Canllawiau

Gofyn i CThEF am wybodaeth am ymddiriedolaeth

Dysgwch sut i gyflwyno cais am ddata ymddiriedolaeth i CThEF er mwyn cael gwybodaeth am ymddiriedolaeth, a pha fanylion byddwn yn eu rhannu.

Yr hyn y mae 鈥榗ais am ddata ymddiriedolaeth鈥� yn ei olygu

Mae鈥檙 broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaeth yn gyfleuster sy鈥檔 galluogi pobl, o dan rai amgylchiadau, i gael mynediad at wybodaeth a gedwir gan y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau.

Yr hyn y mae 鈥榶mddiriedolaeth gofrestredig鈥� yn ei olygu

Mae ymddiriedolaeth gofrestredig yn ymddiriedolaeth sydd wedi鈥檌 chofrestru gan y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaeth.

Ymddiriedolaethau sydd angen eu cofrestru

Nid yw鈥檔 ofynnol i bob ymddiriedolaeth gael eu cofrestru. I ddysgu pa fathau o ymddiriedolaethau y gallwch eu gweld ar y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau, darllenwch Gofrestru ymddiriedolaeth fel ymddiriedolwr.

Ymddiriedolaethau sy鈥檔 dod o dan y broses o wneud cais am ddata

Nid yw pob ymddiriedolaeth gofrestredig yn dod o dan y broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaethau. Dim ond data am ymddiriedolaethau sydd wedi鈥檜 cofrestru ac sy鈥檔 dod o dan y broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaethau y gallwch eu derbyn.

Pryd y byddwn yn rhannu gwybodaeth

Mae鈥檔 bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth am ymddiriedolaeth gofrestredig os yw unigolyn neu sefydliad yn cyflwyno cais am ddata ymddiriedolaeth i ni.

Mae dau fath o gais am ddata ymddiriedolaeth.

Cais am ddata ymddiriedolaeth pan fo buddiant dilys

Defnyddiwch hwn i ofyn am wybodaeth am ymddiriedolaeth sydd, yn eich barn chi, yn ymwneud 芒 gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth.

Mae鈥檔 rhaid i chi allu dangos y canlynol:

  • eich bod yn ymchwilio i achos arbennig o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth
  • bod yr wybodaeth rydych yn gofyn amdani at ddibenion helpu鈥檆h ymchwiliad

Cais am ddata ymddiriedolaeth gan gwmni alltraeth

Defnyddiwch hwn i ofyn am wybodaeth am ymddiriedolaeth gofrestredig sydd 芒 chyfran reolaethol mewn cwmni alltraeth.

Cwmni alltraeth yw cwmni neu endid cyfreithiol arall sydd heb ei sefydlu yn yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒 na Liechtenstein (yn agor tudalen Saesneg).

Cyfran reolaethol at y diben hwn yw lle bo gan ymddiriedolaeth gofrestredig fwy na 50% o鈥檙 cyfranddaliadau yn yr endid, neu ei bod yn gallu ei reoli rhyw ffordd arall.

Pryd na fyddwn yn rhannu gwybodaeth

Ni fyddwn yn rhannu data ymddiriedolaeth os:

  • nad oes digon o wybodaeth mewn cais i ni allu olrhain yr ymddiriedolaeth
  • nad ydych yn dangos bod gennych fuddiant dilys i gael yr wybodaeth
  • nad oes gennym wybodaeth bod gan yr ymddiriedolaeth gyfran reolaethol mewn cwmni alltraeth
  • nad yw鈥檙 ymddiriedolaeth wedi鈥檌 chofrestru
  • yw鈥檙 ymddiriedolaeth wedi鈥檌 heithrio o鈥檙 broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaeth

Os ydych yn un o鈥檙 canlynol, efallai yr hoffech wybod a yw ymddiriedolaeth wedi鈥檌 chofrestru, neu i gymryd perchnogaeth dros gofnod ymddiriedolaeth:

  • yn ymddiriedolwr
  • yn asiant awdurdodedig
  • yn barti arall sydd 芒 chyfrifoldeb cyfreithiol am yr ymddiriedolaeth honno

Ni ddylech ddefnyddio鈥檙 broses o wneud cais am ddata ymddiriedolaethau. Yn lle hynny cysylltwch 芒 CThEF am help gydag ymholiadau am ymddiriedolaethau.

Ymddiriedolaethau sydd wedi鈥檜 heithrio rhag rhannu data

Ni fyddwn yn rhannu data am rai fathau penodol o ymddiriedolaethau cofrestredig, er enghraifft:

  • ymddiriedolaethau trethadwy nad ydynt yn ddatganedig a鈥檜 bod ond wedi鈥檜 cofrestru am eu bod yn agored i drethiant y DU
  • ymddiriedolaethau datganedig eithriedig (a elwir hefyd yn ymddiriedolaethau atodlen 3A) a鈥檜 bod ond wedi鈥檜 cofrestru am eu bod yn agored i drethiant y DU
  • ymddiriedolaethau y tu allan i鈥檙 DU heb unrhyw ymddiriedolwyr sy鈥檔 preswylio yn y DU, a鈥檜 bod ond wedi鈥檜 cofrestru am fod ganddynt dir neu eiddo yn y DU

Unigolion sydd wedi鈥檜 heithrio o rannu data

Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth am unigolion penodol:

  • os ydym wedi cael gwybod eu bod nhw o dan 18 oed neu na allant wneud penderfyniadau o ganlyniad i鈥檞 cyflwr meddwl (er enghraifft, bod ganddynt salwch meddwl, anabledd dysgu neu ddementia)
  • os ydym yn ymwybodol, ac yn cytuno, y bydd rhannu gwybodaeth yn gwneud unigolyn yn agored i鈥檙 canlynol:
    • twyll
    • herwgipiad
    • blacmel
    • cribddeiliaeth
    • aflonyddu
    • trais
    • bygythiad

Gwybodaeth y byddwn yn ei rhannu

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth am berchnogion llesiannol sy鈥檔 gysylltiedig ag ymddiriedolaeth gofrestredig.

Gall perchennog llesiannol fod yn unrhyw un sy鈥檔 gysylltiedig ag ymddiriedolaeth, er enghraifft:

  • ymddiriedolwr
  • setlwr
  • buddiolwr

Gwybodaeth am unigolion

Byddwn yn rhannu鈥檙 wybodaeth ganlynol am yr unigolion:

  • ei enw
  • mis a blwyddyn ei eni
  • ei wlad breswyl
  • ei genedligrwydd
  • ei r么l yn yr ymddiriedolaeth

Gwybodaeth am sefydliadau

Byddwn yn rhannu manylion canlynol y sefydliad:

  • enw
  • statws preswyl
  • r么l yn yr ymddiriedolaeth

Yr hyn y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud cais

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad e-bost, neu鈥檆h Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檆h cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
  • eich enw, cyfeiriad a rhif ff么n
  • manylion a chyfeiriad eich sefydliad, os yw鈥檔 briodol
  • digon o wybodaeth i adnabod yr ymddiriedolaeth, er enghraifft:
    • enw鈥檙 ymddiriedolaeth
    • unrhyw Gyfeirnodau Treth Unigryw (UTR) perthnasol
    • unrhyw Gyfeirnodau Unigryw (URN) perthnasol
    • manylion cyswllt personol unrhyw un sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 ymddiriedolaeth
    • manylion cyswllt sefydliadau sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 ymddiriedolaeth

Ar gyfer ceisiadau am ddata ymddiriedolaeth pan fo buddiant dilys, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

  • gwybodaeth i ddangos eich bod yn ymwneud ag ymchwiliad i wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth
  • adroddiad ysgrifenedig yn esbonio pam rydych yn amau bod yr ymddiriedolaeth yn ymwneud 芒 gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth

Gallwch hefyd roi unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi鈥檆h adroddiad ysgrifenedig (er enghraifft, cyfriflenni banc, anfonebau ac e-byst).

Sut i gyflwyno cais

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gyflwyno鈥檆h cais. Byddwch yn gallu atodi unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi鈥檆h cais.

Drwy ddefnyddio鈥檙 ffurflen hon, rydych yn cytuno y gallai鈥檙 wybodaeth a ddarparwch gael ei defnyddio gan adrannau eraill yn CThEF. Megis ymchwilio i ymddiriedolaeth nad yw鈥檔 gofrestredig ar gofrestr yr ymddiriedolaethau.

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch eu creu.

Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen ar wah芒n ar gyfer pob ymddiriedolaeth yr ydych yn gwneud cais am ddata ar ei chyfer.

Ni allwch ddefnyddio鈥檙 ffurflen hon i roi gwybod i CThEF am berson neu fusnes nad yw鈥檔 talu digon o dreth, neu sy鈥檔 cyflawni twyll treth, yn eich barn chi. Dysgwch sut i roi gwybod i CThEF am dwyll treth neu arbed treth.

Ar 么l i chi gyflwyno鈥檆h cais

Byddwn yn anfon e-bost cadarnhau atoch gyda chyfeirnod eich cais.

Byddwn yn adolygu鈥檙 wybodaeth rydych wedi ei rhoi i ni a cheisio ysgrifennu atoch cyn pen 8 wythnos.

Pan fyddwn yn ysgrifennu atoch, byddwn yn naill ai:

  • rhoi鈥檙 holl wybodaeth a ofynnoch amdani, neu peth ohoni
  • dal yr holl wybodaeth yn 么l
  • rhoi gwybod i chi nad yw wedi bod yn bosibl delio 芒鈥檆h cais (er enghraifft, pan na fyddwn wedi gallu dod o hyd i鈥檙 ymddiriedolaeth)

Os byddwn yn gwrthod eich cais oherwydd bod eithriad yn berthnasol

Os penderfynwn beidio 芒 rhannu gwybodaeth 芒 chi, byddwn yn anfon llythyr atoch. Bydd hwn yn esbonio sut y gallwch ofyn i ni adolygu鈥檔 penderfyniad os ydych yn anghytuno. Bydd gennych 30 diwrnod o gael ein llythyr i ofyn am adolygiad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Mehefin 2023 show all updates
  1. Information about what a trust data request is and how to make a trust data request has been added.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon