Hawlio ad-daliad Ardoll Troseddau Economaidd
Sut i ofyn am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o鈥檙 Ardoll Troseddau Economaidd.
Pwy sy鈥檔 gallu hawlio ad-daliad
Gallwch ofyn am ad-daliad os ydych wedi gweud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- talu gormod ar gam
- diwygio鈥檆h datganiad Ardoll Troseddau Economaidd, ac nawr mae arnoch lai
Os yw鈥檙 swm wedi newid oherwydd bod y manylion a roddwyd gennych yn wreiddiol yn anghywir, neu oherwydd bod eich amgylchiadau chi wedi newid, bydd yn rhaid i chi gyflwyno datganiad diwgiedig cyn gofyn am ad-daliad.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn hawlio, bydd angen y canlynol arnoch:
- enw鈥檆h cwmni
- swm yr ad-daliad
- rheswm dros hawlio ad-daliad
- manylion y cyfrif a ddefnyddiwyd gennych i wneud y taliad
- eich manylion cyswllt 鈥� enw, cyfeiriad e-bost a rhif ff么n
Sut i hawlio
Mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth ar-lein i ofyn am ad-daliad.
Bydd angen i chi fewngofnodi i鈥檙 gwasanaeth gan ddefnyddio鈥檙 Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer yr Ardoll Troseddau Economaidd.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych yn cael problemau technegol gyda鈥檙 gwasanaeth hwn, dewiswch y cysylltiad 鈥楢 yw鈥檙 dudalen hon yn gweithio鈥檔 iawn?鈥� ar y dudalen lle mae angen help arnoch.
Cysylltwch 芒 CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd
Ffoniwch CThEF i gael help gydag Ardoll Troseddau Economaidd dim ond os na allwch ddod o hyd i ateb gan ddefnyddio ein gwasanaethau neu arweiniad ar-lein.
Efallai y bydd y llinell gymorth hon yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch i chi.
Sicrhewch fod eich manylion yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd wedi鈥檜 diweddaru, neu mae鈥檔 bosibl byddwch yn methu鈥檙 camau diogelwch dros y ff么n.
Os ydych eisoes wedi cofrestru, bydd angen eich rhif cofrestru Ardoll Troseddau Economaidd arnoch. Gallwch ddod o hyd i hyn:
- yn eich cyfrif Ardoll Troseddau Economaidd
- yn eich cyfrif treth busnes CThEF, os oes un gennych
- yn yr e-bost a anfonwyd atoch gan CThEF i gadarnhau bod eich datganiad Ardoll Troseddau Economaidd wedi cael ei gyflwyno
Ff么n: 0300 322 9621
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 10am i 4pm
Ar gau ar y penwythnos ac ar wyliau banc.