Canllawiau

Gwirio a allwch dalu llai o Doll Alcohol ar gynhyrchion alcohol o鈥檙 gasgen

Os ydych yn masnachu cynhyrchion alcohol o鈥檙 gasgen, ewch ati i gael gwybod a allwch dalu Toll Alcohol ar gyfradd is.

Pwy all gael y gyfradd is

Mae鈥檔 bosibl y gallwch dalu Toll Alcohol ar gyfradd is ar gynhyrchion sydd 芒 llai na 8.5% o alcohol yn 么l cyfaint (ABV) os ydych yn un o鈥檙 canlynol:

  • cynhyrchydd
  • ceidwad warws ecs茅is
  • mewnforiwr

Cynhyrchion sy鈥檔 gymwys

Mae鈥檔 bosibl y gallwch gael cyfradd is os ydych yn cynhyrchu:

  • cwrw
  • seidr, gan gynnwys perai
  • gwirodydd, gan gynnwys diodydd gwirodol sydd wedi鈥檜 cymysgu ymlaen llaw ac yn barod-i-yfed (RTD)
  • gwin, gan gynnwys gwin pefriog a gwin cadarn
  • cynhyrchion eplesedig eraill (a elwir yn 鈥榞win a wnaed鈥� yn flaenorol), megis seidr ffrwythau

Mae鈥檔 rhaid i gryfder alcoholaidd eich cynhyrchion fod yn llai na 8.5% ABV.

Ar adeg codi鈥檙 doll, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol hefyd fod yn wir:

  • maent wedi cael eu pacio mewn cynwysyddion cymwys ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen
  • byddant yn cael eu symud i leoliad yn y DU lle y byddant yn cael eu trosglwyddo i gynwysyddion cymwys ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen

Cynwysyddion ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen y gallwch dalu cyfradd is arnynt

Mae鈥檔 rhaid bod eich cynhwysydd yn gallu dal o leiaf 20 litr o gynnyrch, a bod modd ei gysylltu ag un o鈥檙 canlynol:

  • system bwmp
  • tap diodydd sydd wedi鈥檌 wasgeddu 芒 nwy

Os nad yw鈥檆h cynhwysydd yn bodloni鈥檙 amodau hyn, bydd yn rhaid i chi dalu鈥檙 gyfradd lawn o Doll Alcohol.

Os defnyddir y cynnyrch yn eich cynwysyddion ar gyfer cynhyrchion alcohol o鈥檙 gasgen at ddiben gwerthiannau tecaw锚

Y safbwynt cyffredinol ar gyfer cynhyrchion mewn cynwysyddion ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen yw y dylech dalu鈥檙 cyfraddau ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen.

Os gofynnir i chi am gynhyrchion alcohol o鈥檙 gasgen cymwys a dalwyd ar y gyfradd lawn o doll (er enghraifft, ar gyfer gwerthiannau oddi ar y safle, megis cwrw tecaw锚), dylech ddatgan hyn ar eich datganiad toll.

Os bydd angen i chi ddatgan y gwahaniaeth rhwng y gyfradd ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen sydd eisoes wedi鈥檌 thalu a鈥檙 gyfradd lawn o doll, dylech ddefnyddio blwch 鈥榯anddatganiad鈥� ar eich datganiad toll.

Mae鈥檔 rhaid i chi ddangos tystiolaeth i鈥檆h cwsmer fod y gyfradd lawn o Toll Alcohol wedi鈥檌 thalu pan fyddwch yn cyflenwi鈥檙 cynhyrchion hyn.

Gallwch ddefnyddio unrhyw dystiolaeth briodol, megis datganiad ar ddogfennau masnachol neu lythyr cadarnhad. Mae鈥檔 rhaid bod y canlynol yn wir:

  • mae鈥檔 glir bod y gyfradd lawn o doll wedi鈥檌 thalu
  • mae wedi鈥檌 phasio ar hyd y gadwyn gyflenwi

Os ydych yn ail-becynnu cynhyrchion alcohol o鈥檙 gasgen

Mae ail-becynnu cynhyrchion alcohol o鈥檙 gasgen yn golygu trosglwyddo鈥檙 rhain i gynhwysydd arall nad yw ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen. Er enghraifft, ardywallt o gasgen i boteli.

Nid yw gweini diod o gynhwysydd ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen i鈥檞 hyfed ar eich safleoedd yn cyfrif fel ail-becynnu. Er enghraifft, gweini diod mewn gwydryn wrth y bar.

Ni allwch ail-becynnu diodydd o鈥檙 gasgen ond am y rhesymau canlynol:

  • rydych yn gynhyrchydd cymeradwy, neu鈥檔 geidwad warws ecs茅is cymeradwy, neu鈥檙 ddau
  • mae鈥檙 gyfradd doll lawn wedi鈥檌 thalu ar y cynhyrchion (fel at ddiben gwerthiannau tecaw锚)

Os nad oes gennych gymeradwyaeth, neu os nad yw鈥檙 gyfradd Toll Alcohol lawn wedi鈥檌 thalu, mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb (yn Saesneg).

Os ydych yn gynhyrchydd cymeradwy neu鈥檔 geidwad warws ecs茅is cymeradwy

Os ydych yn ail-becynnu cynhyrchion o gynwysyddion ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen i gynwysyddion eraill, ni fydd y cynhyrchion hyn yn gymwys bellach am y gyfradd is.

Bydd angen i chi dalu鈥檙 gwahaniaeth ar eich datganiad toll. Dylech ddatgan hwn fel 鈥榯anddatganiad mewn cyfnod blaenorol鈥�. Y swm dylech ei ddatgan yw鈥檙 gwahaniaeth rhwng y gyfradd ar gyfer cynhyrchion o鈥檙 gasgen sydd eisoes wedi鈥檌 thalu a鈥檙 gyfradd lawn o doll a oedd yn berthnasol ar y pryd.

Cyfraddau tollau ar gyfer cynhyrchion alcohol o鈥檙 gasgen

Mae鈥檙 gyfradd is y gallwch ei chael yn seiliedig ar y fath o gynnyrch rydych yn ei wneud, a鈥檌 gryfder alcoholaidd.

Cynhyrchion alcohol o鈥檙 gasgen Mewn 拢 (punnoedd), y swm o dreth byddwch yn ei thalu ar bob litr o alcohol pur sydd yn y cynnyrch
Pob cynnyrch ag ABV o lai na 3.5% 8.28
Seidr llonydd o 3.5% i lai na 8.5% 8.63
Seidr pefriog o 3.5% i 5.5% 8.63
Seidr pefriog dros 5.5% 18.76
Cwrw, gwirodydd, gwin a chynhyrchion eplesedig eraill o 3.5% i lai na 8.5% 18.76

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Chwefror 2025 show all updates
  1. Duty rates for draught alcoholic products have been updated.

  2. Guidance has been added about evidence you need to pass along the supply chain for takeaway sales. Information also added about how to pay the difference between the draught and full rate of duty and what counts as repackaging for draught products.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon