Rhoi gwybod i CThEF am anghysondeb o ran ymddiriedolaeth
Anfonwch adroddiad at CThEF os ydych yn ‘berson perthnasol� a’ch bod wedi dod o hyd i anghysondeb gydag ymddiriedolaeth fel rhan o’ch ymrwymiadau mewn perthynas â gwyngalchu arian.
Mae’n rhaid cofrestru’r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau gyda CThEF. Os ydych yn ‘berson perthnasol�, mae’n rhaid i chi ofyn am dystiolaeth o gofrestru’r ymddiriedolaeth pan fydd y naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
- mae un o ymddiriedolwyr neu asiantau’r ymddiriedolaeth yn dod atoch i drefnu perthynas fusnes newydd
- mae’n ofynnol i chi, fel rhan o’r monitro parhaus, i wirio manylion yr ymddiriedolaethau yr ydych eisoes mewn perthynas busnes â nhw
Gwirio a ydych yn ‘berson perthnasol�
Nid ymddiriedolwr ymddiriedolaeth nac asiant ymddiriedolaeth yw ‘person perthnasol� (a elwir hefyd yn endid dan orfodaeth). Sefydliad ydyw sy’n gweithio mewn rhinwedd broffesiynol ac sy’n gorfod cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy o dan reoliadau gwrth-wyngalchu arian.
Mae personau perthnasol yn cynnwys:
- cyfranogwyr yn y farchnad gelf
- archwilwyr
- casinos
- sefydliadau credyd
- darparwyr cyfnewidfeydd cryptoasedion
- darparwyr waledi gwarchodol
- asiantau eiddo ac asiantau gosod eiddo
- cyfrifwyr allanol ac ymgynghorwyr treth
- sefydliadau ariannol
- delwyr mewn gwerthoedd uchel
- gweithwyr cyfreithiol annibynnol proffesiynol
- ymarferwyr ansolfedd
- darparwyr gwasanaeth cwmni neu ymddiriedolaeth
Yr hyn y mae’n rhaid eu cynnwys ar y dystiolaeth o gofrestru
Mae’n rhaid cynnwys y manylion canlynol am yr ymddiriedolaeth:
- enw’r ymddiriedolaeth
- Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr neu Gyfeirnod Unigryw
- y dyddiad dechrau
- y dyddiad y cafodd ei diweddaru diwethaf
Os yw unrhyw setlwr, ymddiriedolwr neu fuddiolwr yn unigolyn, bydd yn rhaid cynnwys y manylion canlynol amdano:
- enw llawn
- mis a blwyddyn geni
- gwlad breswyl
- cenedligrwydd
Os yw unrhyw setlwr, ymddiriedolwr neu fuddiolwr yn gwmni (neu yn endid cyfreithiol arall), bydd yn rhaid cynnwys y manylion canlynol am y cwmni hwnnw:
- enw llawn
- cyfeiriad y swyddfa
- natur ei rôl yn yr ymddiriedolaeth
Dylech ystyried yn ofalus y risgiau o ran ymrwymo i berthynas fusnes gydag ymddiriedolaeth gofrestradwy os nad yw ei thystiolaeth o gofrestru yn gywir ac yn gyfredol.
Pryd y gallwch gyflwyno adroddiad
Gallwch anfon adroddiad at CThEF os ydych yn berson perthnasol a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
- mae anghysondeb sylweddol rhwng yr wybodaeth sydd gennych am yr ymddiriedolaeth a’r hyn sydd ar ei thystiolaeth o gofrestru
- nid yw’r ymddiriedolaeth wedi’i chofrestru gyda CThEF, ac rydych yn credu y dylai fod wedi gwneud hynny
Dylech geisio cysylltu ag un o ymddiriedolwyr neu asiantau’r ymddiriedolaeth yn gyntaf i ddatrys unrhyw anghysondeb. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud hyn drwy wneud y canlynol:
- ei annog i gofrestru’r ymddiriedolaeth gyda CThEF
- gofyn iddo gywiro hen wybodaeth a rheoli manylion yr ymddiriedolaeth ar-lein
Os na allwch ddatrys unrhyw anghysondeb sylweddol gyda’r ymddiriedolwr, dylech roi gwybod i CThEF.
Beth yw anghysondeb sylweddol
Mae anghysondeb sylweddol yn digwydd pan fod y ddau beth canlynol yn wir am y person perthnasol:
- mae’r wybodaeth sydd ganddo am yr ymddiriedolaeth yn wahanol iawn i’r hyn sydd yn y dystiolaeth o gofrestru a roddwyd gan yr ymddiriedolwr neu’r asiant � mae hyn yn cynnwys pan fo’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ddatganedig gofrestradwy nad yw wedi’i chofrestru (ni all yr ymddiriedolwr ddangos tystiolaeth o gofrestru)
- mae ganddo farn resymol bod yr anghysondeb wedi digwydd o ganlyniad i wyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, neu drwy guddio busnes yr ymddiriedolaeth (p’un a oedd hyn yn fwriadol neu ar gam)
Dyma enghreifftiau o’r amgylchiadau pan ddylech roi gwybod am anghysondeb sylweddol:
- nid ydych wedi gweld tystiolaeth o gofrestru, er bod yr ymddiriedolaeth i fod wedi’i chofrestru
- rydych yn credu bod gwybodaeth am dystiolaeth o gofrestru a roddwyd i chi yn ffug
- mae gennych wybodaeth sy’n eich arwain i amau achos o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth
- yn y dystiolaeth o gofrestru:
- mae gwahaniaethau clir yn enw, Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, dyddiad dechrau neu gyfeiriad gohebu’r ymddiriedolaeth
- mae gwybodaeth bersonol am y perchennog llesiannol yn anghywir (er enghraifft, mae ei fis neu flwyddyn geni yn anghywir)
- mae perchnogion llesiannol ar goll, neu wedi’u cynnwys ar gam, a dylid eu tynnu
- nid yw’r wybodaeth am yr ymddiriedolaeth yn cyd-fynd o gwbl â’r hyn rydych yn disgwyl ei weld
Yr hyn nad oes angen i chi roi gwybod amdano
Does dim rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- gwallau sillafu (er enghraifft, Jon Smith yn lle John Smith)
- enwau canol sydd â mân wahaniaethau, neu sydd ar goll
- mân wahaniaethau yn enw’r ymddiriedolaeth
Peidiwch â defnyddio’r adroddiad hwn i adrodd am weithgarwch amheus sy’n ymwneud â gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth (yn Saesneg).
Cadwch unrhyw fanylion ynghylch adroddiad gweithgarwch amheus yn gyfrinachol. Peidiwch â rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi cyflwyno adroddiad.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch, neu Ddynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth, i gyflwyno adroddiad. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Mae’n rhaid i chi hefyd roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni fel y gallwn brosesu’ch adroddiad, gan gynnwys:
- manylion yr ymddiriedolaeth (er enghraifft, enw, cyfeiriad, a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr neu Gyfeirnod Unigryw’r ymddiriedolaeth os ydych yn gwybod beth ydyw)
- enw a chyfeiriad y person sy’n cynrychioli’r ymddiriedolaeth, fel y gallwn gysylltu ag ef ynghylch yr anghysondeb (er enghraifft, yr ymddiriedolwr)
- y math o adroddiad anghysondeb (er enghraifft, os yw’r ymddiriedolaeth heb ei chofrestru neu ei chynnal)
- eich rheswm dros gredu bod yr anghysondeb yn ymwneud â gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth (os yw’n berthnasol)
- manylion yr anghysondebau rydych wedi dod o hyd iddynt
- sut rydych yn gwybod bod yr wybodaeth ar goll neu’n anghywir
- unrhyw dystiolaeth arall sydd gennych rydych yn credu ei bod yn berthnasol
- eich enw
- y gwasanaeth rydych yn ei roi fel person perthnasol (er enghraifft, cyngor treth)
- manylion eich sefydliad (er enghraifft, enw a chyfeiriad)
- eich manylion personol os nad ydych yn cynrychioli sefydliad (er enghraifft, enw a chyfeiriad)
Os oes gennych fynediad at dystiolaeth o gofrestru’r ymddiriedolaeth a’ch bod yn credu nad yw’n ddilys, dylech gynnwys copi a rhoi gwybod i ni am yr hyn rydych yn credu sy’n anghywir.
Os nad oes gennych fynediad at dystiolaeth o gofrestru’r ymddiriedolaeth, ac os na allwch roi enw a chyfeiriad yr unigolyn sy’n cynrychioli’r ymddiriedolaeth i ni, dylech roi digon o wybodaeth i ni i’n helpu i olrhain yr ymddiriedolaeth (er enghraifft, manylion unrhyw berchnogion llesiannol sy’n gysylltiedig â’r ymddiriedolaeth).
Os ydych wedi cyflwyno Adroddiad Gweithgarwch Amheus i Uned Cuddwybodaeth Ariannol y DU, peidiwch â datgelu’r wybodaeth hon i CThEF.
Cyflwyno adroddiad
Peidiwch â chyflwyno adroddiad i ofyn i ni newid manylion eich ymddiriedolaeth. Gallwch reoli manylion yr ymddiriedolaeth ar-lein.
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gyflwyno’ch adroddiad. Gallwch atodi unrhyw dystiolaeth sydd gennych i ategu’ch adroddiad.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen ar wahân ar gyfer pob ymddiriedolaeth yr ydych yn adrodd amdani.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch adroddiad
Byddwn yn anfon e-bost cadarnhau atoch, gyda’ch cyfeirnod cyflwyno, a byddwn yn ymchwilio i’r anghysondeb. Ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi am ganfyddiadau ein hymchwiliad.
Gall ein hymchwiliad gynnwys cysylltu ag ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth. Ni fyddwn yn rhoi gwybod iddynt sut rydym yn gwybod bod angen diweddaru eu manylion.
Unwaith y bydd yr ymddiriedolwyr wedi diweddaru eu cofnodion, dylent naill ai:
- rhoi tystiolaeth o gofrestru newydd i chi, neu
- dangos i chi nad oes angen cofrestru’r ymddiriedolaeth
Gallwch ddechrau perthynas fusnes â’r ymddiriedolaeth os ydych yn fodlon bod yr wybodaeth y maent wedi ei rhoi i chi yn gywir.