Staff elusennau: sut i gyflogi gweithwyr am d芒l
Dilynwch y cyfreithiau cyflogaeth a chynlluniwch ar gyfer risgiau pan fyddwch yn cyflogi gweithwyr am d芒l yn eich elusen.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sut i gael hyd i staff elusennau
Bydd nifer o elusennau yn hysbysebu eu swyddi gwag ar-lein neu mewn papurau newydd. Cewch gyngor ar y broses recriwtio (gan gynnwys ysgrifennu swydd-ddisgrifiadau) gan KnowHow NotProfit:
Dilynwch y gyfraith cyflogaeth
Os ydych yn cyflogi pobl, mae鈥檔 rhaid i chi fod yn ymwybodol o鈥檙 cyfreithiau cyflogaeth a chydymffurfio 芒 nhw, gan gynnwys:
- rheolau pensiwn i elusennau
- cyflogres a thalu鈥檙 lleiafswm cyflog
- iechyd a diogelwch
Os yw鈥檆h elusen yn gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed mae鈥檔 rhaid i chi gymryd camau i鈥檞 diogelu rhag niwed.
Sut i reoli pobl eich elusen
Gall elusennau wynebu nifer o broblemau gwahanol o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 cyflogwr cyffredin. Er enghraifft, mae鈥檔 rhaid i chi:
- adnabod a rheoli gwrthdaro buddiannau, er enghraifft os yw ymddiriedolwr yn gwneud gwaith am d芒l i鈥檙 elusen
- bod yn ymwybodol o risgiau a鈥檜 rheoli, fel colli arian drwy dwyll
- rhoi prosesau yn eu lle i gadw arian eich elusen yn ddiogel
Gosodwch gyfrifoldebau clir i weithwyr ac ymddiriedolwyr
Pan fydd eich elusen yn tyfu, gall newid o fod yn elusen sy鈥檔 cael ei rhedeg gan ymddiriedolwyr yn bennaf i un sy鈥檔 cael ei rhedeg gan staff yn bennaf. Gall hon fod yn adeg anodd i elusennau, wrth i waith a chyfrifoldebau gael eu trosglwyddo. Ceisiwch osgoi anghydfodau a chamreoli drwy osod rolau a chyfrifoldebau clir, yn enwedig rhwng:
- y gwaith o lywodraethu鈥檙 elusen (beth mae鈥檆h bwrdd ymddiriedolwyr yn ei wneud)
- y gwaith o reoli鈥檙 elusen o ddydd i ddydd (beth mae鈥檆h uwch reolwyr a staff yn ei wneud)