Canllawiau

Talu rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu (R&D) a orhawliwyd

Sut i dalu rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu os gwnaethoch hawlio gormod.

Cyn i chi wneud taliad, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF ynghylch rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu a or-hawliwyd.

Byddwn yn anfon cyfeirnod talu atoch y gallwch ei ddefnyddio i wneud taliad.

Pryd i dalu

Awgrymwn eich bod yn gwneud taliad ar gyfrif am y swm yn eich cynnig cyn pen 30 diwrnod calendr o gyflwyno鈥檆h datgeliad. Bydd gwneud hynny yn osgoi unrhyw log pellach rhag cronni.

Os yw diwrnod 30 ar y penwythnos neu ar 诺yl y banc, gwnewch yn si诺r bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch.

Gallwch ddod o hyd i hwn ar y llythyr y byddwn yn ei anfon atoch ar 么l i chi gyflwyno鈥檙 datgeliad.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:

  • bydd oedi cyn i鈥檙 taliad gael ei ddyrannu鈥檔 gywir
  • byddwch yn cael nodyn i鈥檆h atgoffa i wneud taliad

Talu ar-lein

Talwch ar-lein gan ddefnyddio un o鈥檙 dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad drwy鈥檆h cyfrif banc ar-lein
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu ar-lein gan ddefnyddio鈥檆h cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy鈥檆h cyfrif banc ar-lein 鈥� gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ar gyfer talu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i鈥檆h cyfrif banc ar-lein, neu鈥檙 cyfrif banc ar eich ff么n symudol, i gymeradwyo鈥檆h taliad.

Bydd angen i chi fod 芒鈥檆h manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy鈥檙 dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae鈥檔 gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Talu 芒 cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os ydych y talu drwy鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 dulliau hyn. Ni allwch dalu 芒 cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae鈥檔 cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Mae鈥檔 rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd 芒鈥檙 rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai鈥檙 cyfeiriad bilio gyd-fynd 芒鈥檙 cyfeiriad y mae鈥檆h cerdyn wedi鈥檌 gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y T欧 Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno鈥檆h taliad ar yr un diwrnod, neu鈥檙 diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiat谩u 3 diwrnod gwaith i鈥檆h taliad gyrraedd CThEF.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i鈥檞 defnyddio os yw鈥檆h cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw鈥檆h cyfrif yn y DU:

  • cod didoli 鈥� 08 32 10
  • rhif y cyfrif 鈥� 12001020
  • enw鈥檙 cyfrif 鈥� HMRC Shipley

Y manylion cyfrif i鈥檞 defnyddio os yw鈥檆h cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw鈥檆h cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) 鈥� GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • cod adnabod y banc (BIC) 鈥� BARCGB22
  • enw鈥檙 cyfrif 鈥� HMRC Shipley

Mae鈥檔 rhaid i chi wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae鈥檔 bosibl y bydd eich banc yn codi t芒l arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi鈥檙 cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i鈥檆h banc chi:

Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Ar 么l i chi dalu

Byddwn yn ysgrifennu atoch yn fuan i roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich datgeliad.聽Bydd rhagor o wybodaeth ynghylch faint o amser y bydd hyn yn ei gymryd ar y llythyr a gawsoch sy鈥檔 cynnwys eich cyfeirnod talu.

Os nad ydym yn derbyn eich datgeliad, bydd CThEF yn cysylltu 芒 chi i roi gwybod i chi beth yw鈥檙 camau nesaf.

Os na allwch dalu鈥檙 swm llawn

Awgrymwn eich bod yn talu swm llawn sydd arnoch pan fyddwch yn cael eich cyfeirnod talu.

Rhowch wybod i ni os na allwch dalu鈥檙 swm llawn sydd arnoch cyn gynted 芒鈥檆h bod yn cael eich cyfeirnod talu.

Bydd manylion cyswllt wedi鈥檜 nodi ar y llythyr hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Rhagfyr 2024

Argraffu'r dudalen hon