Gwirio a yw galwad ffôn rydych wedi’i chael gan CThEF yn ddilys
Gwirio rhestr o gysylltiadau ffôn diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw galwad ffôn rydych wedi’i chael yn sgam.
Os nad yw’ch galwad ffôn wedi’i rhestru yma, gwiriwch gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.
Rheoli dyledion
Mae CThEF yn anfon negeseuon llais at rai cwsmeriaid, sy’n esbonio’r hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Bydd cwsmeriaid yn cael y rhain fel galwad ffôn i ffonau llinell dir a ffonau symudol. Byddan nhw’n rhoi gwybodaeth am dalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) neu rif ffôn llinell gymorth.
Mae CThEF hefyd yn anfon negeseuon sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio’r wybodaeth gywir wrth dalu.
Ni fydd y negeseuon yn gofyn am wybodaeth bersonol na gwybodaeth ariannol o unrhyw fath.
Anfonebu electronig � agweddau ac ymddygiadau busnesau bach a chanolig
O 24 Chwefror 2025 hyd at, a chan gynnwys, 31 Mawrth 2025, mae’n bosibl y cewch alwad ffôn oddi wrth asiantaeth ymchwil annibynnol, IFF Research.
Efallai bydd IFF Research yn cysylltu â chi dros y ffôn i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil.
Mae CThEF yn gweithio gydag IFF Research i ddeall yr hyn y mae busnesau bach a chanolig yn ei wybod am y broses anfonebu electronig, eu hagwedd tuag ati a’u defnydd ohoni.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych:
- yn gyfrinachol
- yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
- yn cael ei chadw’n ddiogel bob amser yn unol â chyfraith diogelu data
Ni fydd modd i CThEF adnabod yr unigolion na’r busnesau sy’n cymryd rhan.
Gwaith Ymchwil o ran Pensiynau
O 6 Chwefror 2025 hyd at, a chan gynnwys, 28 Mawrth 2025, mae’n bosibl y cewch alwad ffôn oddi wrth asiantaeth ymchwil annibynnol, People for Research.
Efallai bydd People for Research yn cysylltu â chi dros y ffôn i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil.
Mae CThEF yn cydweithio â People for Research, er mwyn ymgyfarwyddo yn well â phrofiadau cwsmeriaid o gael pensiwn.
Bydd y gwaith ymchwil yn helpu i lywio’r dyluniad a’r gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig gan wasanaethau CThEF i bobl sy’n cael pensiwn.
Mae’n bosibl y gofynnir i chi gymryd rhan mewn cyfweliad 60-munud o hyd, un ai ar-lein, dros y ffôn, neu’n bersonol ym Manceinion.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych:
-
yn gyfrinachol
-
yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
-
yn cael ei chadw’n ddiogel bob amser yn unol â chyfraith diogelu data
TAW ar ffioedd ysgolion preifat � nodyn atgoffa i gofrestru
O 22 Ionawr 2025 hyd at a chan gynnwys 21 Mawrth 2025, mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn gan CThEF.
Efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn i’ch atgoffa i gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn ysgol breifat yn y DU.
Byddwn ni’n gwneud y canlynol:
- gofyn i chi wirio a oes rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn cael ffioedd ysgolion preifat
- eich cyfeirio at unrhyw arweiniad pellach sydd eu hangen arnoch
Galwadau ffôn eraill y dylech eu gwirio
Gallwch hefyd wirio’r galwadau ffôn a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.
Updates to this page
-
Information about 'Electronic invoicing � small and medium business usage and attitudes' has been added.
-
Information about pension research has been added.
-
Information about 'temporary overseas working � social security research' has been added.
-
Information about 'VAT on private school fees � registration reminder' has been added.
-
Information about Capital Gains Tax when selling a rental property research has been added.
-
Information about Single Trade Window user testing has been added to the page.
-
Research on Enterprise Investment Schemes has been extended to Wednesday 31 January 2024.
-
Information about Enterprise Investment Schemes research has been added.
-
Added translation
-
Inheritance Tax and property valuation research and customs declaration follow-up research contacts added.
-
We have added 'New starter checklist research' and removed 'Coronavirus Job Retention Scheme � research about employers' experiences'.
-
Research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been added.
-
Added translation
-
Added information on Self Assessment tax return � research with first-time customers.
-
Added information on Haulier's Survey.
-
Added information on research to understand customer experiences of making a tax code amendment or correction.
-
Added 'Digital Products and Services � research with businesses and agents' section.
-
Added 'VAT returns communications campaign � research with businesses' section.
-
A road hauliers survey will be carried out between August 2021 and 31 October 2021.You may get a telephone call from IFF Research to invite you to take part.
-
Added translation