Canllawiau Arolygiadau labelu cig eidion a chig llo
Bydd Arolygwyr yn cynnal ymweliadau dirybudd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio 芒'r rheolau yngl欧n 芒 labelu cig eidion yn orfodol ac yn wirfoddol.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
O leiaf unwaith y flwyddyn, bydd un arolygydd neu fwy a awdurdodir gan Defra yn ymweld 芒鈥檆h safle i sicrhau eich bod yn cydymffurfio 芒鈥檙 Cynllun Labelu Cig Eidion Gorfodol.
Os ydych chi yn gwneud honiadau labelu sydd angen eu cymeradwyo o dan y Cynllun Labelu Cig Eidion a Gymeradwywyd byddant hefyd yn sicrhau eich bod wedi eich cofrestru ar y cynllun ac yn meddu ar y tystysgrifau cywir.
Gall yr arolygwyr fod o:
- Arolygiaeth Da Byw a Chig yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA)
- adrannau safonau masnach neu iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol
Ni fyddwch yn cael gwybod am yr ymweliad ymlaen llaw.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi cymorth rhesymol i鈥檙 arolygydd yn ogystal 芒 mynediad i鈥檆h cofnodion. Mae rhwystro鈥檙 arolygydd neu wrthod ei adael i mewn i鈥檆h safle yn drosedd.
Ni ddylech roi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol.
Oni bai bod gennych reswm dros amau ei gywirdeb, gallwch dybio bod y wybodaeth rydych yn ei chael o dan y system labelu cig eidion pan fyddwch yn prynu cig eidion gan eich cyflenwyr yn gywir.
Labelu gorfodol: beth fydd yr arolygydd yn ei wirio
Efallai y bydd angen i鈥檙 arolygydd archwilio鈥檙 canlynol:
- carcasau
- unrhyw gig eidion ffres neu wedi鈥檌 rewi ar y safle
- labeli cig eidion
- cofnodion
Bydd angen i鈥檙 arolygydd edrych ar gofnodion i gynnal gwiriadau olrhain.
Labelu cymeradwy: beth fydd yr arolygydd yn ei wirio
Bydd yr arolygydd yn sicrhau bod gweithredwyr sy鈥檔 gwneud honiadau gwirfoddol o dan y Cynllun Labelu Cig Eidion Cymeradwy yn parhau i labelu yn unol 芒鈥檙 gymeradwyaeth a gawsant. Os ydych wedi cael eich cymeradwyo o dan y Cynllun Labelu Cig Eidion Cymeradwy, yna dylech allu dangos y canlynol i鈥檙 arolygydd:
- tystysgrif cydymffurfiaeth cynnyrch a gyhoeddwyd gan ddilyswr a gydnabyddir gan y llywodraeth yn dilyn arolygiad blaenorol
- eich dogfen gymeradwyaeth a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (neu, yng Nghymru, Llywodraeth Cymru).