Help gyda phensiynau ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Dod o hyd i wybodaeth am roi gwybod am incwm o bensiynau, taliadau treth ar gynilion pensiwn a hawlio rhyddhad ar gyfraniadau at bensiwn ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Darllenwch ragor am ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat, a gwirio a oes angen i chi ei hawlio yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Taflen gymorth ar lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau penodol o鈥檆h Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Defnyddiwch daflen gymorth Cynilion Pensiwn 鈥� taliadau treth (HS345) (yn agor tudalen Saesneg) i鈥檆h helpu gyda datgan y canlynol:
-
taliadau treth ar gynilion pensiwn
-
cyfandaliadau trethadwy o gynlluniau pensiwn tramor
Fideo YouTube CThEF
Gwyliwch recordiad o weminar yngl欧n 芒 rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein.
Byddwch yn dysgu am y canlynol:
-
datgan incwm o bensiwn preifat a phensiwn y Wladwriaeth
-
rhyddhadau treth, gan gynnwys talu i gynlluniau pensiwn cofrestredig a chynlluniau pensiwn tramor
Ffurflen Dreth bapur
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio鈥檙 dudalen atodol SA101 er mwyn rhoi gwybod am daliadau treth ar gynilion pensiwn.