Cael rhyddhad treth ar gydrannau sydd wedi eu hallforio a鈥檜 trosi ar gyfer y Dreth Deunydd Pacio Plastig
Gallwch gael rhyddhad ar becynnau sydd wedi eu hallforio a鈥檜 trosi yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu neu hawlio credyd arnynt mewn Ffurflen Dreth ddiweddarach.
Pryd y gallwch gael rhyddhad
Efallai y gallwch gael rhyddhad treth os ydych yn gweithgynhyrchu neu鈥檔 mewnforio cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig a bod y canlynol yn wir:
- rydych yn eu hallforio yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu
- rydych yn bwriadu eu hallforio yn y 12 mis nesaf
- rydych wedi talu treth arnynt ond wedi eu hallforio鈥檔 ddiweddarach neu鈥檔 eu trosi i gydrannau deunydd pacio plastig taladwy gwahanol
- bod gennych dystiolaeth bod busnes arall wedi eu hallforio neu eu trosi
Mae鈥檔 rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer y dreth i gael rhyddhad.
Sut i gael rhyddhad
Gallwch roi gwybod i CThEM am gydrannau wedi鈥檜 hallforio neu wedi eu trosi drwy gynnwys eu pwysau yn eich Ffurflen Dreth.
Mae rheolau gwahanol yn dibynnu ar y canlynol:
- yr hyn yr ydych am gael rhyddhad ar ei gyfer
- pryd yr ydych am hawlio
Cydrannau yr ydych yn eu hallforio yn yr un cyfnod cyfrifyddu
Gallwch gael rhyddhad ar gydrannau deunydd pacio plastig yr ydych yn eu hallforio yn yr un cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio.
Mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y cydrannau yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu lle mae鈥檙 dreth yn ddyledus. Caiff unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus ei thynnu o gyfanswm eich bil ar gyfer y cyfnod cyn i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth.
Mae鈥檔 rhaid i chi gael tystiolaeth bod yr allforio wedi digwydd.
Os ydych yn bwriadu allforio cydrannau yn y 12 mis nesaf
Gallwch 鈥榦hirio鈥� talu treth os ydych yn bwriadu allforio unrhyw gydrannau rydych wedi eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio yn ystod y 12 mis nesaf.
Mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y cydrannau yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu pan ddigwyddodd y gweithgynhyrchu neu鈥檙 mewnforio. Caiff unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus ei thynnu o gyfanswm eich bil ar gyfer y cyfnod cyn i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 canlynol fod yn wir:
- eich bod yn bwriadu eu hallforio cyn i chi eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio
- bod gennych gofnodion yn dangos eich bwriad i allforio
Mae eich rhwymedigaeth ar gyfer y dreth yn cael ei chanslo pan fyddwch:
- yn allforio鈥檙 cydrannau deunydd pacio cyn pen 12 mis
- yn cadw cofnodion i ddangos bod allforio wedi digwydd
Os nad ydych yn bwriadu allforio mwyach neu os nad yw鈥檙 cydrannau鈥檔 cael eu hallforio cyn pen 12 mis
Mae鈥檔 rhaid i chi gynnwys y cydrannau yn eich Ffurflen Dreth nesaf pan ofynnir i chi faint o ddeunydd pacio y gwnaethoch ei weithgynhyrchu neu ei fewnforio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu hwnnw. Os yw鈥檙 cydrannau鈥檔 drethadwy, er enghraifft oherwydd nad ydynt yn cynnwys 30% neu fwy o blastig wedi鈥檌 ailgylchu, bydd angen i chi dalu treth arnynt. Os yw鈥檙 gyfradd dreth wedi newid, bydd angen i chi dalu treth ar y gyfradd newydd.
Enghraifft o鈥檙 hyn y dylech ei wneud pan nad yw cydrannau鈥檔 cael eu hallforio cyn pen 12 mis
Mae eich busnes yn gweithgynhyrchu cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig ar 23 Awst 2022. Rydych yn bwriadu allforio鈥檙 cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig eich hun cyn pen y 12 mis nesaf.
Rydych yn rhoi cyfrif am y cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig ar eich Ffurflen Dreth chwarterol ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi 2022 fel rhai y bwriadwyd eu hallforio gennych.
Ni thalwyd treth oherwydd bod eich busnes yn bwriadu allforio鈥檙 deunydd pacio.
Erbyn 23 Awst 2023, nid ydynt wedi cael eu hallforio. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid talu鈥檙 Dreth Deunydd Pacio Plastig oherwydd nad yw鈥檙 cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig wedi cael eu hallforio gennych cyn pen 12 mis.
Rhaid rhoi cyfrif am y Dreth Deunydd Pacio Plastig a鈥檌 thalu ar Ffurflen Dreth nesaf eich busnes. Hon fydd eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig o fis Gorffennaf i fis Medi 2023 ar y gyfradd dreth o 1 Ebrill 2023 ymlaen.
Os bydd busnes arall yn allforio neu鈥檔 trosi eich cydrannau yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu
Bydd angen i chi roi manylion am bwysau unrhyw gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig rydych chi wedi鈥檜 gweithgynhyrchu neu eu mewnforio, ar eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig, os yw busnes arall wedi gwneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- trosi鈥檙 cydrannau i gydrannau newydd yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio
- eu hallforio yn ystod yr un cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion o鈥檙 cydrannau deunydd pacio plastig perthnasol, yn ogystal 芒鈥檙 manylion allforio a throsi.
Bydd unrhyw dreth sy鈥檔 ddyledus yn cael ei didynnu oddi wrth gyfanswm y bil ar gyfer y cyfnod cyn i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.
Os ydych eisoes wedi talu鈥檙 dreth ar y cydrannau, gallwch hawlio credyd ar Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig diweddarach.
Cydrannau rydych eisoes wedi talu treth arnynt sy鈥檔 cael eu hallforio neu eu trosi
Gallwch hawlio treth yn 么l fel credyd ar eich Ffurflen Dreth os ydych wedi talu treth ar gydrannau sy鈥檔:
- cael eu hallforio鈥檔 ddiweddarach gennych chi neu gan fusnes arall
- trosir yn wahanol gydrannau deunydd pacio plastig y codir t芒l amdanynt
Gallwch ond hawlio credyd pan fydd gennych dystiolaeth i ddangos bod yr allforio neu鈥檙 trosi wedi digwydd.
Mae鈥檔 rhaid hawlio鈥檙 credyd cyn pen 2 flynedd ar 么l i鈥檙 cydrannau gael eu gweithgynhyrchu neu eu mewnforio.
Caiff credydau eu didynnu o gyfanswm y Dreth Deunydd Pacio Plastig sydd arnoch. Byddant yn ymddangos yn eich cyfrif ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.
Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel
Gallwch hawlio credyd os ydych wedi allforio cydrannau deunydd pacio plastig i Ynysoedd y Sianel a thu allan i鈥檙 DU o Ynys Manaw.
Enghraifft o hawlio credyd ar gyfer cydrannau sy鈥檔 cael eu hallforio鈥檔 ddiweddarach gan fusnes arall
Mae鈥檆h busnes yn rhoi cyfrif am 20 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig ar eich Ffurflen Dreth chwarterol ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2023.
Gwnaethoch dalu鈥檙 dreth o 拢4,000 a oedd yn ddyledus ym mis Ebrill 2023.
Ym mis Mai 2023, mae cwsmer busnes yn darparu tystiolaeth ei fod wedi allforio 5 tunnell o鈥檙 cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig a brynwyd oddi wrthych.
Gan i鈥檆h busnes dalu鈥檙 Dreth Deunydd Pacio Plastig ar y cydrannau hyn, cewch hawlio credyd am y 5 tunnell (5 tunnell 脳 拢200 = 拢1,000) ar eich Ffurflen Dreth nesaf.
Eich rhwymedigaeth Treth Deunydd Pacio Plastig yn y cyfnod cyfrifyddu nesaf yw 30 tunnell.
Mae gennych yr hawl i ostwng y rhwymedigaeth hon drwy hawlio鈥檙 credyd ar eich Ffurflen Dreth chwarterol ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2023. I hawlio credyd, dylech nodi 5,000kg ar gyfer y cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yr ydych yn hawlio credyd ar eu cyfer ar eich Ffurflen Dreth.
Enghraifft o hawlio credyd pan fydd cydrannau鈥檔 cael eu trosi鈥檔 ddiweddarach gan fusnes arall
Mae鈥檆h busnes yn rhoi cyfrif am 30 tunnell o gydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig sydd wedi鈥檜 gweithgynhyrchu ar eich Ffurflen Dreth chwarterol ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2023.
Gwnaethoch dalu鈥檙 dreth o 拢6,324.60 a oedd yn ddyledus ym mis Gorffennaf 2023.
Rydych wedyn yn cyflenwi 10 tunnell o鈥檙 cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig i fusnes arall.
Mae鈥檙 busnes arall yn defnyddio鈥檙 cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig i weithgynhyrchu cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig newydd, sydd hefyd yn agored i鈥檙 Dreth Deunydd Pacio Plastig.
Ar 么l i chi gael tystiolaeth sy鈥檔 cadarnhau bod y cydrannau gwreiddiol wedi鈥檜 trosi鈥檔 gydran deunydd pacio plastig gorffenedig gwahanol, cewch hawlio credyd am y 10 tunnell (10 tunnell 脳 拢210.82 = 拢2,108.20) ar eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig nesaf.
I hawlio鈥檙 credyd, dylech nodi 10,000kg ar gyfer y cydrannau deunydd pacio plastig gorffenedig yr ydych yn hawlio credyd ar eu cyfer ar eich Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig.
Cadw cofnodion
Gwnewch yn si诺r eich bod yn cadw鈥檙 cofnodion cywir ar gyfer unrhyw allforio neu drosi rydych chi am gael rhyddhad arno.
Updates to this page
-
Additional guidance to confirm the tax rates to pay when components are not exported within 12 months added.
-
Guidance has been updated about when you can claim tax back as a credit on your return, if you鈥檝e paid tax on components. The example of claiming a credit when components are later converted by another business has been updated to reflect the new rate of tax as of 1 April 2023.
-
Guidance has been added on how to complete your return if another business exports or converts your components in the same accounting period.
-
The section 'Components you鈥檝e already paid tax on which are exported or converted' has been updated, to explain that you can claim tax back as a credit if you have exported plastic packaging components to the Channel Islands and outside of the UK from the Isle of Man.
-
New guidance on how you can get tax relief on exported and converted packaging in the same accounting period or claim a credit for them on a later tax return.
-
The examples in the 'When you can claim a credit' section have been updated.
-
Added translation
-
Examples showing how to claim a credit and defer a payment have been added.
-
You cannot claim relief for transport packaging used to export goods from the UK.
-
Added translation
-
First published.