Canllawiau

Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU drwy鈥檙 post

Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo neu dir yn y DU os na allwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein.

Os ydych yn breswylydd yn y DU, nid oes angen i chi roi gwybod am eich enillion os yw cyfanswm eich enillion yn llai na鈥檙 lwfans rhydd o dreth (yn agor tudalen Saesneg).听

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU, bydd angen i chi gyfrifo p鈥檜n a wnaethoch ennill trethadwy neu golled drethadwy. Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am bob gwerthiant a gwarediad o eiddo neu dir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y dyddiad cau, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i鈥檞 thalu.

Pryd mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod drwy鈥檙 post

Mae鈥檔 rhaid i chi anfon eich ffurflen drwy鈥檙 post os:

  • rydych eisoes wedi cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr un flwyddyn dreth rydych yn rhoi gwybod amdani聽
  • mae angen i chi ddiwygio ffurflen bapur sydd eisoes wedi cael ei hanfon at CThEF聽
  • rydych yn rhoi gwybod fel asiant ar ran cynrychiolydd personol sy鈥檔 defnyddio asiant arall i reoli ei gyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU聽
  • rydych yn ymddiriedolwr corfforaethol聽
  • rydych yn ymddiriedolwr dibreswyl ac nad oes angen i chi gofrestru鈥檙 ymddiriedolaeth ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau ac nad oes gennych unrhyw rwymedigaeth Treth Enillion Cyfalaf i鈥檞 dalu聽
  • rydych yn gynrychiolydd personol sydd angen diwygio gwybodaeth am Dreth Enillion Cyfalaf sydd eisoes wedi鈥檌 hanfon at CThEF
  • ni allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein

Mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 ffurflen hon i ddiwygio gwybodaeth am Dreth Enillion Cyfalaf sydd eisoes wedi鈥檌 hanfon at CThEF os:

  • rydych yn benodai
  • mae gennych b诺er twrnai
  • rydych yn gweithredu ar ran rhywun arall mewn rhinwedd gyfreithiol debyg

Os nad oes unrhyw un o鈥檙 rhain yn berthnasol i chi, yna dylech鈥�roi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU, a鈥檌 thalu, gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF.

Cyn i chi ddechrau

I roi gwybod drwy ddefnyddio鈥檙 ffurflen hon, bydd angen i chi wneud y canlynol:聽

  1. Cyfrifwch eich enillion a faint o dreth sydd arnoch. 聽

  2. Gwnewch yn si诺r bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn cwblhau鈥檙 ffurflen.

Rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU

  1. Casglwch yr holl wybodaeth sydd gennych cyn i chi ddechrau arni. Byddwch yn llenwi鈥檙 ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw鈥檆h cynnydd.

  2. Llenwch y ffurflen ar-lein.

  3. Cadwch ac argraffwch y ffurflen wedi鈥檌 llenwi.

  4. Llofnodwch y datganiad.

  5. Dylech gynnwys unrhyw dystiolaeth ategol a fydd yn ategu鈥檆h datganiad.

  6. Anfonwch drwy鈥檙 post at CThEF gan ddefnyddio鈥檙 cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Ar 么l i chi anfon eich ffurflen聽

Byddwn yn anfon cyfeirnod talu 14 digid atoch sy鈥檔 dechrau gydag 鈥榵鈥�.

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch i dalu鈥檙 hyn sy鈥檔 ddyledus gennych erbyn y dyddiad cau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2024

Argraffu'r dudalen hon