Canllawiau

Gwneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar gyfer ‘Dupuytren’s contracture�

Pwy sy’n gymwys i wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, oherwydd bod ‘Dupuytren’s contracture� yn effeithio ar y llaw, a sut i wneud cais.

Efallai y gallwch gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oes gennych ‘Dupuytren’s contracture� a achoswyd gan eich gwaith.

Mae ‘Dupuytren’s contracture� yn gyflwr lle, dros amser, mae un neu fwy o fysedd yn plygu i mewn yn barhaol tuag at gledr eich llaw ac ni ellir ei sythu mwyach. Gall y cyflwr hwn hefyd effeithio ar y bawd.

Cymhwyster

Rhaid bod gennych ‘Dupuytren’s contracture� a ddechreuodd tra bod y ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • cawsoch eich cyflogi am 10 mlynedd neu fwy mewn swyddi a oedd yn cynnwys defnyddio offer llaw pŵer gyda rhannau mewnol sy’n dirgrynu
  • gwnaethoch ddefnyddio’r offer am 2 awr neu fwy’r dydd am 3 diwrnod neu fwy’r wythnos am yr holl gyfnod o 10 mlynedd

Ac o ganlyniad i’r gwaith hwnnw, fe wnaethoch ddatblygu ‘anffurfiad ystwythder sefydlog� (‘fixed flexion deformity�) mewn un neu fwy o gymalau eich bysedd. Mae hyn yn golygu i bob bys sydd wedi’i effeithio, bod yn rhaid i un neu fwy o gymalau eich bys wedi plygu’n barhaol.

Mae’r llun yn dangos y cymalau rhwng y bysedd a gledr eich llaw (cymalau metacarpophalangeal) a’r cymalau ar hyd y bys (cymalau interffalangeal).

Os mai dim ond y cymal rhwng eich bys a chledr eich llaw sy’n cael ei effeithio, yna rhaid i’r tro parhaol fod yn fwy na 45 gradd.

Os effeithir ar unrhyw un o’r cymalau ar hyd y bys, gallant fod wedi’u plygu’n barhaol i unrhyw radd.

Efallai eich bod wedi datblygu’r tro parhaol i gymalau eich bysedd tra roeddech yn gweithio.

Os datblygoch y tro parhaol i’ch bys ar ôl gadael eich swydd, mae angen i chi hefyd ddangos roedd un o’r canlynol yn berthnasol:

  • bod y cymal rhwng eich bys a chledr eich llaw wedi dechrau plygu tra roeddech yn gweithio yn y swydd honno, neu
  • roedd newidiadau wedi dechrau digwydd i gledr eich llaw, er enghraifft y croen yn tewychu neu ddatblygu ‘palmar noudules� (lympiau bach ar gledr eich llaw) tra’r oeddech yn gweithio yn y swydd honno

Ni allwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig.

Darllenwch ar wefan y GIG.

Sut i wneud cais

Lawrlwythwch ac argraffu’r ffurflen BI100PD.

Gallwch ofyn am fersiwn argraffedig o’r ffurflen trwy ffonio canolfan Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (IIDB).

Ffôn: 0800 121 8379
Ffôn testun: 0800 169 0314
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 121 8379
Os ydych yn byw dramor ffoniwch +44 (0) 191 206 9390
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau.

Fformatau amgen

Ffoniwch ganolfan IIDB neu ysgrifennu at Ganolfan Barnsley IIDB i ofyn am fformatau amgen fel Braille, print bras neu sain CD.

Barnsley IIDB Centre
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1SY

Ble i anfon y ffurflen

Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i:

Barnsley IIDB Centre
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1SY

Os ydych yn byw dramor

Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i:

International Pension Centre
The Pension Service 11
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LW

Asesiad meddygol

Os ydych yn gymwys i hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol am ‘Dupuytren’s Contracture� ac yn byw yn y DU, efallai y bydd angen asesiad meddygol arnoch gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig.

Bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn ichi am eich cyflwr, i asesu lefel yr anabledd a achosir gan y clefyd hwn.

Bydd lefel eich anabledd yn effeithio ar faint o fudd-dal y gallwch ei gael.

Os ydych yn byw dramor, efallai y gofynnir i chi anfon adroddiad meddygol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Mawrth 2022 show all updates
  1. Updated the eligibility conditions for claiming Industrial Injuries Disablement benefit because of Dupuytren's contracture.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon