Canllawiau

Cofrestru yst芒d fel cynrychiolydd personol

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru yst芒d person ymadawedig os ydych yn ysgutor, yn weinyddwr neu鈥檔 gynrychiolydd personol.

Pwy ddylai gofrestru

Os ydych yn ysgutor, yn weinyddwr neu鈥檔 gynrychiolydd personol, bydd angen i chi gofrestru yst芒d os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • mae鈥檙 yst芒d yn werth mwy na 拢2.5 miliwn ar ddyddiad y farwolaeth
  • mae gwerth asedion a werthir gan y cynrychiolydd personol mewn blwyddyn dreth dros 拢500,000
  • mae cyfanswm y Dreth Incwm a鈥檙 Dreth Enillion Cyfalaf sy鈥檔 ddyledus ar gyfer y cyfnod rhwng dyddiad y farwolaeth a dyddiad setlo鈥檙 yst芒d (y 鈥榗yfnod gweinyddu鈥�) yn fwy na 拢10,000

Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) er mwyn i chi allu llenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Yst芒d.

Mae ffordd wahanol o gofrestru os ydych yn asiant sy鈥檔 gweithredu ar ran yst芒d.

Pryd i ddefnyddio trefniadau anffurfiol

Dylech ddefnyddio trefniadau anffurfiol os nad oes angen i chi gofrestru鈥檙 yst芒d, a bod gan yr yst芒d dreth i鈥檞 thalu.

Does dim angen cofrestru nac anfon datganiad os nad oes gan yr yst芒d unrhyw incwm trethadwy neu enillion trethadwy, ar yr amod nad oes angen i chi wneud cais am ryddhad neu ddewisiad.

Hyd at 5 Ebrill 2024, os mai llog o gyfrif banc oedd yr unig incwm a gafodd yr yst芒d yn ystod y cyfnod gweinyddu, a hynny鈥檔 llai na 拢500, nid oes rhaid i chi roi gwybod i CThEF am incwm yr yst芒d.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, os bydd gan yst芒d unrhyw fath o incwm hyd at 拢500, ni fydd angen talu Treth Incwm ar yr incwm hwnnw wrth iddo godi. Os bydd yr incwm yn mynd heibio鈥檙 trothwy hwnnw, bydd treth yn daladwy ar y swm llawn.

Bydd y swm sy鈥檔 rhydd o dreth, sef 拢500, yn berthnasol i鈥檙 canlynol:

  • pob blwyddyn dreth o鈥檙 gweinyddu
  • pob math o incwm, ar 么l didynnu incwm o ISA gan ei fod yn dal i fod yn esempt ar 么l i berson farw hyd nes bod y cyfrif yn cau, neu hyd at 3 blynedd wedi鈥檙 farwolaeth

Pryd i gofrestru

Cofrestrwch yr yst芒d erbyn 5 Hydref ar 么l y flwyddyn dreth pan mae鈥檙 yst芒d yn dechrau cael incwm, neu pan mae ganddi enillion cyfalaf lle y mae treth yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf.

Er enghraifft, os cafodd eich yst芒d rywfaint o log am y tro cyntaf ym mis Mai 2023 (sef blwyddyn dreth 2023 i 2024) a daeth yn agored i Dreth Incwm arno, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref 2024 (sef blwyddyn dreth 2024 i 2025).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Manylion y cynrychiolydd personol

Bydd angen i chi ddarparu eich:

  • enw
  • cyfeiriad gohebu
  • rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn ddinesydd o鈥檙 DU)
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ff么n
  • dyddiad geni

Os nad ydych yn gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi roi:

  • manylion eich pasbort (y rhif a鈥檙 dyddiad dod i ben)
  • eich cyfeiriad

Manylion am y person sydd wedi marw

Bydd angen i chi roi ei:

  • enw
  • cyfeiriad diwethaf
  • dyddiad geni
  • dyddiad marwolaeth
  • rhif Yswiriant Gwladol (os oedd yn ddinesydd o鈥檙 DU)

Blynyddoedd o rwymedigaeth treth

Bydd angen i chi ddewis y blynyddoedd treth y mae angen Ffurflen Dreth ar gyfer:

  • Treth Incwm
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf fel ei gilydd

Sut i gofrestru

Cyn y gallwch gofrestru yst芒d, mae angen i chi gael Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych y manylion mewngofnodi hyn, gallwch eu creu y tro cyntaf i chi gofrestru.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad e-bost (bydd hyn yn gysylltiedig 芒 chyfrif Porth y Llywodraeth yr yst芒d)
  • eich enw llawn

Mae鈥檔 rhaid i chi ddewis cyfrif Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad er mwyn cofrestru.

Bydd arnoch angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) newydd ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer pob yst芒d yr ydych yn ei chofrestru.

Gall gwasanaethau CThEM fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn.

Ar 么l i chi gofrestru

Byddwn yn anfon UTR atoch, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd angen yr UTR arnoch i ddechrau cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Gallwch wneud hyn drwy naill ai:

Ar 么l i chi anfon eich Ffurflen Dreth, bydd CThEM yn rhoi gwybod i chi faint sydd ar yr yst芒d. Bydd angen i chi dalu鈥檙 bil Hunanasesiad erbyn y dyddiad cau.

Gwneud newidiadau i fanylion yr yst芒d

Gallwch reoli manylion eich yst芒d os oes angen i chi:

  • newid gwybodaeth am yr yst芒d
  • awdurdodi asiant
  • cau yst芒d

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2024 show all updates
  1. Dates under 'When to register' section have been updated. Information added to 'When to use informal arrangements' section.

  2. We have updated the dates under 'When to register' as part of annual uprating.

  3. Welsh translation has been added.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon