Canllawiau

Cofrestrwch eich busnes fel cymeradwywr rheolaeth adeiladu

Rhaid i bob busnes sector preifat sydd am wneud gwaith rheoli adeiladu yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Adeiladu 1984 (fel y'i diwygiwyd) wneud cais i gofrestru gyda鈥檙 Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (BSR).

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

I wneud cais, ffoniwch ni ar 0300 790 6787. Bydd eich cyfraddau galwadau arferol yn gymwys.

Byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost ac yn anfon ffurflen gais, taenlen a dolen ShareFile atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i lenwi a lanlwytho eich cais.

Pwy ddylai gofrestru

Gall Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (RBCA) fod yn fusnes annibynnol, yn rhan o gr诺p corfforaethol ehangach, yn unig fasnachwr neu鈥檔 bartneriaeth.

Dylai uwch weithiwr sy鈥檔 gallu cynrychioli鈥檙 busnes gyflwyno鈥檙 cais. Er enghraifft, perchennog, cyfarwyddwr, partner neu uwch-reolwr. Y person hwn fydd prif gyswllt BSR.

Yr hyn y byddwn yn gofyn amdano

Yn ystod eich cais byddwn yn gofyn i chi ddarparu:

  • gwybodaeth am eich busnes, fel enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ff么n
  • y swyddogaethau rheoli adeiladu y bydd eich busnes yn eu gwneud, ac a yw鈥檔 cynnig gwasanaethau ychwanegol heblaw i reoli adeiladu
  • gwybodaeth am y person y dylem gysylltu ag ef i drafod eich cais, fel enw, e-bost a rhif ff么n, a鈥檌 r么l yn y busnes
  • nifer yr arolygwyr adeiladu cofrestredig ac arolygwyr adeiladu sy鈥檔 aros i gael eu cofrestru y mae eich busnes yn eu cyflogi neu鈥檔 llunio contractau 芒 nhw

Byddwn yn gofyn a yw eich busnes, neu a oedd, yn arolygydd cymeradwy sydd wedi鈥檌 gofrestru gyda CICAIR, p鈥檜n a yw鈥檔 destun unrhyw gamau parhaus, fel sancsiynau, ac a oes gennych unrhyw brosiectau adeiladu risg uwch cyfredol ar y gweill.

Byddwn yn gofyn i chi lanlwytho diagram o strwythur sefydliadol eich busnes, gan gynnwys lle mae鈥檔 rhan o strwythur gr诺p ehangach.

Byddwn yn gofyn i chi am enwau perchnogion a chyfarwyddwyr presennol, ac am:

  • unrhyw gwmn茂au eraill y maent yn gyfarwyddwyr arnynt neu 芒 buddiant ynddynt a all achosi gwrthdaro buddiannau
  • a oes ganddynt unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol heb eu disbyddu

Byddwn yn gofyn a yw鈥檙 busnes neu unrhyw un o鈥檌 reolwyr neu arolygwyr adeiladu wedi bod yn destun camau gorfodi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau bod gan eich busnes weithdrefnau gweithredu ysgrifenedig sy鈥檔 cwmpasu eich gwaith rheoli adeiladu arfaethedig.

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau bod gan eich busnes bolis茂au ar gyfer:

  • recriwtio a datblygu
  • chwythu鈥檙 chwiban
  • gwrthdaro buddiannau
  • gwyngalchu arian
  • iechyd, diogelwch a lles
  • diogelu data
  • ymddygiad staff
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • rheoli contractwyr
  • ymdrin 芒 chwynion
  • archwilio mewnol
  • yswiriant

Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau y byddwch:

  • yn cydymffurfio 芒鈥檙 rheolau ymddygiad proffesiynol (PCRs) a鈥檙 rheolau safonau gweithredol (OSRs) ar gyfer y gwledydd rydych wedi cofrestru ynddynt
  • yn diweddaru鈥檙 wybodaeth a ddarperir i gefnogi eich cofrestriad o fewn 28 diwrnod ar 么l iddo newid
  • yn cydsynio bod rhai o fanylion eich cofrestriad yn cael eu cyhoeddi

Talu am gofrestru

P鈥檜n a ydych yn cofrestru yng Nghymru, Lloegr neu yn y ddwy wlad, bydd rhaid i chi dalu:

  • t芒l cofrestru o 拢4,494
  • t芒l o 拢130 yr awr i鈥檔 staff i adolygu eich cais
  • t芒l cynhaliaeth blynyddol o 拢3,439 (sy鈥檔 ddyledus o鈥檙 flwyddyn gyntaf ar 么l cofrestru)

Gallwch ddysgu mwy am:聽

Bydd eich cofrestriad am 5 mlynedd, oni bai ei fod yn amrywiol, wedi鈥檌 atal neu ei ganslo gan BSR.

Cyn i chi ddechrau

Os nad ydych yn si诺r am unrhyw un o鈥檙 gofynion hyn, darllenwch y canllawiau ar y dudalen hon am reoleiddio RBCAs o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022, a鈥檔 rheolau ymddygiad proffesiynol a鈥檔 rheolau safonau gweithredol.

Ar 么l i chi gyflwyno鈥檙 cais

Byddwn yn adolygu鈥檙 cais ac, os oes angen, yn gofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth. Efallai y gofynnir i chi ddarparu cop茂au o ddogfennaeth, a gallech gael eich gwahodd i gyfweliad.

Os na chaiff yr holl gwestiynau eu hateb ar y ffurflen gais, neu os na ddarparwyd digon o wybodaeth, yna bydd y cais yn cael ei wrthod.

Gwneud penderfyniad

Byddwn yn dweud wrthych a yw鈥檙 cais yn cael ei gymeradwyo, ei gymeradwyo o dan amodau, neu ei wrthod. Mewn achosion lle mae鈥檙 cais yn destun amodau neu yn cael ei wrthod, byddwn yn dweud wrthych pam. Gallwch herio鈥檙 penderfyniad. Mae鈥檙 broses yn wahanol yn dibynnu a wnaethoch gais i gofrestru yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 ddau. I ofyn am adolygiad o benderfyniad cofrestru yn Lloegr, cysylltwch 芒 BSR o fewn 21 diwrnod o dderbyn eich penderfyniad. Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • cyfeirnod eich cais
  • y dyddiad y gwnaed y penderfyniad
  • y rhesymau pam eich bod am i ni adolygu鈥檙 penderfyniad
  • unrhyw wybodaeth bellach a allai fod yn berthnasol ond nad oedd ar gael ar adeg y penderfyniad gwreiddiol

Os ydych, ar ddiwedd yr adolygiad, yn destun amodau neu鈥檔 cael eich gwrthod, gallwch apelio i鈥檙 Tribiwnlys Haen Gyntaf.

I apelio yn erbyn penderfyniad cofrestru yng Nghymru, gallwch gyflwyno ap锚l gyda鈥檙 Llysoedd Ynadon o fewn 21 diwrnod i dderbyn y penderfyniad. Gellir ymestyn y terfyn amser hwn gyda chytundeb ysgrifenedig BSR.

Cofrestr gyhoeddus

Mae manylion pob RBCA yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus. Mae鈥檙 gofrestr yn caniat谩u i bobl gadarnhau pa fusnesau sydd wedi鈥檜 cofrestru fel RBCAs, a鈥檙 gwaith y maent wedi鈥檜 cofrestru i鈥檞 wneud.

Mae un gofrestr ar gyfer Cymru ac un ar gyfer Lloegr. Bydd eich busnes yn cael ei gynnwys ar y cofrestri ar gyfer y gwledydd y nodwch eich bod yn gweithio ynddynt.

Mae鈥檙 gofrestr yn dangos:

  • enw a chyfeiriad yr RBCA
  • y math o waith rheoli adeiladu y mae鈥檙 RBCA wedi鈥檌 gofrestru i鈥檞 wneud
  • dyddiad dechrau a gorffen cofrestru
  • manylion unrhyw amodau cofrestru

Gallwch chwilio trwy鈥檙:

Tynnu oddi ar y gofrestr

Gellir tynnu RBCA o鈥檙 gofrestr:

  • os yw鈥檙 busnes yn stopio gwneud gwaith rheoli adeiladu a reoleiddir ac yn gofyn am gael ei dynnu oddi ar y gofrestr
  • os nad yw鈥檙 cofrestriad yn cael ei adnewyddu
  • os yw cofrestriad yr RBCA yn cael ei atal neu ei ganslo gennym ni

Os yw RBCA yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr, byddwn yn parhau i gadw鈥檙 wybodaeth yn unol 芒鈥檔 polisi cadw data.

Os ydych am wneud cais i dynnu eich manylion oddi ar y gofrestr, ffoniwch ni ar 0300 790 6787.

Gwneud newidiadau i鈥檆h cofrestriad

Mae鈥檔 rhaid i chi ein hysbysu o fewn 28 diwrnod o unrhyw newidiadau sy鈥檔 berthnasol i鈥檆h cofrestriad RBCA, sy鈥檔 cynnwys:

  • newid strwythur rheoli
  • newid cyfarwyddwr neu bartner
  • newid perchnogaeth
  • newid i鈥檙 prif gyswllt ar gyfer RBCA
  • unrhyw gosbau proffesiynol gan gyrff eraill
  • unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol heb eu disbyddu, fel y nodir yn y rheolau ymddygiad proffesiynol, ar gyfer naill ai y busnes neu鈥檙 uwch berson茅l
  • os yw鈥檙 RBCA yn rhoi鈥檙 gorau i fasnachu am unrhyw reswm, er enghraifft ansolfedd

I newid manylion cofrestriad RBCA, ffoniwch ni ar 0300 790 6787. Bydd eich cyfraddau galwadau arferol yn gymwys.

Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am tan 5pm, ac eithrio dydd Mercher pan fyddwn ar agor rhwng 10am a 5pm, a gwyliau cyhoeddus pan fyddwn ar gau.

Byddwn yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost ac yn anfon ffurflen a dolen ShareFile atoch gyda chyfarwyddiadau ar sut i gwblhau ac lanlwytho eich newidiadau.

Nid oes angen i chi ailgofrestru鈥檙 RBCA ar 么l gwneud newid oni bai bod y cofrestriad ar fin dod i ben.

Ni allwch drosglwyddo cofrestriad RBCA i fusnes arall.

Darllenwch fwy am y newidiadau y mae鈥檔 rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt yn adran rheolau cofrestru

Rheoleiddio RBCAs

Mae鈥檔 rhaid i RBCAs yng Nghymru gydymffurfio 芒:

Mae鈥檔 rhaid i RBCAs yn Lloegr gydymffurfio 芒:

Os bydd RBCA yn torri鈥檙 rheolau safonau gweithredol (OSRs), gallwn gyflwyno rhybudd gwella a rhybudd tramgwydd difrifol. Os bydd yr RBCA yn parhau i dorri鈥檙 rheolau, gallwn ganslo ei gofrestriad.

Os bydd RBCA yn torri鈥檙 rheolau ymddygiad proffesiynol, gallwn gyflwyno cosbau.

Trefniadau monitro rheolau safonau gweithredol

Mae trefniadau ar gyfer monitro rheolau safonol gweithredol yn cynnwys rhestr o ddata y mae鈥檔 rhaid i RBCA ei anfon at BSR bob chwarter a bob blwyddyn.

Dylai RBCA gyflwyno data am reolau safonau gweithredol trwy lawrlwytho templed y daenlen berthnasol, ei lenwi ac yna ei e-bostio at BSR.

Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig

Wrth wneud gwaith rheoli adeiladu, rhaid i RBCA ystyried cyngor arolygydd adeilad cofrestredig.

Mae鈥檔 rhaid i RBCAs wneud y canlynol:

  • cyflogi arolygwyr adeiladu cofrestredig o鈥檙 dosbarth a鈥檙 categori cywir ar gyfer y math o waith rheoli adeiladu y mae鈥檙 RBCA yn ei wneud
  • cyflogi digon o arolygwyr adeiladu cofrestredig ar gyfer y gwaith rheoli adeiladu y mae鈥檙 RBCA yn ei wneud
  • bod 芒 threfniadau i reoli ansawdd y gwaith a wneir gan arolygwyr adeiladu cofrestredig o dan oruchwyliaeth

Mae cofrestrau o arolygwyr adeiladu ar gyfer Cymru a Lloegr.

Gallwch chwilio drwy鈥檙:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Mawrth 2025 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. Charge of 拢124 changed to 拢130.

  3. Outdated information about when to register and transitional arrangements for registered building control approvers has been removed.

  4. Guidance added about how RBCAs should submit operational standards data

  5. Updated to include guidance for RBCAs in Wales

  6. Changed the wording around convictions you must tell us about, to include only unspent criminal convictions.

  7. This guidance now incorporates the roles and responsibilities of RBCAs.

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon