarn ar draws y ffordd. Arhoswch am fwlch diogel yn y traffig cyn i chi symud i ffwrdd.
Deddfau a
Rheol 172
Wrth ddynesu at gyffordd, efallai bydd arwydd 鈥業ldiwch鈥� neu driongl wedi鈥檌 marcio ar y ffordd. 惭补别鈥档 RHAID I CHI ildio i draffig ar y brif ffordd wrth ddod allan o gyffordd 芒 llinellau gwyn toredig ar draws y ffordd.
Deddfau a
Rheol 173
Ffyrdd deuol. Wrth groesi neu droi i鈥檙 dde, penderfynwch yn gyntaf a yw鈥檙 llain ganol yn ddigon dwfn i ddiogelu hyd llawn eich cerbyd.
-
Os ydyw, yna dylech drin pob hanner o鈥檙 gerbydffordd fel ffordd unigol. Arhoswch yn y llain ganol nes bod bwlch diogel yn y traffig ar ail hanner y ffordd.
-
Os nad yw鈥檙 llain ganol yn ddigon dofn ar gyfer hyd eich cerbyd, arhoswch nes y gallwch groesi鈥檙 ddwy gerbydffordd mewn un tro.
Rheol 174
Cyffyrdd sgw芒r. Mae gan y rhain linellau melyn croes wedi eu paentio ar y ffordd (gweler 鈥�Marciau ffyrdd鈥�). 惭补别鈥档 RHAID I CHI BEIDIO 芒 mynd mewn i鈥檙 blwch nes bod eich ffordd neu l么n ymadael yn glir. Fodd bynnag, cewch fynd i mewn i鈥檙 blwch ac aros pan fyddwch am droi i鈥檙 dde, a byddwch ond yn cael eich atal rhag gwneud hynny gan draffig sy鈥檔 dod, neu gan gerbydau eraill sy鈥檔 aros i droi i鈥檙 dde. Wrth gylchfannau ag arwyddion, 尘补别鈥档 RHAID I CHI BEIDIO 芒 mynd i mewn i鈥檙 blwch oni bai eich bod yn gallu ei groesi鈥檔 llwyr heb stopio.
Y ddeddf
Cyffyrdd wedi鈥檜 rheoli gan oleuadau traffig
Rheol 175
惭补别鈥档 RHAID I CHI stopio y tu 么l i鈥檙 llinell 鈥楽top鈥� wen ar draws eich ochr chi o鈥檙 ffordd oni bai fod y golau鈥檔 wyrdd. Os bydd golau ambr yn ymddangos, gallwch ond fynd ymlaen os ydych eisoes wedi croesi鈥檙 llinell stop neu os ydych mor agos ati y gallai achosi gwrthdrawiad wrth stopio.
Deddfau a
Rheol 176
惭补别鈥档 RHAID I CHI BEIDIO 芒 symud ymlaen dros y llinell wen pan mae鈥檙 golau coch yn dangos. Dylech ond symud ymlaen pan fydd y goleuadau traffig yn wyrdd ac os oes lle i chi fynd trwy鈥檙 gyffordd yn ddiogel neu os byddwch yn mynd i鈥檆h lle i droi i鈥檙 dde. Os nad yw鈥檙 goleuadau traffig yn gweithio, dylech drin y sefyllfa fel y byddech yn ei wneud wrth ddynesu at gyffordd heb ei marcio a symud ymlaen 芒 gofal mawr.
Deddfau a
Rheol 177
Saeth hidlo gwyrdd. Mae hyn yn nodi l么n hidlo yn unig. Peidiwch 芒 mynd i mewn i鈥檙 l么n honno oni bai eich bod am fynd i gyfeiriad y saeth. Cewch fynd ymlaen i gyfeiriad y saeth werdd pan fydd hi, neu鈥檙 golau gwyrdd llawn yn dangos. Rhowch amser a lle i draffig arall, yn enwedig beicwyr, symud i鈥檙 l么n gywir.
Rheol 178
Uwch linellau stopio. Mae gan rai cyffyrdd a reolir gan signalau uwch linellau stopio i ganiat谩u i feicwyr gael eu safleoli o flaen traffig arall. 惭补别鈥档 RHAID i fodurwyr, gan gynnwys beicwyr modur, stopio wrth y llinell wen gyntaf a gyrhaeddir os yw鈥檙 goleuadau鈥檔 oren neu鈥檔 goch a dylent osgoi rhwystro鈥檙 ffordd neu fynd ar yr ardal a farciwyd ar adegau eraill, e.e. os yw鈥檙 gyffordd ymlaen wedi鈥檌 rhwystro. Os yw鈥檆h cerbyd wedi mynd ymlaen dros y llinell wen gyntaf ar yr adeg mae鈥檙 signal yn troi鈥檔 goch, dylech chi stopio cyn gynted 芒 phosibl ac 尘补别鈥档 RHAID i chi stopio wrth yr ail linell wen. Caniatewch i seiclwyr, gan gynnwys unrhyw rai sy鈥檔 symud neu鈥檔 aros wrth eich ochr, ddigon o amser a gofod i symud ymlaen pan fydd y golau gwyrdd yn dangos.
Dylai gyrwyr cerbydau mawr stopio鈥檔 ddigon pell y tu 么l i鈥檙 llinell wen gyntaf fel y gallant weld yr ardal gyfan lle gall seiclwyr fod yn aros, gan ganiat谩u am unrhyw fan dall o flaen y cerbyd.
Deddfau a
Troi i鈥檙 dde
Rheol 179
Ymhell cyn i chi droi i鈥檙 dde, dylech
-
ddefnyddio eich drychau i wneud yn si诺r eich bod yn gwybod beth yw鈥檙 sefyllfa a symudiad y traffig y tu 么l i chi
-
rhoi arwydd signal troi i鈥檙 dde
-
cymryd eich safle ychydig i鈥檙 chwith o ganol y ffordd neu yn y gofod a farciwyd ar gyfer traffig sy鈥檔 troi i鈥檙 dde
-
gadael lle i gerbydau eraill basio ar y chwith, os yn bosibl.
Rheol 180
Arhoswch nes bod bwlch diogel rhyngoch chi ac unrhyw gerbyd sy鈥檔 dod tuag atoch. Gwyliwch am feicwyr, beicwyr modur, cerddwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill. Edrychwch ar eich drychau a鈥檆h man dall eto i wneud yn si诺r nad ydych yn cael eich goddiweddyd, yna gwnewch y tro. Peidiwch 芒 thorri鈥檙 gornel. Byddwch yn ofalus iawn wrth droi i brif ffordd; bydd angen i chi wylio am draffig sy鈥檔 dod o鈥檙 ddau gyfeiriad ac aros am fwlch diogel.
Cofiwch: Drychau 鈥� Rhowch signal 鈥� Symudwch
Rheol 181
Wrth droi i鈥檙 dde ar groesffordd lle mae cerbyd sy鈥檔 dod tuag atoch yn troi i鈥檙 dde hefyd, mae dewis o ddau ddull
-
trowch ochr dde i鈥檙 ochr dde; cadwch y cerbyd arall ar eich ochr dde a throwch y tu 么l iddo. Yn gyffredinol, dyma鈥檙 dull mwy diogel gan fod gennych olwg glir o unrhyw draffig sy鈥檔 agos谩u wrth gwblhau eich troad
-
ochr chwith i鈥檙 ochr chwith, gan droi o flaen eich gilydd. Gall hyn rwystro eich golwg o gerbydau sy鈥檔 dod tuag atoch, felly byddwch yn ofalus iawn. Gall beicwyr a beicwyr modur yn enwedig fod wedi鈥檜 cuddio o鈥檆h golwg. Gall cynllun a marciau ffordd neu sut y mae鈥檙 cerbyd arall wedi鈥檌 leoli bennu pa lwybr y dylid ei gymryd.
Troi i鈥檙 chwith
Rheol 182
Defnyddiwch eich drychau a rhowch signal troi chwith ymhell cyn i chi droi i鈥檙 chwith. Peidiwch 芒 goddiweddyd ychydig cyn i chi droi i鈥檙 chwith a gwyliwch am draffig sy鈥檔 dod o鈥檆h chwith cyn i chi wneud y tro, yn enwedig os byddwch yn gyrru cerbyd mawr. Gall beicwyr a beicwyr modur a defnyddwyr eraill y ffordd yn enwedig fod wedi鈥檜 cuddio o鈥檆h golwg.
Rheol 183
Wrth droi
-
cadwch mor agos i鈥檙 chwith ag sy鈥檔 ddiogel ac yn bosibl
-
ildiwch i unrhyw gerbydau sy鈥檔 defnyddio l么n bysiau, l么n seiclo, trac seiclo neu dramffordd o鈥檙 naill gyfeiriad neu鈥檙 llall, gan gynnwys pan fyddant yn mynd heibio i gerbydau sy鈥檔 symud yn araf neu鈥檔 llonydd ar y naill ochr a鈥檙 llall.
Rheol 184
Wrth agos谩u at gylchfan cymerwch sylw a gweithredu ar yr holl wybodaeth sydd ar gael i chi, gan gynnwys arwyddion traffig, goleuadau traffig a marciau lonydd sy鈥檔 eich cyfeirio i鈥檙 l么n gywir. Dylech chi
-
ddefnyddio Drychau 鈥� Rhowch signal 鈥� Symudwch ar bob cam
-
penderfynu mor gynnar 芒 phosibl pa allanfa sydd angen i chi ei chymryd
-
rhoi signal priodol (gweler Rheol 186,(isod). Amserwch eich signalau i osgoi drysu defnyddwyr eraill y ffordd
-
mynd i mewn i鈥檙 l么n gywir
-
addasu eich cyflymder a鈥檆h safle i gyd-fynd ag amodau traffig
-
bod yn ymwybodol o gyflymder a lleoliad holl ddefnyddwyr y ffordd o鈥檆h cwmpas.
Rheol 185
Wrth gyrraedd y gylchfan dylech
-
roi blaenoriaeth i draffig sy鈥檔 agos谩u o鈥檆h ochr dde, oni bai y cyfarwyddir fel arall gan arwyddion, marciau ffordd neu oleuadau traffig
-
gwirio a yw鈥檙 marciau ffordd yn gadael i chi fynd i mewn i鈥檙 gylchfan heb ildio. Os felly, ewch yn eich blaen, ond dylech ddal i edrych i鈥檙 dde cyn ymuno 芒鈥檙 gylchfan
-
gwylio am ddefnyddwyr eraill y ffordd sydd eisoes ar y gylchfan; byddwch yn ymwybodol efallai na fyddant yn rhoi arwydd yn gywir neu efallai na fyddant yn rhoi arwydd o gwbl
-
edrych o鈥檆h blaen cyn symud i ffwrdd i wneud yn si诺r bod y traffig o鈥檆h blaen wedi symud i ffwrdd.
Rheol 186
Signalau a lleoliad.
Wrth gymryd yr allanfa gyntaf i鈥檙 chwith, oni bai bod arwyddion neu farciau鈥檔 dangos fel arall
-
rhowch signal i鈥檙 chwith a dyneswch yn y l么n ar y chwith
-
cadwch i鈥檙 chwith ar y gylchfan a pharhewch 芒 rhoi signal i鈥檙 chwith i adael.
Wrth gymryd allanfa i鈥檙 dde neu fynd o amgylch y gylchfan yn llwyr, oni bai bod arwyddion neu farciau鈥檔 dangos fel arall
-
rhowch signal i鈥檙 dde a dyneswch yn y l么n dde
-
cadwch i鈥檙 dde ar y gylchfan hyd nes y bydd angen newid lonydd i adael y gylchfan
-
rhowch signal i鈥檙 chwith ar 么l i chi basio鈥檙 allanfa cyn yr un yr sydd ei heisiau arnoch.
Wrth gymryd unrhyw allanfa yn y canol, oni bai bod arwyddion neu farciau鈥檔 dangos fel arall
-
dewiswch y l么n briodol wrth i chi ddynesu at y gylchfan
-
ni ddylai fod angen i chi roi signal fel arfer wrth i chi ddynesu
-
arhoswch yn y l么n hon hyd nes y bydd angen i chi newid llwybr i adael y gylchfan
-
rhowch signal i鈥檙 chwith ar 么l i chi basio鈥檙 allanfa cyn yr un yr sydd ei heisiau arnoch.
Pan fydd mwy na thair l么n wrth y fynedfa i gylchfan, defnyddiwch y l么n fwyaf priodol wrth i chi ddynesu ati a mynd trwyddi.
Dylech roi blaenoriaeth i feicwyr ar y gylchfan. Byddant yn teithio鈥檔 arafach na thraffig modurol. Rhowch ddigon o le iddynt a pheidiwch 芒 cheisio eu pasio o fewn eu l么n. Gadewch iddynt symud ar draws eich llwybr wrth iddynt deithio o amgylch y gylchfan.
Gall beicwyr, marchogion a cherbydau a dynnir gan geffylau aros yn y l么n chwith pan fyddant yn bwriadu parhau ar draws neu o gwmpas y gylchfan a dylent arwyddo i鈥檙 dde i ddangos i chi nad ydynt yn gadael y gylchfan. Dylai gyrwyr fod yn arbennig o ofalus wrth fynd i mewn i gylchfan i sicrhau nad ydynt yn torri ar draws beicwyr, marchogion neu gerbydau a dynnir gan geffylau yn y l么n chwith, sy鈥檔 parhau o amgylch y gylchfan.
Rheol 187
Ym mhob achos gwyliwch am y canlynol a rhowch ddigon o le iddynt
-
cerddwyr a all fod yn croesi鈥檙 ffyrdd dynesu a鈥檙 ffyrdd ymadael
-
traffig yn croesi o鈥檆h blaen ar y gylchfan, yn enwedig cerbydau sy鈥檔 bwriadu gadael yn yr allanfa nesaf
-
traffig a all fod yn crwydro lonydd neu wedi鈥檜 lleoli鈥檔 anghywir
-
beicwyr modur
-
cerbydau hir (gan gynnwys y rheini sy鈥檔 tynnu trelars). Efallai y bydd yn rhaid i鈥檙 rhain ddilyn llwybr gwahanol neu grwydro lonydd naill ai wrth agos谩u at y gylchfan neu ar y gylchfan oherwydd eu hyd. Gwyliwch am eu signalau.
Rheol 188
Cylchfannau bach. Dyneswch at y rhain yn yr un ffordd ag y byddech yn ei wneud wrth ddynesu at gylchfannau arferol. 惭补别鈥档 RHAID i bob cerbyd basio o amgylch y marciau canolog ac eithrio cerbydau mawr nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Cofiwch, mae llai o le i symud a llai o amser i roi signal. Ceisiwch osgoi gwneud troeon pedol ar gylchfannau bach. Byddwch yn ofalus o eraill yn gwneud hyn.
Deddfau a
Rheol 189
Wrth ddynesu at gylchfannau bach dwbl, 尘补别鈥档 rhaid trin pob cylchfan yn unigol ac ildio i draffig o鈥檙 dde.
Rheol 190
Cylchfannau lluosog. Ar rai cyffyrdd cymhleth, efallai y bydd cyfres o gylchfannau bach ar bob groesffordd. Triniwch bob cylchfan fach yn unigol a dilynwch y rheolau arferol.
Rheol 191
惭补别鈥档 RHAID I CHI BEIDIO 芒 pharcio ar groesfan neu mewn ardal gyda llinellau igam-ogam. 惭补别鈥档 RHAID I CHI BEIDIO 芒 goddiweddyd y cerbyd sy鈥檔 symud agosaf i鈥檙 groesfan neu鈥檙 cerbyd sydd agosaf at y groesfan sydd wedi stopio i ildio i gerddwyr.
Deddfau a
Rheol 192
Mewn traffig sy鈥檔 symud yn araf ac yn ciwio dylech gadw croesfannau鈥檔 hollol glir, gan fod rhwystro鈥檙 rhain yn ei gwneud hi鈥檔 anodd ac yn beryglus i gerddwyr groesi. Ni ddylech fynd i mewn i groesfan cerddwyr os nad ydych chi鈥檔 gallu clirio鈥檙 groesfan yn llwyr. Ni ddylech chwaith rwystro uwch linellau stopio i feiciau.
Rheol 193
Dylech gymryd gofal ychwanegol os bydd yr olygfa o bob ochr i鈥檙 groesfan yn cael ei rhwystro gan giw o draffig neu gerbydau sydd wedi鈥檜 parcio鈥檔 anghywir. Gall cerddwyr fod yn croesi rhwng cerbydau llonydd.
Rheol 194
Rhowch ddigon o amser i gerddwyr groesi a pheidiwch ag aflonyddu arnynt drwy refio鈥檙 injan neu ymwthio ymlaen.
Rheol 195
Croesfannau sebra. Wrth i chi nes谩u at groesfan sebra
-
gwyliwch am gerddwyr sy鈥檔 aros i groesi a byddwch yn barod i arafu neu stopio i adael iddynt groesi
-
dylech ildio i gerddwyr sy鈥檔 aros i groesi
-
尘补别鈥档 RHAID i chi ildio pan fydd cerddwr wedi symud i groesfan
-
gadewch fwy o amser ar gyfer stopio ar ffyrdd gwlyb neu rhewllyd
-
peidiwch 芒 chodi llaw ar gerddwyr na ddefnyddio eich corn i wahodd cerddwyr ar draws y groesfan; gallai hyn fod yn beryglus os bydd cerbyd arall yn agos谩u
-
byddwch yn amyneddgar, peidiwch a chanu鈥檆h corn na sbarduno鈥檆h injan gan y gall hyn fod yn fygythiol
-
byddwch yn ymwybodol o gerddwyr yn agos谩u o ochr y groesfan.
Mae croesfan sebra ag ynys ganolog yn ddwy groesfan ar wah芒n (gweler Rheolau 19 and 20).
Mae croesfannau cyfochrog yn debyg i groesfannau sebra, ond yn cynnwys llwybr seiclo ochr yn ochr 芒鈥檙 streipiau du a gwyn.
Wrth i chi agos谩u at groesfan gyfochrog
-
cadwch olwg am gerddwyr neu seiclwyr sy鈥檔 aros i groesi ac arafwch neu stopiwch
-
dylech ildio i gerddwyr neu seiclwyr sy鈥檔 aros i groesi
-
尘补别鈥档 RHAID i chi ildio pan fydd cerddwr neu seiclwr wedi symud ar groesfan
-
caniatewch ragor o amser ar gyfer stopio ar ffyrdd gwlyb neu rewllyd
-
peidiwch 芒 chwifio, fflachio鈥檆h goleuadau na chanu鈥檆h corn i wahodd cerddwyr neu seiclwyr ar draws, gallai hyn fod yn beryglus os oes cerbyd arall yn agos谩u
-
byddwch yn amyneddgar, peidiwch a chanu鈥檆h corn na sbarduno鈥檆h injan gan y gall hyn fod yn fygythiol
-
byddwch yn ymwybodol o gerddwyr neu seiclwyr sy鈥檔 agos谩u o ochr y groesfan.
Mae croesfan sebra ag ynys ganolog yn ddwy groesfan ar wah芒n (gweler Rheolau 19 and 20).
Y ddeddf
Croesfannau a reolir gan signal
Rheol 196
Croesfannau pelican. Croesfannau sy鈥檔 cael eu rheoli gan signal yw鈥檙 rhain lle mae golau ambr sy鈥檔 fflachio yn dilyn golau 鈥楽top鈥� coch. 惭补别鈥档 RHAID i chi stopio pan fydd y golau coch yn dangos. Pan fydd y golau ambr yn fflachio, 尘补别鈥档 RHAID i chi ildio i unrhyw gerddwyr ar y groesfan. Os bydd y golau ambr yn fflachio ac nad oes unrhyw gerddwyr ar y groesfan, gallwch fynd ymlaen yn ofalus.
Deddfau , a
Deddfau TSRGD reg 14 a RTRA sect 25(5)
Rheol 197
Mae croesfannau pelican sy鈥檔 mynd yn syth ar draws y ffordd yn un groesfan, hyd yn oed pan fo ynys ganolog. 惭补别鈥档 RHAID i chi aros am gerddwyr sy鈥檔 croesi o ochr arall yr ynys.
Y ddeddf
Rheol 198
Ildiwch i unrhyw un sy鈥檔 dal i groesi ar 么l i鈥檙 signal ar gyfer cerbydau newid i wyrdd. Mae鈥檙 cyngor hwn yn berthnasol i bob croesfan.
Rheol 199
Croesfannau twcan, p芒l a marchogaeth. Mae鈥檙 rhain yn debyg i groesfannau pelican, ond nid oes cam lle mae golau ambr yn fflachio; mae鈥檙 drefn goleuadau ar gyfer traffig ar y tair croesfan hyn yr un fath ag y mae hi wrth oleuadau traffig. Os nad yw鈥檙 groesfan a reolir gan signal yn gweithio, ewch ymlaen yn ofalus dros ben. Peidiwch 芒 mynd i mewn i鈥檙 groesfan os nad ydych yn gallu ei chlirio鈥檔 llwyr, i osgoi rhwystro cerddwyr seiclwyr neu farchogion.
Rheol 200
Dewiswch le priodol i fanwfro. Os bydd angen i chi droi eich cerbyd rownd, arhoswch nes i chi ddod o hyd i le diogel. Ceisiwch beidio 芒 bacio neu droi rownd ar ffordd brysur; dewch o hyd i ffordd ymyl dawel neu gyrrwch o amgylch bloc o strydoedd ymyl.
Rheol 201
Peidiwch 芒 bacio o ffordd ymyl i mewn i brif ffordd. Wrth ddefnyddio tramwyfa, baciwch i mewn a gyrru allan os gallwch.
Rheol 202
Edrychwch yn ofalus cyn i chi ddechrau bacio. Dylech chi
-
defnyddio pob drych
-
gwirio鈥檙 鈥榤an dall鈥� y tu 么l i chi (y rhan o鈥檙 ffordd na allwch ei gweld yn hawdd yn y drychau)
-
gwirio nad oes unrhyw gerddwyr (yn enwedig plant), beicwyr, defnyddwyr eraill y ffordd neu rwystrau yn y ffordd y tu 么l i chi.
Baciwch yn araf wrth
-
edrych o鈥檆h cwmpas
-
edrych yn bennaf drwy鈥檙 ffenestr gefn
-
bod yn ymwybodol y bydd blaen eich cerbyd yn troi allan wrth i chi droi.
Gofynnwch i rywun eich arwain os na allwch weld yn glir.
Rheol 203
惭补别鈥档 RHAID I CHI BEIDIO 芒 bacio eich cerbyd ymhellach nac sydd angen.
Y ddeddf.