Paratoi ar gyfer profion Geiriol a Rhifiadol y Gwasanaeth Sifil
Canllawiau i ymgeiswyr am swyddi sy'n cwblhau prawf ar-lein drwy Swyddi'r Gwasanaeth Sifil.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pam rydym yn defnyddio profion recriwtio ar-lein
Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn defnyddio profion seicometrig ochr yn ochr 芒 dulliau asesu eraill (fel ffurflenni cais, tystiolaeth o sgiliau technegol a chyfweliadau) i asesu gallu, potensial ac a yw person yn bodloni gofynion lefel swydd benodol.
Mae defnyddio profion yn fodd i wneud y canlynol:
- galluogi ymgeiswyr i ddangos eu cryfderau,
- galluogi recriwtwyr i gynnal asesiadau gwrthrychol yn seiliedig ar feini prawf perthnasol,
- dangos ble y gallai ymgeiswyr ddatblygu eu sgiliau.
Ar yr amod y c芒nt eu defnyddio鈥檔 briodol, mae ein profion yn deg ac yn rhydd o duedd neu wahaniaethu. Felly:
- maent yn cynnig mesuriadau cadarn ac effeithiol,
- Nid oes unrhyw fantais i feddu ar gymwysterau addysgol na phrofiad gwaith ychwanegol,
- gallant ragweld perfformiad ymgeisydd ar gamau dethol diweddarach.
Yr hyn y mae ein profion yn ei fesur
Mae Profion Geiriol a Rhifiadol y Gwasanaeth Sifil yn mesur gallu meddyliol cyffredinol. Cydnabyddir mai hon yw鈥檙 ffordd orau o ragweld perfformiad mewn swydd ar bob lefel, ac ym mhob sector gweithle.
Mae鈥檙 profion hyn yn mesur:
- Prawf geiriol: y gallu i ganfod gwybodaeth berthnasol a dod i gasgliadau rhesymegol o wybodaeth ysgrifenedig.
- Prawf rhifiadol: y gallu i wneud cyfrifiadau, a gwerthuso a dehongli gwybodaeth rifiadol er mwyn datrys problemau.
Mae鈥檙 profion yn asesu eich gallu, sef un o鈥檙 pum elfen yn y Fframwaith Proffiliau Llwyddiant. Mae鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant er mwyn gallu recriwtio mewn ffyrdd hyblyg, gan roi鈥檙 siawns orau posibl o ddod o hyd i鈥檙 person cywir ar gyfer swydd.
Efallai y gofynnir ichi sefyll y Prawf Geiriol, y Prawf Rhifiadol, neu鈥檙 ddau, yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani.
Mae鈥檙 profion hyn yn gallu cael eu cwblhau naill ai鈥檔 Gymraeg neu鈥檔 Saesneg - dewiswch yr opsiwn sy鈥檔 well gennych ar ddechrau鈥檙 prawf. Mae canllawiau Amgen (yn Gymraeg) ar gael ar frig y dudalen hon.
Sefyll prawf
Caiff y prawf ei sefyll ar-lein. Byddwch yn cael gwahoddiad drwy e-bost a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn ar yr hyn i鈥檞 wneud nesaf.
Eich atebion chi eich hun y dylech eu rhoi yn y prawf; ni chewch ofyn am gymorth gan neb arall. Gall y rheolwr sy鈥檔 cyflogi ofyn i ymgeiswyr ailsefyll y prawf o dan oruchwyliaeth 鈥� byddwn yn rhoi gwybod ichi a fydd disgwyl ichi wneud hyn os cewch eich gwahodd i gael cyfweliad.
Yn y prawf geiriol, cewch ddarn o destun, ac wedyn datganiad. Rhaid ichi benderfynu a yw鈥檙 datganiad yn 鈥榞ywir鈥� neu鈥檔 鈥榓nghywir鈥�, neu eich bod yn 鈥榤ethu dweud鈥� yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd.
Yn y prawf rhifiadol, caiff graffiau, tablau neu wybodaeth rifiadol arall eu cyflwyno ichi, ac wedyn cwestiwn 芒 sawl ateb posibl. Rhaid ichi nodi pa ateb yw鈥檙 un cywir.
Bydd gofyn ichi ateb rhai eitemau treialu yn ystod y prawf. Ni chaiff yr eitemau hyn eu sgorio ac ni fyddant yn rhan o鈥檆h asesiad. Bydd eich atebion i鈥檙 cwestiynau hyn yn ein helpu i baratoi cwestiynau newydd ar gyfer profion yn y dyfodol.
Dim terfyn amser
Ni chaiff y profion eu hamseru, ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn cymryd rhwng 15 a 45 munud i gwblhau pob un. Ni fydd yr amser a gymerwch yn effeithio ar eich sg么r derfynol.
Bydd y profion yn addasu yn 么l eich perfformiad 鈥� os byddwch yn ateb cwestiwn yn gywir, efallai bydd y cwestiwn nesaf yn anoddach ac, os byddwch yn ateb cwestiwn yn anghywir, efallai bydd y cwestiwn nesaf yn haws. Mae hyn yn golygu y gall y profion amrywio o ran eu hyd ond, fel arfer, byddant yn fyrrach na phrofion hyd penodol.
Cyn dechrau
Ceisiwch sefyll y prawf cyn gynted 芒 phosibl ar 么l ichi gael eich gwahodd, er mwyn ichi allu datrys unrhyw broblemau technegol neu broblemau mynediad cyn y dyddiad cau. Dylech gyflwyno pob ymholiad neu gais am gymorth o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad cau hwn er mwyn gwneud yn si诺r y cewch ymateb.
Cyngor ar sefyll prawf:
- Sefwch y prawf mewn lle tawel heb ddim byd a all dynnu eich sylw.
- Efallai yr hoffech wneud yn si诺r bod gennych bapur sgrap, beiro a chyfrifiannell.
- Darllenwch holl gyfarwyddiadau鈥檙 prawf yn ofalus.
- Atebwch bob cwestiwn 鈥� ni allwch adael cwestiwn yn wag na mynd yn 么l.
- Gwnewch yn si诺r bod eich cysylltiad 芒鈥檙 rhyngrwyd yn ddibynadwy.
- Ceisiwch sefyll y prawf/profion pan na fyddwch wedi cynhyrfu, ond mae鈥檔 naturiol teimlo ychydig yn nerfus.
- Er na chaiff y profion eu hamseru, rydym yn argymell caniat谩u o leiaf awr i gwblhau pob un.
Profion ymarfer
Cyn sefyll y Prawf Geiriol neu鈥檙 Prawf Rhifiadol,, dylech ymgyfarwyddo 芒 sefyll profion seicometrig. Mae yna gwestiynau enghreifftiol ar ddechrau pob prawf, ac rydym hefyd wedi datblygu dwy set ar wah芒n o gwestiynau ymarfer.
Gall y rhain fod yn arbennig o ddefnyddiol os byddwch yn defnyddio technoleg gynorthwyol gyda chynnwys gwe, a鈥檆h bod am weld a yw鈥檔 gweithio gyda鈥檔 profion ni. Rydym yn argymell naill ai ateb y cwestiynau enghreifftiol neu sefyll prawf ymarfer llawn cyn rhoi cynnig ar y prawf go iawn, er mwyn ymgyfarwyddo鈥檔 llawn.
Gallwch hefyd wylio鈥檙 fideos byr hyn sy鈥檔 esbonio sut mae鈥檙 profion yn gweithio:
Mynediad i鈥檙 profion
Os ydych wedi gwneud cais am swydd lle mae angen sefyll prawf, gallwch gael mynediad i鈥檙 prawf/profion perthnasol o鈥檆h canolfan ceisiadau yn Swyddi鈥檙 Gwasanaeth Sifil.
Mae鈥檙 profion yn gweithio ar y rhan fwyaf o borwyr gwe a systemau gweithredu modern, cyn belled 芒 bod gennych gysylltiad dibynadwy 芒鈥檙 rhyngrwyd. Os nad yw eich porwr yn gydnaws, bydd y prawf yn dweud wrthych am roi cynnig ar borwr gwahanol. Gallwch gau鈥檙 prawf a鈥檌 ailagor yn yr un man, ond dylech geisio ei gwblhau ar un tro os oes modd.
Er y dylent weithio ar ffonau clyfar neu lechi, mae ein profion yn gweithio鈥檔 well o lawer ar ddyfeisiau 芒 sgrin fawr 鈥� er enghraifft, gliniaduron neu gyfrifiaduron desg. Os nad oes gennych eich cyfrifiadur eich hun, mae opsiynau ar gael 鈥� er enghraifft, eich llyfrgell leol.
Rhaid ichi fod wedi鈥檆h cysylltu 芒鈥檙 rhyngrwyd drwy gydol y prawf/profion. Os byddwch yn colli cysylltiad 芒鈥檙 rhyngrwyd, gallwch barhau 芒鈥檙 prawf o鈥檙 un man ar 么l ichi ailgysylltu. Os byddwch yn colli tudalen y prawf, ewch yn 么l i鈥檆h canolfan ceisiadau i鈥檞 hailagor.
Eich sg么r a鈥檆h canlyniadau
Bydd sg么r yn cael ei rhoi ichi yn seiliedig ar nifer y cwestiynau a atebwyd a pha mor anodd oeddent, a chaiff eich sg么r ei chymharu 芒 gr诺p cynrychioladol o ymgeiswyr a fydd hefyd wedi sefyll y prawf.
Caiff eich sg么r ei chyflwyno fel canradd, a fydd yn dweud wrthych pa mor dda oedd eich perfformiad mewn perthynas 芒鈥檙 gr诺p hwn. Er enghraifft, os mai 44 yw eich canradd, mae eich sg么r yn well na 44% o鈥檙 gr诺p.
Caiff pob un o swyddi鈥檙 Gwasanaeth Sifil eu hysbysebu ar lefel benodol. Os byddwch yn llwyddo yn y prawf ar y safon isaf sy鈥檔 ofynnol ar gyfer y lefel swydd berthnasol, caiff neges ei hanfon atoch yn rhoi gwybod ichi.
Wedyn, bydd un o ddau beth yn digwydd:
- os bydd angen sefyll unrhyw brofion ychwanegol, cewch wahoddiad i wneud hynny, neu
- ar 么l y dyddiad cau ar gyfer y prawf, bydd y recriwtiwr yn edrych ar sg么r pob ymgeisydd i benderfynu beth fydd y marc llwyddo ar gyfer y swydd. Bydd yn ystyried yr effaith ar grwpiau gwarchodedig, a鈥檙 nifer o wahoddiadau i鈥檙 cam nesaf.
Gall y recriwtiwr benderfynu codi鈥檙 marc llwyddo ar gyfer y swydd 鈥� os felly, cewch wybod am hynny a ph鈥檜n a ydych wedi llwyddo neu fethu ar y safon uwch.
Ni fydd bodloni鈥檙 gofynion prawf sylfaenol ar gyfer lefel swydd yn golygu bod sicrwydd y cewch gwahoddiad i barhau 芒鈥檙 broses ddethol.
Os na fyddwch yn llwyddo ar y safon isaf sy鈥檔 ofynnol ar gyfer lefel swydd, gallwch ailsefyll y prawf yn ystod unrhyw geisiadau yn y dyfodol.
Bancio scoriae
Os byddwch yn pasio prawf geiriol neu rifiadol ar y safon ofynnol neu鈥檔 uwch, bydd eich sg么r yn cael ei gadw ac ni fydd angen i chi ail-sefyll y prawf os gwnewch gais am swyddi yn y dyfodol yn yr un gr诺p gradd (gwelwch esboniad o鈥檙 grwpiau, isod). Mae hyn oherwydd y bydd eich sg么r yn cael ei ail-ddefnyddio
Os na fyddwch yn pasio, nid oes angen i chi aros am gyfnod cyn sefyll y prawf eto am unrhyw swyddi y gwnewch gais amdanynt yn y dyfodol.
Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd sy鈥檔 gofyn i chi sefyll prawf, bydd Swyddi鈥檙 Gwasanaeth Sifil yn gwirio a oes gennych sg么r prawf cymwys wedi ei gadw.
- Os oes sg么r gennych - ni chewch eich gwahodd i鈥檙 prawf.
- Os nad oes sg么r gennych - fe鈥檆h gwahoddir i鈥檙 prawf, a bydd rhaid i chi ei sefyll.
Bydd sg么r a gedwir yn dod i ben pan fodlonir unrhyw un o鈥檙 amodau canlynol:
- Bod chwe mis wedi mynd heibio ers sicrhau鈥檙 sg么r a gedwir
- Mae meincnod sg么r newydd yn cael ei gosod ar gyfer y prawf
- Mae gwaith technegol ar y platfform prawf yn digwydd sy鈥檔 effeithio ar sgoriau a gedwir
Yn yr achosion hyn, bydd angen i chi sefyll y prawf eto.
Gallwch gadw sg么r ar y profion Geiriol neu Rifiadol dim ond ar gyfer gr诺p lefel gradd y swydd y gwnaethoch gais amdani. Ar gyfer y profion hyn, mae鈥檙 lefelau gradd wedi eu grwpio fel a ganlyn:
- Cynorthwyydd Gweinyddol (AA) a Swyddog Gweinyddol (AO)
- Swyddog Gweithredol (EO)
- Swyddog Gweithredol Uwch (HEO) ac Uwch Swyddog Gweithredol (SEO)
- Gradd 7 a Gradd 6
Mae hyn yn golygu, er enghraifft, os byddwch yn gwneud cais am swydd ar lefel SEO ac yn pasio鈥檙 prawf, bydd eich sg么r a gedwir hefyd yn berthnasol ar gyfer unrhyw swyddi ar lefel HEO rydych yn gwneud cais amdanynt tra bod y sg么r a gedwir yn dal i fod yn ddilys.
Lle nad oes gan Adran y Llywodraeth y graddau hyn, byddant yn dewis lefel briodol o brawf ar gyfer eu swydd wag.
Os gwnewch gadw sg么r ar brawf, ni fydd yn trosglwyddo rhwng profion.
Cael cymorth
Os byddwch yn colli mynediad yn ystod y prawf, mewngofnodwch i鈥檆h canolfan ceisiadau i鈥檞 ail-lansio. Gallwch lansio鈥檙 prawf cynifer o weithiau ag y bo angen, ac nid oes rhaid i hyn fod ar yr un ddyfais.
Os bydd gennych unrhyw bryderon yngl欧n 芒 chael problemau technegol wrth sefyll unrhyw brawf, cysylltwch 芒鈥檆h t卯m recriwtio 鈥� mae manylion cyswllt y t卯m i鈥檞 gweld yn yr hysbyseb swydd, neu gallwch ddefnyddio ein gyffredinol. Dylai cwestiynau am y swydd sy鈥檔 cael ei hysbysebu gael eu cyfeirio at yr unigolyn cyswllt yn yr hysbyseb.
Pan fyddwch yn gwneud cais, cewch gyfle i ddweud wrthym fod angen help arnoch gyda鈥檆h cais, fel yr angen am addasiad rhesymol. Gallwch hefyd gysylltu 芒鈥檙 t卯m recriwtio os bydd angen rhagor o help arnoch, neu os byddwch yn cael problemau hygyrchedd. Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i wneud addasiadau rhesymol, felly peidiwch 芒 bod ofn gofyn am help os byddwch yn credu bod angen hynny arnoch.
Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein Addasiadau Rhesymol ar gyfer Profion Ar-lein - tudalen ganllaw i ymgeiswyr.
Sut y byddwn yn defnyddio eich data
Caiff gwybodaeth bersonol ei chadw鈥檔 ddiogel yn Swyddi鈥檙 Gwasanaeth Sifil 鈥� ni all y cyflenwr profion ei gweld, a dim ond os byddwch yn dewis rhannu eich enw y caiff ei wybod.
Dim ond i ategu eich cais am swydd a gwerthuso effeithiolrwydd y prawf y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.
Am ragor o wybodaeth, gweler .