Gwirio a allwch hawlio rhyddhad Yswiriant Gwladol mewn Parthau Buddsoddi neu Borthladdoedd Rhydd y DU sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr pan fyddwch yn cyflogi rhywun mewn safle treth Porthladd Rhydd yn y DU.
Wrth gyfeirio at 鈥楤orthladd Rhydd鈥� ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys 鈥楶orthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban鈥�, oni nodir yn wahanol.
Ni allwch hawlio hyd nes bod y Porthladd Rhydd neu鈥檙 Parth Buddsoddi perthnasol sy鈥檔 safle treth arbennig wedi鈥檌 ddynodi.
Gwirio pa safleoedd sy鈥檔:
- Safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg)
- Safleoedd treth Parthau Buddsoddi arbennig dynonedig (yn agor tudalen Saesneg)
Pwy all hawlio
Gallwch hawlio鈥檙 rhyddhad os oes gennych safle busnes mewn safle treth arbennig. Mae safle treth arbennig yn ddarn o dir lle gall busnesau hawlio rhyddhadau treth penodol. Weithiau, yr enw a roddir i safle treth arbennig yw 鈥榮afle treth Porthladd Rhydd鈥� neu 鈥榮afle treth Parth Buddsoddi鈥�. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi鈥檌 awdurdodi ar wah芒n i safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd, ond gallant gwmpasu鈥檙 un darn o dir.
I hawlio鈥檙 rhyddhad, mae鈥檔 rhaid i bob cyflogai wneud y canlynol:
- treulio o leiaf 60% o鈥檌 amser gwaith yn safle sy鈥檔 cael ei ddynodi yn safle treth arbennig
- bod wedi dechrau eu cyflogaeth rhwng 6 Ebrill 2022 a chyn:
- 30 Medi 2031 ar gyfer safleoedd treth arbennig Porthladd Rhydd yn Lloegr
- 30 Medi 2034 ar gyfer safleoedd treth Porthladd Rhydd yng Nghymru, safleoedd treth Porthladd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban, a Pharthau Buddsoddi sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- heb fod wedi gweithio mwy na 36 mis o鈥檌 gyflogaeth
- heb gael ei gyflogi gennych chi neu gan gyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol
Mae鈥檔 bosibl y bydd gan rai cyflogeion nodwedd warchodedig o anabledd, beichiogrwydd neu famolaeth. Os byddai鈥檙 cyflogai fel arfer yn treulio 60% o鈥檌 amser ar y safle treth arbennig ac mae鈥檙 cyflogwr wedi addasu鈥檙 amser y mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cyflogai ei dreulio ar y safle (oherwydd yr amgylchiadau hyn), mae鈥檙 rheol 60% yn cael ei thrin fel pe bai鈥檔 cael ei chyflawni.
Nid yw鈥檙 awdurdodau cyhoeddus yn gallu hawlio鈥檙 rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi.
Os bydd trefniadau gweithio cyflogai鈥檔 newid yn sylweddol
Dylech ailasesu a yw鈥檙 amodau cymhwysol yn dal i gael eu bodloni.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi鈥檙 gorau i hawlio rhyddhad pan nad ydych yn rhagweld y bydd cyflogai yn treulio o leiaf 60% o鈥檌 amser gweithio mewn safle treth arbennig. Mae hyn yn berthnasol o ddechrau鈥檙 gyflogaeth oni bai eich bod yn gwneud addasiadau i ddarparu ar gyfer nodweddion gwarchodedig anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth.
Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio
Bydd dim ond angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd os yw鈥檆h cyflogai yn ennill mwy na鈥檙 Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi sef:
-
拢25,000 y flwyddyn
-
拢2,083 y mis
-
拢481 yr wythnos
Mae hyn yn golygu os yw cyflogai yn ennill llai na hyn, yna nid oes unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd yn ddyledus.
Pa mor hir y gallwch hawlio鈥檙 rhyddhad
Gallwch hawlio鈥檙 rhyddhad hwn ar gyfer pob cyflogai newydd am 36 mis o ddechrau eu cyflogaeth am y cyfnod y maent yn bodloni鈥檙 amodau cymhwysol.
Sut i hawlio rhyddhad
I hawlio鈥檙 rhyddhad mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 llythyren categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol perthnasol wrth redeg y gyflogres. Dysgwch sut i redeg cyflogres (yn agor tudalen Saesneg).
Dyma鈥檙 llythrennau categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gefnogi cyflogwyr wrth iddynt hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Porthladdoedd Rhydd
Llythyren gategori | Gr诺p cyflogeion |
---|---|
F | Cyfwerth 芒 llythyren gategori safonol |
I | Gwragedd priod a gweddwon sydd 芒 hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi eu gostwng |
S | Cyflogeion sydd dros oedran pensiwn y wladwriaeth |
L | Cyflogeion sy鈥檔 gallu gohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol |
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw tystiolaeth o鈥檙 amodau cymhwysol sy鈥檔 cael eu bodloni.
Dyma鈥檙 llythrennau categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gefnogi cyflogwyr wrth iddynt hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Parthau Buddsoddi:
Llythyren gategori | Gr诺p cyflogeion |
---|---|
N | Cyfwerth 芒 llythyren gategori safonol |
E | Gwragedd priod a gweddwon sydd 芒 hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi鈥檜 gostwng |
K | Cyflogeion sydd dros oedran pensiwn y wladwriaeth |
D | Cyflogeion sy鈥檔 gallu gohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol |
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw tystiolaeth o鈥檙 amodau cymhwysol sy鈥檔 cael eu bodloni.
Enghreifftiau
Enghraifft o gyflogai sy鈥檔 ennill o dan y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi
Mae鈥檙 cyflogwr yn cyflogi person ar 1 Gorffennaf 2024 sy鈥檔 cael cyflog gros o 拢2,000 y mis (拢24,000 y flwyddyn).
Ar ddechrau鈥檙 gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio 4 diwrnod (30 awr, 80%) o鈥檌 amser gweithio ar safle busnes y cyflogwr mewn safle treth arbennig ac 1 diwrnod (7.5 awr, 20%) o鈥檌 wythnos waith yn gweithio o gartref am weddill blwyddyn dreth 2024 i 2025 fel bod y cyflogai yn bodloni鈥檙 rheol 60%.
Yn ymarferol, nid yw鈥檙 cyflogai byth yn gweithio gydag amseroedd gweithio a threfniadau lleoliad gwahanol.
Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.
Mae鈥檙 cyflogai a鈥檙 cyflogwr yn bodloni鈥檙 rheolau, ac felly mae鈥檙 cyflogwr yn hawlio鈥檙 rhyddhad.
Gan fod enillion y cyflogai yn llai na Throthwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi o 拢2,083 y mis, ni fydd y cyflogwr yn talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd ar gyfer y cyflogai hwn.
Enghraifft o gyflogai sy鈥檔 ennill dros y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi
Mae鈥檙 cyflogwr yn cyflogi person ar 23 Mai 2024 sy鈥檔 cael cyflog gros o 拢3,000 y mis (拢36,000 y flwyddyn).
Ar ddechrau鈥檙 gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio ei holl amser gweithio ar safle busnes y cyflogwr fel bod y cyflogai鈥檔 bodloni鈥檙 rheol 60%.
Yn ymarferol, nid yw鈥檙 cyflogai byth yn gweithio gydag amseroedd gweithio a threfniadau lleoliad gwahanol.
Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.
Mae鈥檙 cyflogai a鈥檙 cyflogwr yn bodloni鈥檙 rheolau, ac felly mae鈥檙 cyflogwr yn hawlio鈥檙 rhyddhad.
Gan fod enillion y cyflogai yn fwy na 拢2,083, sef y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi, bydd y cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd ar y symiau uwchben y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi.
Enghraifft o gyflogai yn peidio 芒 threulio 60% o鈥檌 amser gweithio ar safle treth arbennig
Mae鈥檙 cyflogwr yn cyflogi person ar 01 Hydref 2022 sy鈥檔 cael cyflog gros o 拢3,000 y mis (拢36,000 y flwyddyn).
Ar ddechrau鈥檙 gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio 2 ddiwrnod (40% o鈥檌 amser gweithio) ar safle busnes y cyflogwr mewn safle treth arbennig a 3 diwrnod (60% o鈥檌 amser gweithio) yn gweithio o gartref. O ganlyniad i hyn, nid yw鈥檙 cyflogai yn bodloni鈥檙 rheol 60%.
Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.
Nid yw鈥檙 cyflogai yn bodloni鈥檙 rheolau ar gyfer hawlio鈥檙 rhyddhad, felly ni all y cyflogwr hawlio鈥檙 rhyddhad.
Bydd y cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd arferol, heb hawlio鈥檙 rhyddhad ar yr holl enillion uwchben y Trothwy Eilaidd (拢758 y mis ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025).
Enghraifft o gyflogai鈥檔 symud i safle sy鈥檔 cael ei ddynodi yn safle treth ar 么l dechrau鈥檙 gyflogaeth
Mae鈥檙 cyflogwr yn cyflogi person ar 06 Ebrill 2022 sy鈥檔 cael cyflog gros o 拢2,000 y mis (拢24,000 y flwyddyn).聽
Mae鈥檙 cyflogai鈥檔 treulio ei amser gweithio yn safle busnes y cyflogwr sydd wedi鈥檌 leoli y tu allan i safle treth arbennig.
Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.
Mae鈥檙 cyflogwr yn ehangu drwy agor safle busnes ychwanegol o fewn safle sydd newydd gael ei ddynodi yn safle treth arbennig. Ar 6 Ebrill 2024, caiff y cyflogai ei drosglwyddo i safle busnes newydd y cyflogwr. Mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai鈥檔 treulio 4 diwrnod (30 awr, 80%) o鈥檌 amser gweithio ar safle busnes y cyflogwr mewn safle treth arbennig ac un diwrnod (7.5 awr, 20%) o鈥檌 wythnos waith yn gweithio o gartref, fel bod y cyflogai鈥檔 bodloni鈥檙 rheol 60%.
Gall y cyflogwr hawlio鈥檙 rhyddhad o 6 Ebrill 2024 (y dyddiad y dechreuodd y cyflogai fodloni鈥檙 amodau perthnasol) tan 5 Ebrill 2025 (diwedd eu 36 mis cyntaf o gyflogaeth).
Gan fod enillion y cyflogai yn llai na Throthwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi o 拢2,083 y mis, ni fydd y cyflogwr yn talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd ar gyfer y cyflogai hwn o 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025.
Updates to this page
-
Information about employees spending 60% of their time at special tax sites has been updated and an example of an employee moving to a designated tax site after start of employment has been added.
-
Added translation
-
The extension details for English Freeport special tax sites, Scottish Green Freeports Welsh Freeports and Investment Zone special tax sites have been added.
-
References to Investment Zone special tax sites have been added.
-
Updated to explain the conditions for claiming National Insurance relief when an employee's working arrangements change substantially.
-
Welsh translation added.
-
First published.