Canllawiau

Cofrestru yst芒d eich cleient

Cofrestrwch yst芒d eich cleient ar-lein os ydych yn asiant neu鈥檔 ymgynghorydd treth.

Pwy ddylai gofrestru

Dim ond os bydd unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol y mae angen i chi gofrestru yst芒d eich cleient:

  • mae gwerth yr yst芒d dros 拢2.5 miliwn
  • mae gwerth asedion a werthir gan y cynrychiolydd personol mewn unrhyw un flwyddyn dreth dros 拢500,000
  • mae cyfanswm y dreth sy鈥檔 ddyledus dros 拢10,000

Pwy na ddylai gofrestru

Nid oes angen i chi gofrestru nac anfon Ffurflen Dreth os nad oes gan yst芒d incwm trethadwy nac enillion trethadwy, cyn belled nad oes angen i chi wneud hawliad am ryddhad na dewis.

Mae hyn yn cynnwys pan nad oes gennych enillion trethadwy neu hawliadau oherwydd eich bod wedi eu hadrodd ar ffurflen Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU cyn pen 60 diwrnod i鈥檞 gwaredu.

Hyd at 5 Ebrill 2024, os mai llog o gyfrif banc oedd yr unig incwm a gafodd yr yst芒d yn ystod y cyfnod gweinyddu, a hynny鈥檔 llai na 拢500, nid oes rhaid rhoi gwybod i CThEF am incwm yr yst芒d.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, os bydd gan yst芒d unrhyw fath o incwm hyd at 拢500, ni fydd angen talu Treth Incwm ar yr incwm hwnnw wrth iddo godi. Os bydd yr incwm yn mynd heibio i鈥檙 trothwy hwnnw, bydd treth yn daladwy ar y swm llawn.

Bydd y swm sy鈥檔 rhydd o dreth, sef 拢500, yn berthnasol i鈥檙 canlynol:聽

  • pob blwyddyn dreth sy鈥檔 rhan o鈥檙 cyfnod gweinyddu
  • pob math o incwm, ar 么l didynnu incwm o Gyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) gan ei fod yn dal i fod yn esempt ar 么l i berson farw hyd nes bod y cyfrif yn cau, neu hyd at 3 blynedd wedi鈥檙 farwolaeth

Os yw鈥檙 incwm yn fwy na鈥檙 swm sy鈥檔 rhydd o dreth mewn unrhyw flwyddyn dreth, ac nad ydych yn bodloni鈥檙 rheolau i gofrestru, dylech ddefnyddio鈥檙 trefniadau talu anffurfiol.

Pryd i gofrestru

Cofrestrwch yr yst芒d gyda CThEF i gael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) erbyn 5 Hydref ar 么l y flwyddyn dreth pan fydd yr yst芒d yn dechrau cael incwm neu pan fydd ganddi enillion trethadwy y mae treth yn daladwy arnynt.

Yr hyn sydd ei angen arnoch

Gwybodaeth am yr yst芒d

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw鈥檙 yst芒d, er enghraifft yst芒d Dafydd Jones a fu farw
  • cyfeiriad a rhif ff么n yr yst芒d (dyma fydd cyfeiriad a rhif ff么n y cynrychiolydd personol)
  • y dyddiad y daeth y cyfnod gweinyddu i ben, os yw鈥檔 berthnasol

Cynrychiolydd personol

Bydd angen y manylion canlynol arnoch ar gyfer y person:

  • enw
  • cyfeiriad
  • dyddiad geni
  • rhif Yswiriant Gwladol neu rif y pasbort a鈥檙 dyddiad dod i ben
  • rhif ff么n
  • cyfeiriad e-bost

Manylion ynghylch y person sydd wedi marw

Bydd angen y manylion canlynol arnoch ar gyfer yr ymadawedig:

  • enw
  • cyfeiriad hysbys diwethaf
  • dyddiad geni
  • dyddiad y farwolaeth
  • rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)

Blynyddoedd o rwymedigaeth treth

Mae angen i chi ddewis y blynyddoedd treth y mae angen i鈥檙 yst芒d ddatgan rhwymedigaeth i Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf ar eu cyfer.

Sut i gofrestru

I gofrestru yst芒d, mae angen i chi fod 芒 chyfrif gwasanaethau asiant. Os oes gennych un eisoes, mae angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檙 cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a gr毛wyd gennych pan wnaethoch sefydlu鈥檙 cyfrif.

Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch greu un y tro cyntaf i chi gofrestru yst芒d. Bydd angen y canlynol arnoch:

Rhaid i chi fod y person sy鈥檔 gyfrifol am faterion treth neu weinyddol eich cwmni asiant. Pan fyddwch wedi sefydlu cyfrif gwasanaethau asiant, gallwch ychwanegu gweinyddwyr a chynorthwywyr cyn cofrestru yst芒d.

Argaeledd y gwasanaeth

Gall gwasanaethau CThEF fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Ar 么l i chi gofrestru

Bydd CThEF yn anfon UTR yr yst芒d at y cynrychiolydd personol, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd angen UTR yr yst芒d arnoch i ddechrau cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:

Nid yw cofrestru yst芒d eich cleient yn rhoi awdurdod i chi weithredu ar ei ran. Mae angen awdurdod ar CThEF drwy ddefnyddio ffurflen 64-8 i gyfathrebu 芒 chyfrifydd, asiant treth neu ymgynghorydd sy鈥檔 gweithredu ar ran cynrychiolydd personol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Ebrill 2025 show all updates
  1. Information has been added on chargeable gains and claims when you have reported them on a Capital Gains Tax on UK Property return.

  2. This guide has been updated to show circumstances when you should not register your client's estate.

  3. The informal payments arrangements process has been updated.

  4. Welsh translation has been added.

  5. This guide has been updated to show circumstances when you should not register your client's estate.

  6. The guide has been updated to give more clarification on who should register and who should not register.

  7. The 'How to register' section has been updated to include more detail on creating an agent services account.

  8. Updated content to make clear what you need to register for an agent services account.

  9. The guidance has been updated to explain more about how to register an estate, and that you need an agent services account before being able to register.

  10. First published.

Argraffu'r dudalen hon