Cadarnhau gwiriad treth ar gyfer ceisiadau am drwydded tacsi, trwydded hurio preifat neu drwydded fetel sgrap
Rhaid i awdurdodau trwyddedu gadarnhau bod archwiliad treth wedi鈥檌 gwblhau gan ymgeiswyr sy鈥檔 adnewyddu trwyddedau gyrrwr tacsi, trwyddedau hurio preifat a thrwyddedau metel sgrap, neu eu bod yn gwneud cais am drwydded sydd yn nwylo awdurdod arall.
Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i ymgeiswyr gwblhau gwiriad treth os ydynt yn gwneud cais am un o鈥檙 trwyddedi canlynol:
- gyrrwr tacsi
- gyrrwr hurio preifat
- gweithredwr cerbyd hurio preifat (Cymru a Lloegr yn unig)
- swyddfa archebu (yr Alban yn unig)
- casglwr metel sgrap symudol (teithiol)
- safle deliwr metel sgrap
Newidiodd y rheolau i ymgeiswyr ar gyfer cwblhau gwiriad treth ar 4 Ebrill 2022 yng Nghymru a Lloegr, a bydd y rheolau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yn newid ar 2 Hydref 2023.
Pan rhaid i awdurdod trwyddedu
Rhaid i unigolion, cwmn茂au ac unrhyw fath o bartneriaeth gwblhau gwiriad treth CThEF a rhoi cod gwirio treth i鈥檞 hawdurdod trwyddedu os ydynt yn gwneud y canlynol:
- adnewyddu trwydded
- gwneud cais am yr un math o drwydded a oedd ganddynt yn flaenorol, a ddaeth i ben lai na blwyddyn yn 么l
- gwneud cais am yr un math o drwydded sydd ganddynt eisoes drwy law awdurdod trwyddedu arall
Yna mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 cod gwirio treth i gadarnhau bod y gwiriad treth wedi鈥檌 wneud cyn y gallwch gymeradwyo neu wrthod eu cais.
Dilynwch yr arweiniad ar gyfer cadarnhau cyfrifoldebau treth ymgeisydd os yw鈥檙 ymgeisydd:
- heb ddal yr un math o drwydded
- wedi cael yr un math o drwydded a ddaeth i ben flwyddyn neu fwy cyn gwneud y cais
Ceisiadau gan bartneriaethau
Os daw cais gan bartneriaeth, mae鈥檔 rhaid i chi gael cadarnhad gan CThEF bod pob partner yn y cais wedi cwblhau gwiriad treth.
Er enghraifft:
- os yw un partner wedi gwneud y cais ar ran y bartneriaeth, mae鈥檔 rhaid i chi gael cadarnhad bod y partner dan sylw wedi cwblhau gwiriad treth
- os yw mwy nag un partner yn gwneud cais y bartneriaeth, mae鈥檔 rhaid i chi gael cadarnhad ar wah芒n bod pob un o鈥檙 partneriaid wedi cwblhau gwiriad treth
Os yw rhai o鈥檙 partneriaid wedi cwblhau gwiriadau treth ac eraill heb wneud hynny (er enghraifft, os yw 3 phartner wedi鈥檜 henwi ac wedi llofnodi鈥檙 cais ond dim ond 2 sydd wedi cwblhau gwiriadau treth), bydd angen i chi gael cadarnhad bod pob un ohonynt wedi cwblhau gwiriad treth.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi wybod y canlynol am yr ymgeisydd:
- cod gwirio treth a gyhoeddwyd yn ystod y 120 diwrnod diwethaf
- y math o drwydded
Rhaid i chi ofyn i鈥檙 ymgeisydd roi cod gwirio treth arall i chi os yw鈥檙 cod wedi鈥檌 gyhoeddi dros 120 diwrnod yn 么l.
Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd gael un o鈥檙 canlynol:
- dyddiad geni鈥檙 unigolyn
- Rhif Cofrestru鈥檙 Cwmni, a gyhoeddwyd gan D欧鈥檙 Cwmn茂au
Cadarnhau gwiriad treth ymgeisydd
Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn (yn Saesneg).
Os na allwch gael at y gwasanaeth ar-lein
Os nad yw鈥檙 gwasanaeth ar gael am 5 diwrnod neu fwy o鈥檙 dyddiad y gwnaethoch geisio ei ddefnyddio am y tro cyntaf, nid oes angen i chi gael cadarnhad gan CThEF a gallwch barhau i ddelio 芒鈥檙 cais.
Os nad oes gennych god gwirio treth
Mae鈥檔 rhaid i chi ofyn i鈥檙 ymgeisydd am god gwirio treth os nad yw wedi ei gynnwys gyda鈥檙 cais.
Mae鈥檔 bosibl y bydd yr ymgeisydd yn rhoi gwybod i chi nad oes ganddo god gwirio treth oherwydd nad oedd y gwasanaeth ar-lein ar gael. Os digwyddir hyn:
- rhaid i chi ofyn iddo roi cynnig arall arni i gwblhau gwiriad treth am 5 diwrnod yn olynol
- ar 么l rhoi cynnig arni am 5 diwrnod yn olynol, rhaid i chi wirio nad oedd y gwasanaeth ar gael (yn Saesneg) ar y diwrnodau hyn
Wrth wirio argaeledd y gwasanaeth dewiswch yr opsiwn i ddangos yr holl ddiweddariad er mwyn bwrw golwg dros fanylion problemau blaenorol.
Os ydych yn gallu cadarnhau nad oedd y gwasanaeth ar gael, yna nid yw gwiriad treth yn berthnasol mwyach a gallwch fynd yn eich blaen i ddelio 芒鈥檙 cais.
Os yw鈥檆h gwiriadau鈥檔 dangos bod y gwasanaeth ar gael, mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i鈥檙 ymgeisydd a gofyn am god gwirio treth.
Estyniad i drwydded a dyddiad dod i ben wrth aros am benderfyniad cais am drwydded
Efallai y bydd eich trwydded bresennol yn cael ei hymestyn nes bydd penderfyniad terfynol wedi鈥檌 wneud o ran cymeradwyo eich cais am drwydded (gan gynnwys penderfyniad ar ap锚l) os ydych yn adnewyddu un o鈥檙 canlynol:
- trwydded deliwr metel sgrap a roddwyd yng Nghymru neu yn Lloegr
- trwydded gyrrwr Cerbyd Hacnai Llundain
- trwyddedau a roddwyd yn yr Alban
Os nad yw鈥檙 ymgeisydd yn rhoi cod gwirio treth dilys i chi, bydd ei drwydded yn dod i ben ar ba un bynnag o鈥檙 dyddiadau canlynol yw鈥檙 hwyraf:
- 28 diwrnod ar 么l i chi ofyn am ei god gwirio treth
- y dyddiad y daw ei drwydded i ben
Ar gyfer trwyddedau dros dro yn yr Alban, bydd eich trwydded yn dod i ben ar ba un bynnag o鈥檙 dyddiadau canlynol yw鈥檙 hwyraf:
- 7 diwrnod ar 么l i chi ofyn am ei god gwirio treth
- y dyddiad y daw ei drwydded i ben
Updates to this page
-
Information about private hire vehicle operators has been updated.
-
Made clear that an existing licence may be extended until a final decision to grant your licence application has been made (including a decision on appeal) if you are renewing licences issued in Scotland.
-
Guidance has been updated as rules that currently apply in England and Wales will also apply in Scotland and Northern Ireland from 2 October 2023.
-
A link to the online service to confirm an applicant's tax check has been added along with information about what you should do if you do not have a tax check code or cannot access this online service.
-
Added translation