Cwblhau gwiriad treth ar gyfer trwydded tacsi, trwydded hurio preifat neu drwydded fetel sgrap
Cwblhewch wiriad treth er mwyn adnewyddu trwydded gyrrwr tacsi, trwydded hurio preifat neu drwydded fetel sgrap, neu i wneud cais am yr un math o drwydded gydag awdurdod trwyddedu gwahanol.
Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth os ydych yn gwneud cais am un o鈥檙 trwyddedi canlynol:
- gyrrwr tacsi
- gyrrwr hurio preifat
- gweithredwr cerbyd hurio preifat (Cymru a Lloegr yn unig)
- swyddfa archebu (yr Alban yn unig)
- casglwr metel sgrap symudol (teithiol)
- safle deliwr metel sgrap
Newidiodd y rheolau ar gyfer cwblhau gwiriad treth ar 4 Ebrill 2022 yng Nghymru a Lloegr, a bydd y rheolau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yn newid ar 2 Hydref 2023.
Mae鈥檙 rheolau newydd yn golygu os ydych yn unigolyn, yn gwmni neu鈥檔 unrhyw fath o bartneriaeth, mae鈥檔 rhaid i chi gwblhau gwiriad treth os ydych yn:
- adnewyddu trwydded
- gwneud cais am yr un math o drwydded a oedd gennych yn flaenorol, a ddaeth i ben lai na blwyddyn yn 么l
- gwneud cais am yr un math o drwydded sydd gennych eisoes drwy law awdurdod trwyddedu arall
Ni fydd angen i chi gwblhau gwiriad treth ac fe ddylech ddilyn yr arweiniad ar gyfer cadarnhau eich cyfrifoldebau treth os ydych:
- heb ddal yr un math o drwydded o鈥檙 blaen
- wedi cael yr un math o drwydded a ddaeth i ben flwyddyn neu fwy cyn gwneud y cais hwn
Beth yw gwiriad treth
Mae gwiriad treth yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer treth, os oes angen. Bydd yn gofyn cwestiynau am sut rydych yn talu unrhyw dreth a allai fod yn ddyledus ar incwm yr ydych yn ei ennill wrth gynnal eich masnach drwyddedig.
Mae鈥檔 rhaid i chi gwblhau鈥檙 gwiriad treth eich hun. Ni allwch ofyn i ymgynghorydd neu asiant treth wneud hyn ar eich rhan.
Pan fyddwch wedi cwblhau鈥檙 gwiriad treth, byddwch yn cael cod sy鈥檔 9 cymeriad. Dyma鈥檆h cod gwirio treth. Rhaid i chi ei roi i鈥檙 awdurdod trwyddedu gyda鈥檆h cais am drwydded 鈥� ni fyddant yn gallu prosesu鈥檆h cais hebddo.
Daw鈥檙 codau i ben ar 么l 120 diwrnod, felly os byddwch yn gwneud cais am drwydded arall ar 么l hynny bydd angen i chi wneud gwiriad treth newydd ar ei gyfer.
Os ydych yn bartner sy鈥檔 gwneud cais am drwydded ar ran partneriaeth, bydd yn rhaid i chi gwblhau gwiriad treth i chi eich hun. Bydd eich awdurdod trwyddedu yn dweud wrthych a oes angen i unrhyw bartneriaid eraill gwblhau gwiriad treth hefyd.
Gwneud cais am fwy nag un drwydded
Gallwch ddefnyddio un cod gwirio treth ar gyfer mwy nag un cais am drwydded os yw pob un o鈥檙 ceisiadau ar gyfer yr un math o drwydded (er enghraifft, maen nhw i gyd ar gyfer trwyddedau gyrrwr tacsi ond gydag awdurdodau trwyddedu gwahanol).
Os ydych yn gwneud cais am wahanol fathau o drwydded (er enghraifft, trwydded gyrrwr hurio preifat a thrwydded gweithredwr cerbyd hurio preifat) mae鈥檔 rhaid i chi gwblhau gwiriad treth ar gyfer pob un.
Estyniad i drwydded a dyddiad dod i ben wrth aros am benderfyniad cais am drwydded
Efallai y bydd eich trwydded bresennol yn cael ei hymestyn nes bydd penderfyniad terfynol wedi鈥檌 wneud o ran cymeradwyo eich cais am drwydded (gan gynnwys penderfyniad ar ap锚l) os ydych yn adnewyddu un o鈥檙 canlynol:
- trwydded deliwr metel sgrap a roddwyd yng Nghymru neu yn Lloegr
- trwydded gyrrwr Cerbyd Hacnai Llundain
- trwyddedau a roddwyd yn yr Alban
Os na fyddwch yn rhoi cod gwirio treth dilys i鈥檙 awdurdod trwyddedu, bydd eich trwydded yn dod i ben ar ba un bynnag o鈥檙 dyddiadau canlynol yw鈥檙 hwyraf:
- 28 diwrnod ar 么l i鈥檙 awdurdod trwyddedu ofyn am eich cod gwirio treth
- y dyddiad y daw eich trwydded i ben
Ar gyfer trwyddedau dros dro yn yr Alban, ac os na fyddwch yn rhoi cod gwirio treth dilys i鈥檙 awdurdod trwyddedu, bydd eich trwydded yn dod i ben ar ba un bynnag o鈥檙 dyddiadau canlynol yw鈥檙 hwyraf:
- 7 diwrnod ar 么l i鈥檙 awdurdod trwyddedu ofyn am eich cod gwirio treth
- y dyddiad y daw eich trwydded i ben
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mae angen y canlynol arnoch, er mwyn cynnal gwiriad treth:
- Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
- pryd y cawsoch eich trwydded gyntaf
- hyd eich trwydded fwyaf diweddar
- sut rydych yn talu treth ar yr incwm rydych yn ei ennill o鈥檆h masnach drwyddedig
Cwblhau gwiriad treth
Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn (yn Saesneg).
Os na allwch wneud gwiriad treth ar-lein
Os na allwch wneud gwiriad ar-lein, dylech gysylltu 芒鈥檙 canlynol:
- Treth Incwm: ymholiadau cyffredinol os ydych yn unigolyn
- Treth Gorfforaeth: ymholiadau cyffredinol os ydych yn gwmni
Os nad yw鈥檙 gwasanaeth ar gael
Dylech roi gwybod i鈥檙 awdurdod trwyddedu ar unwaith. Byddant yn gofyn i chi geisio cael mynediad at y gwasanaeth am bum niwrnod yn olynol.
Mae鈥檙 pum niwrnod yn dechrau鈥檙 tro cyntaf i chi geisio cael mynediad at y gwasanaeth ar 么l i鈥檙 awdurdod trwyddedu ofyn i chi wneud hynny. Os nad ydych yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth o hyd na chwblhau gwiriad treth yn ystod y pum niwrnod hynny, sylwer:
- nid oes angen i chi wneud gwiriad treth
- dylech roi gwybod i鈥檙 awdurdod trwyddedu nad ydych wedi gallu cwblhau un
Bydd yr awdurdod trwyddedu鈥檔 gwirio nad oedd y gwasanaeth ar gael cyn penderfynu a ddylid caniat谩u neu wrthod eich cais am drwydded.
Updates to this page
-
Information about private hire vehicle operators has been updated.
-
Made clear that an existing licence may be extended until a final decision to grant your licence application has been made (including a decision on appeal) if you are renewing licences issued in Scotland.
-
Guidance has been updated as rules that currently apply in England and Wales will also apply in Scotland and Northern Ireland from 2 October 2023.
-
A link to the online service to complete a tax check has been added. The page has also been updated with information about what you should do if you cannot complete a tax check online.
-
Added translation