Canllawiau

Anghytundebau ac anghydfodau o fewn elusennau

Datrys anghydfodau rhwng ymddiriedolwyr, staff neu aelodau eich elusen er mwyn osgoi rhoi arian a defnyddwyr eich elusen mewn perygl.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Pam mae anghydfodau mewnol yn broblem

Weithiau bydd ymddiriedolwyr elusen, staff ac aelodau yn anghytuno 芒鈥檌 gilydd ynghylch penderfyniadau am yr elusen.

Gall anghytundeb difrifol o fewn elusen achosi problemau i鈥檙 elusen a niweidio ei henw da.

Eich cyfrifoldeb chi fel ymddiriedolwyr yw ceisio datrys anghytundeb neu anghydfod. Gall y Comisiwn Elusennau weithredu mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

Sut i ddatrys anghydfod eich hun

Gall dogfen lywodraethol eich elusen gynnwys 鈥榗ymal anghydfodau鈥� gyda gweithdrefnau ar gyfer delio ag anghydfod. Hyd yn oed os nad yw, dylech wneud popeth a allwch i ddod i gytundeb eich hunain.

Pryd i gael cymorth allanol

Mae鈥檔 rhaid i ymddiriedolwyr elusen ac aelodau gydweithio i ddatrys unrhyw anghytuno sydd rhyngddynt. Os na all eich ymddiriedolwyr ddod i gytundeb a dilyn y cyfarwyddiadau yn eich dogfen lywodraethol, efallai y bydd rhaid i chi geisio ychydig o gymorth allanol annibynnol.

Bydd trydydd parti annibynnol yn edrych ar y ddwy ochr ac yn cynnig rhai ffyrdd newydd o ddatrys yr anghydfod.

Os yw鈥檙 anghydfod yn ymwneud 芒鈥檙 ffordd y mae鈥檆h elusen yn cael ei rhedeg, gallech:

  • gysylltu 芒 chorff cenedlaethol neu gorff mantell yr elusen, os oes un ganddi
  • cysylltu 芒 sefydliad megis y
  • gofyn i arweinydd eglwys lleol neu hynafgwr cymunedol am gymorth, os yw鈥檔 anghydfod crefyddol

Cyfryngu

Mae cyfryngu yn ffordd fwy ffurfiol o ddatrys anghydfodau. Mae鈥檔 broses breifat a chyfrinachol lle mae unigolyn annibynnol yn cwrdd 芒鈥檙 ddwy ochr, ac yn eu helpu i gael hyd i ateb sy鈥檔 dderbyniol i bawb.

Gall cyfryngu fod yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Drwy gyfryngu, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ddwy ochr gytuno i unrhyw ateb, felly mae鈥檔 fwy tebygol o fod yn gytundeb sy鈥檔 para.

Os yw鈥檆h anghydfod yn mynd i鈥檙 llys, disgwylir i chi fod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu yn gyntaf.

Mae gan y rwydwaith o gyfryngwyr.

Pryd i gynnwys y comisiwn

Gall y comisiwn ymwneud ag anghydfodau mewnol dim ond:

  • os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr (neu ymddiriedolwyr wedi鈥檜 penodi鈥檔 gywir) yn eu swydd, a
  • gallwch ddangos bod pob ymdrech i ddatrys yr anghydfod wedi methu

Mae鈥檔 rhaid i unrhyw ymddiriedolwyr fod wedi cael eu penodi drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn nogfen lywodraethol eich elusen. Os nad oes unrhyw ymddiriedolwyr wedi鈥檜 penodi鈥檔 briodol gennych chi, gall y comisiwn weithredu i鈥檆h helpu i gael corff llawn o ymddiriedolwyr.

Os yw鈥檙 comisiwn yn gweld tystiolaeth o gamymddygiad neu gamreoli sy鈥檔 rhoi arian a defnyddwyr eich elusen mewn perygl, bydd yn gweithredu ac yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd.

Hyd yn oed ar 么l i鈥檙 comisiwn weithredu, mae鈥檔 rhaid i鈥檆h ymddiriedolwyr gydweithio i gael hyd i ateb. Os yw鈥檙 comisiwn yn meddwl na fydd modd datrys yr anghydfod, gall dynnu ei gymorth yn 么l neu hyd yn oed gyfarwyddo鈥檆h elusen i atal gweithredu a dirwyn i ben.

Pryd na fydd y comisiwn yn gweithredu

Ni fydd y comisiwn yn gweithredu os yw鈥檆h anghydfod yn ymwneud 芒 phenderfyniadau neu bolis茂au ymddiriedolwyr. Mae ymddiriedolwyr yn rhydd i wneud penderfyniadau ar gyfer eu helusen, ar yr amod eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith ac o fewn rheolau dogfen lywodraethol yr elusen.

Gall fod sefydliadau eraill sydd mewn sefyllfa well i weithredu mewn rhai anghydfodau arbennig. Er enghraifft, gwnewch gais i dribiwnlys cyflogaeth ar gyfer materion cyflogaeth gan gynnwys diswyddo annheg.

dim ond os yw pob ymgais i ddatrys y mater wedi methu ac nid oes unrhyw ymddiriedolwyr wedi鈥檜 penodi鈥檔 briodol gennych chi. Bydd rhaid i chi roi tystiolaeth ysgrifenedig am yr anghydfod.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Mai 2013

Argraffu'r dudalen hon