Gwirio a allwch hawlio rhyddhad lwfans strwythurau ac adeiladau uwch mewn safleoedd treth Parth Buddsoddi a Phorthladd Rhydd y DU
Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad lwfans strwythurau ac adeiladau uwch ar wariant cymwys ar strwythurau ac adeiladau mewn safle treth Parthau Buddsoddi a Phorthladd Rhydd y DU.
Wrth gyfeirio at 鈥楤orthladd Rhydd鈥� ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys 鈥楶orthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban鈥�, oni nodir yn wahanol.
Mae safle treth arbennig yn ddarn o dir lle gall busnesau hawlio rhyddhadau treth penodol. Weithiau, gelwir safle treth arbennig yn 鈥榮afleoedd treth Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi鈥�. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi鈥檌 awdurdodi ar wah芒n i safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd, ond gallant gwmpasu鈥檙 un darn o dir.
Dysgwch ragor am y canlynol:
Gallwch hawlio rhyddhad lwfans strwythurau ac adeiladau uwch pan fyddwch yn ysgwyddo gwariant cymhwysol ar strwythurau ac adeiladau mewn safle treth arbennig.
Gellir hawlio鈥檙 rhyddhad ar gyfer gwariant a ysgwyddwyd o鈥檙 dyddiad y dynodir safle treth arbennig, hyd at:
鈥� 30 Medi 2031, ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
鈥� 30 Medi 2034, ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban a Pharthau Buddsoddi sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
Gallwch ddysgu pa gategor茂au gwariant sy鈥檔 gymwys ar gyfer y lwfans strwythurau ac adeiladu. Darllenwch arweiniad ar hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau.
Ni allwch hawlio hyd nes bod y safle treth Parth Buddsoddi arbennig neu鈥檙 safle treth Porthladd Rhydd arbennig perthnasol wedi鈥檌 ddynodi.
Gwirio pa safleoedd sy鈥檔:
- Safleoedd treth Porthladdoedd Rhydd arbennig dynodedig (yn agor tudalen Saesneg)
- Safleoedd treth Parthau Buddsoddi arbennig dynonedig (yn agor tudalen Saesneg)
Sut i fod yn gymwys
Mae鈥檔 rhaid i chi fodloni鈥檙 gofynion ar gyfer hawlio lwfansau cyfalaf ar strwythurau ac adeiladau. Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol hefyd:
- dechrau ar y gwaith adeiladu ar yr adeilad neu鈥檙 strwythur pan fydd mewn safle treth arbennig (mae鈥檙 gwaith adeiladu鈥檔 dechrau pan fyddwch yn ymrwymo i鈥檙 contract cyntaf neu鈥檔 dechrau ar y gwaith adeiladu, p鈥檜n bynnag sydd gyntaf)
- sicrhau bod yr adeilad neu鈥檙 strwythur yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd gymhwysol pan fydd mewn safle treth arbennig, a hynny ar neu cyn:
- 30 Medi 2031 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban a Pharthau Buddsoddi sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- ysgwyddo鈥檙 gwariant cymhwysol ar yr adeilad neu鈥檙 strwythur pan fydd mewn safle treth arbennig, a hynny ar neu cyn:
- 30 Medi 2031 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban a Pharthau Buddsoddi sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- cofrestru ar gyfer naill ai:
- Treth Gorfforaeth
- Treth Incwm
Sut i ddosrannu鈥檙 rhyddhad
Mae鈥檔 rhaid i chi ddosrannu鈥檙 rhyddhad rhwng y canlynol:
- y gyfradd ychwanegol o lwfans strwythurau ac adeiladau
- cyfradd arferol lwfans strwythurau ac adeiladau
Bydd y dosraniad hwn yn digwydd naill ai:
- pan fydd rhan o鈥檙 adeilad neu鈥檙 strwythur y tu allan i鈥檙 safle treth arbennig
- pan fyddwch yn sicrhau bod rhan o adeilad neu strwythur yn cael ei defnyddio mewn ffordd gymhwysol ar 么l:
- 30 Medi 2031 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn Lloegr sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
- 30 Medi 2034 ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban a Pharthau Buddsoddi sy鈥檔 safleoedd treth arbennig
Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio
Gallwch hawlio 10% o wariant cymhwysol safleoedd treth arbennig bob blwyddyn os ydych yn bodloni鈥檙 holl amodau gofynnol.
Gallwch wneud cais am y rhyddhad am 10 mlynedd o ddyddiad dechrau cyfnod y lwfans.
Dyddiad dechrau cyfnod y lwfans yw鈥檙 hwyraf o鈥檙 canlynol:
- adeilad neu adeiladwaith yn cael ei ddefnyddio gyntaf at ddiben dibreswyl
- pan fyddwch yn gwario鈥檔 gymhwysol
Enghreifftiau o ryddhad y gallwch ei hawlio
Enghraifft lle mae rhyddhad lwfans strwythurau ac adeiladau uwch yn cael ei hawlio ar gyfer adeilad sydd yn llwyr o fewn safle treth arbennig
Gwnaethoch adeiladu warws a oedd yn costio 拢1.2 miliwn mewn safle treth arbennig. Ymrwymwyd i bob contract ar gyfer y gwaith adeiladu ar 么l y dyddiad y dynodwyd y safle treth arbennig
Cwblhawyd y warws ar 22 Mawrth 2024 a gwnaethoch ddechrau ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes logisteg o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Rydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn sy鈥檔 dod i ben ar 31 Mawrth.
Yn y cyfnod trethadwy hyd at 31 Mawrth 2025, gallwch hawlio 10% am y flwyddyn.
10% 脳 拢1.2 miliwn = 拢120,000
Cyfanswm yr hawliad yw 拢120,000 ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2025.
Enghraifft lle mae rhyddhad lwfans strwythurau ac adeiladau uwch yn cael ei hawlio ar gyfer adeilad sydd yn rhannol o fewn safle treth arbennig
Gwnaethoch adeiladu ffatri a oedd yn costio 拢2 miliwn, gyda 60% ohono mewn safle treth arbennig a 40% mewn ardal nad yw鈥檔 safle treth arbennig. Ymrwymwyd i bob contract ar gyfer y gwaith adeiladu ar 么l y dyddiad y dynodwyd y safle treth arbennig.
Cwblhawyd y ffatri ar 13 Gorffennaf 2023 a gwnaethoch ddechrau ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes gweithgynhyrchu o 1 Awst 2023 ymlaen. Rydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn sy鈥檔 dod i ben ar 31 Gorffennaf.
Yn y cyfnod trethadwy hyd at 31 Gorffennaf 2024, gallwch hawlio 10% y flwyddyn ar 60% o鈥檙 gwariant a 3% y flwyddyn ar 40% o鈥檙 gwariant.
60% o 拢2 miliwn = 拢1.2 miliwn
40% o 拢2 miliwn = 拢800,000
10% o 拢1.2 miliwn = 拢120,000
Plws 3% o 拢800,000 = 拢24,000
Cyfanswm yr hawliad yw 拢144,000 ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Gorffennaf 2024.
Sut i hawlio鈥檙 rhyddhad
Mae鈥檔 rhaid i chi gael datganiad lwfans i hawlio鈥檙 rhyddhad. Mae鈥檔 rhaid iddo nodi:
- eich bod am i鈥檙 gwariant cymhwysol fod yn wariant cymhwysol ar gyfer safleoedd treth arbennig
- swm y gwariant cymhwysol ar gyfer safleoedd treth arbennig
Darllenwch Hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau i ddysgu rhagor am ddatganiadau lwfans a sut i hawlio rhyddhad.
Updates to this page
-
Added translation
-
The extension details for English Freeport special tax sites, Scottish Green Freeports Welsh Freeports and Investment Zone special tax sites have been added.
-
We now use the broad term 'special tax sites' instead of referring specifically to 'Freeport sites'. Links to guidance about Freeport special tax sites and Investment Zone special tax sites have been added.
-
Welsh translation added.
-
First published.