Araith i'r Cynulliad Cenedlaethol
Stephen Crabb yn gosod allan rhaglen ddeddfwriaethol gyntaf y Llywodraeth

Cyflwyniad
Diolch yn fawr, Fadam Lywydd.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint o fraint yw hi i fod yma yn adeilad gwych y Senedd ar gyfer y ddadl hon ar raglen ddeddfwriaethol gyntaf Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig - rhaglen Un Genedl sy鈥檔 ceisio cryfhau鈥檙 Deyrnas Unedig gyfan.
Dyma fy nghyfle cyntaf i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad, ac rwy鈥檔 falch o gyfleu dymuniadau da iawn fy nau Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Cymru - y naill a鈥檙 llall gynt o鈥檙 parthau hyn, ac a fydd yn gyfarwydd iawn i bawb ohonoch.
Mae hi bron i flwyddyn ers i mi gael fy mhenodi鈥檔 Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Ar y pryd, roedd aelodau Llywodraeth Glymblaid y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, yn enwedig y Prif Weinidog, yn rhan o鈥檙 ymgyrch i annog yr Alban i aros yn y Deyrnas Unedig.
Rwy鈥檔 sylweddoli nad oedd pob Aelod o鈥檙 lle hwn a aeth i fyny i鈥檙 Alban i ymgyrchu ar yr un ochr i鈥檙 ddadl. Ond byddaf yn cofio am byth sefyll yn y Senedd yn Holyrood gyda Ruth Davidson ar un o fy ymweliadau yno ychydig ddyddiau cyn y bleidlais, wrth i grwpiau ysgol gael eu tywys ar deithiau o amgylch y siambr, a myfyrio ar y foment ryfeddol roeddem yn rhan ohoni.
Fe鈥檓 trawodd nad oedd amheuaeth o gwbl y byddai lle鈥檙 Senedd honno鈥檔 dod yn fwyfwy pwysig ym mywyd cenedl yr Alban beth bynnag fyddai canlyniad y bleidlais y dydd Iau hwnnw, a鈥檌 bod yn anorfod y byddai awdurdod a r么l y Senedd honno fel corff deddfu ac fel fforwm trafod a dadlau a datrys cenedlaethol yn si诺r o dyfu.
A dyna dynged y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd, mi gredaf.
Bod yn Senedd.
Mae鈥檙 Senedd hon, wedi鈥檙 cyfan, yn fan y mae fy mhlant fy hun yn ymweld 芒 hi ar eu tripiau gyda鈥檙 ysgol a鈥檙 Urdd i ddysgu am ddemocratiaeth yng Nghymru; Dyma鈥檙 fan lle safodd y Prif Weinidog a minnau ochr yn ochr 芒 phlant ysgol o Gaerdydd a gwylio鈥檙 arddangosiad rhyfeddol hwnnw yn yr awyr i nodi diwedd uwchgynhadledd NATO fis Medi diwethaf; dyma鈥檙 fan lle daeth aelodau o鈥檙 gymuned Ffrengig ynghyd ag uwch Rabbi Cymru ac Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimiaid Cymru ddiwrnodau ar 么l erchyllterau terfysgol Charlie Hebdo ym Mharis 鈥� lle i alaru a sefyll gyda鈥檔 gilydd; ac i鈥檙 Senedd hon y daw cymunedau o bob rhan o Gymru i brotestio ynghylch newidiadau i鈥檞 gwasanaethau ysbyty.
Oherwydd go brin fod Senedd heb brotestiadau yn Senedd o gwbl.
Yn gynyddol ac yn ddiamheuol, mae hwn yn fan ymgynnull pwysig: yn lle trafod a gwneud penderfyniadau, yn symbol o fywyd cenedlaethol Cymru.
Ac rwy鈥檔 sefyll yma brynhawn heddiw yn cydnabod bod y drefn hon rwy鈥檔 cydymffurfio 芒 hi - dod yma i siarad am Araith Rasol Ei Mawrhydi - a ragwelwyd ac y deddfwyd ar ei chyfer yn y dyddiau pan oedd Cynulliad deddfwriaethol cryf i Gymru yn ymddangos yn bell i ffwrdd - yn dipyn o anacroniaeth. Bargod o gyfnod arall.
Madam Lywydd, rwy鈥檔 gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych chi a minnau wedi siarad amdano droeon, ac felly byddwch yn falch o glywed fy mod yn bwriadu diddymu鈥檙 drefn hon fel rhan o鈥檙 Bil Cymru arfaethedig a gyhoeddwyd yn yr Araith Rasol fis diwethaf.
Rwy鈥檔 si诺r y dewch o hyd i lawer gwell ddefnydd ar gyfer y sedd hon.
Ond dychwelaf at Fil Cymru yn y man.
Araith y Frenhines
Madam Lywydd, datganiad o fwriad Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yw helpu pobl sy鈥檔 gweithio, hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac uno holl bobloedd ein cenedl.
Drwy araith y Frenhines fis diwethaf, cyhoeddom ein rhaglen ddeddfwriaethol i adeiladu ar y gwaith pwysig y bu i ni ddechrau arno bum mlynedd yn 么l i wella bywydau pawb yn ein gwlad, a hoffwn grynhoi鈥檙 hyn rwy鈥檔 credu y mae hyn yn ei olygu i Gymru.
Araith y Frenhines: Helpu pobl sy鈥檔 gweithio a chyfiawnder cymdeithasol Yn gyntaf, rwy鈥檔 falch o fod yn rhan o Lywodraeth sydd wedi goruchwylio sawl cwymp nodedig mewn diweithdra ar draws y Deyrnas Unedig ac yn enwedig yma yng Nghymru ers 2010. Rhan gwbl ganolog o鈥檔 rhaglen yn y Senedd hon yw gweld hynny鈥檔 parhau, ac felly byddwn yn cyflwyno ein Bil Cyflogaeth Lawn a Budd-daliadau Lles i helpu rhagor o bobl i fanteisio ar y cyfleoedd gwaith a bywyd a ddaw yn sgil gwaith newydd.
Nid oes dim yn bwysicach i mi na gweld Cymru鈥檔 rhannu ffrwyth adferiad economaidd y Deyrnas Unedig yn llawn.
Ers 2010, mae 34,000 yn llai o blant yng Nghymru yn cael eu magu mewn cartrefi lle nad oes yr un rhiant yn gweithio. Mae hynny鈥檔 hollol drawsnewidiol i鈥檙 bywydau hynny 鈥� i鈥檙 unigolion a鈥檙 teuluoedd hynny sy鈥檔 cael eu magu yn gweld model r么l yn mynd i weithio ac yn dod 芒 chyflog adref, gan dorri rhwystrau symudedd cymdeithasol.
Ac felly yn y Senedd hon byddwn yn parhau i ddiwygio lles, annog cyflogaeth drwy gapio budd-daliadau a鈥檌 gwneud yn ofynnol i bobl ifanc ennill cyflog neu ddysgu.
Byddwn yn parhau i wobrwyo gwaith caled drwy helpu pobl i gadw rhagor o鈥檙 arian maent yn ei ennill. Drwy鈥檙 Bil Cyllid byddwn yn codi lwfans personol di-dreth i 拢10,600 flwyddyn nesaf ac i 拢12,500 erbyn diwedd y Senedd hon. A gadewch i ni fod yn glir ynghylch yr hyn y mae hynny鈥檔 ei olygu鈥�. pobl ar yr incwm isaf yn talu llai o dreth: rhagor o arian yn mynd yn 么l at y bobl sydd ei angen fwyaf.
Byddwn hefyd yn deddfu i wneud yn si诺r nad yw鈥檙 bobl hynny sy鈥檔 gweithio 30 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog yn talu unrhyw dreth incwm o gwbl, a byddwn yn pasio deddf i sicrhau nad oes unrhyw godiad mewn cyfraddau treth incwm, TAW nac Yswiriant Gwladol yn ystod cyfnod y Senedd hon.
Rhan allweddol o鈥檔 cynllun i helpu pobl sy鈥檔 gweithio yw鈥檙 mesurau y byddwn yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yng Nghymru, - sef y crewyr swyddi go iawn a gwir arwyr yr adferiad economaidd hwn.
Mae tua 230,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru heddiw, cynnydd o 26,000 ers 2010, ac rwyf eisiau gweld y ffigur hwnnw鈥檔 codi ymhell dros chwarter miliwn erbyn 2020, gyda phob busnes newydd yn cyflwyno swyddi newydd, cyfleoedd a chyfoeth newydd i鈥檔 cenedl.
Ac felly drwy鈥檙 Bil Menter byddwn yn torri 拢10 biliwn oddi ar gostau rheoleiddio i fusnesau, gan helpu cwmn茂au i dyfu a chreu swyddi a sicrhau bod Prydain yn parhau i fod yn un o鈥檙 econom茂au mwyaf cystadleuol lle gellir cynnal busnes.
Araith y Frenhines: Un Genedl
Ar wah芒n i fesurau a fydd yn cryfhau ein cefnogaeth i bobl sy鈥檔 gweithio a sicrhau cyfiawnder cymdeithasol drwy dorri cylchoedd dibyniaeth, bydd ein rhaglen ddeddfwriaethol hefyd yn cryfhau鈥檙 cysylltiadau sy鈥檔 rhwymo gwahanol rannau ein Teyrnas Unedig ynghyd.
Nid oes unrhyw gwestiwn mai un o heriau gwleidyddol strategol allweddol ein gwaith, ochr yn ochr 芒鈥檙 angen i ailadeiladu ein cyllid cenedlaethol a lleihau鈥檙 diffyg, yw鈥檙 cyfansoddiad, a sut rydym yn cyd-fyw fel teulu o genhedloedd.
Ac felly, amcan hollol greiddiol gan y Llywodraeth yn San Steffan yw ceisio cryfhau鈥檙 Deyrnas Unedig yn Un Genedl.
Mae hynny鈥檔 golygu ymateb i her cenedlaetholdeb yn uniongyrchol, oherwydd ein bod yn credu鈥檔 gryf yn yr Undeb - ar gyfer yr holl fudd a chyfuno risg a鈥檙 cyfle mae鈥檔 ei gynnig i bawb ohonom - ac rydym yn gwybod nad yw hi wedi darfod ar y Deyrnas Unedig hon.
Datganoli
Ond mae hefyd yn golygu cyflawni ar ddatganoli, nid am ein bod yn meddwl y dylem gwrdd 芒 chenedlaetholwyr hanner ffordd, ond oherwydd mai rhan greiddiol o鈥檔 hathroniaeth yw cydnabod, yn enwedig yn yr 21ain ganrif, wrth i rymoedd globaleiddio lunio ac ail-lunio ein byd, mai鈥檙 hyn fydd yn allweddol i lwyddiant economaidd ar gyfer cenhedloedd datblygedig fydd gwthio p诺er am i lawr a datganoli.
Mae鈥檔 golygu cydnabod nad yw鈥檙 model hen ffasiwn o wladwriaeth genedl Fictoraidd, wedi ei chanoli鈥檔 helaeth iawn, yn darparu鈥檙 modd i wasgaru grym a gwneud penderfyniadau sydd ei angen mewn oes pan fo gwybodaeth, deallusrwydd a chyfalaf yn symud ar garlam.
Ynghyd 芒 hynny mae rhagor o gydnabyddiaeth, a fu ers degawdau bellach, na allwn barhau ag economi鈥檙 Deyrnas Unedig yn dod yn gynyddol unochrog, gyda Llundain a de ddwyrain Lloegr yn brif gynhyrchydd cyfoeth a thwf ar gyfer y Deyrnas Unedig 鈥� a鈥檙 ardal honno鈥檔 edrych yn gynyddol fel dinas-wladwriaeth ynddi鈥檌 hunan.
Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i ymateb i鈥檙 angen ymarferol ar frys i adfer cydbwysedd ein heconomi, fel bod cyfoeth yn cael ei greu a鈥檌 ddosbarthu yn llawer mwy cyfartal a theg ar draws y Deyrnas Unedig
Bil Cymru
Ac felly byddwn yn anrhydeddu鈥檙 ymrwymiadau a wnaethom i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y Senedd ddiwethaf. Yn yr Alban, byddwn yn cadw at ein haddewidion i ddatganoli rhagor o bwerau sylweddol i Senedd yr Alban yn unol ag argymhellion Comisiwn Smith. Yng Ngogledd Iwerddon, byddwn yn bwrw ymlaen 芒 Chytundeb T欧 Stormont er mwyn helpu i greu dyfodol mwy llewyrchus, sefydlog a diogel ar gyfer pobl yno.
Ac yn hollbwysig ar gyfer siambr hon, byddwn yn gweithredu Cytundeb Dydd G诺yl Dewi i fynd ati i ail-ysgrifennu鈥檙 setliad datganoli ar gyfer Cymru yn sylfaenol, i鈥檞 wneud yn gliriach, yn gryfach ac yn decach. Roedd hwn yn ymrwymiad clir yn ein maniffesto ac yn un y byddwn yn ei gyflawni - yn llawn.
Yn 么l ym mis Hydref, pan ofynnodd y Prif Weinidog i mi yn ystod yr oriau ar 么l y refferendwm yr Alban i edrych eto ar setliad datganoli Cymru, rwy鈥檔 gwybod bod rhai yn y siambr hon a oedd yn amau lle byddai proses Dydd G诺yl Dewi yn arwain.
Ond o鈥檙 eiliad y sychodd yr inc ar y ddogfen Pwerau at Bwrpas a gyhoeddom ar gyfer Dydd G诺yl Dewi, cynullais d卯m o swyddogion yn Swyddfa Cymru i ddechrau drafftio鈥檙 ddeddfwriaeth newydd. Ac felly rwy鈥檔 bwriadu cyhoeddi Bil Cymru ar ffurf drafft yn ystod yr hydref eleni ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu, cyn ei gyflwyno i鈥檙 Senedd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd yn rhywbeth a alwn yn 鈥楩il parhad鈥� y bydd angen cwblhau ei daith yn ystod ail flwyddyn y Senedd hon, a chael Cydsyniad Brenhinol erbyn dechrau 2017.
Ac i鈥檙 lleisiau hynny sy鈥檔 mynegi pryder nad yw Bil Cymru yn symud mor gyflym 芒 deddfwriaeth yr Alban - gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch graddfa鈥檙 hyn rydym yn ei wneud yma. Nid atodiad i鈥檙 trefniadau presennol ar gyfer Cymru yw hwn, na rhyw fath o ategyn ychwanegol 鈥� mae鈥檙 hyn rydym yn dechrau arno yn golygu ail-ysgrifennu鈥檙 setliad datganoli ar raddfa sylfaenol, y pecyn mwyaf pellgyrhaeddol ac arwyddocaol o bwerau a ddatganolwyd i Gymru erioed. Ac rwyf wedi bod yn glir o鈥檙 diwrnod cyntaf y byddaf yn cymryd yr amser sydd ei angen i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn iawn.
Oherwydd pan fyddwn yn s么n am fodel cliriach, cryfach a thecach o ddatganoli - sydd wrth wraidd ein pecyn Dydd G诺yl Dewi - rydym yn golygu cliriach o ran egluro cyfrifoldebau drwy fodel cadw pwerau newydd; cryfach, drwy ddarparu pwerau a chymwyseddau newydd i鈥檙 lle hwn ac i鈥檙 Gweinidogion; ac, yn hollbwysig, yn decach, drwy fwrw ymlaen 芒鈥檔 hymrwymiad cyllido teg a mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 gwendidau o ran sut mae fformiwla Barnett yn gweithredu ar gyfer Cymru.
Madam Lywydd, rwy鈥檔 falch mai fi yw Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru i fynd i鈥檙 Trysorlys, i ddadlau鈥檙 achos dros gyllid teg i Gymru a sicrhau鈥檙 ymrwymiad hanesyddol hwnnw i arian gwaelodol - fel y cynigiwyd yng Nghomisiwn Holtham.
Ond rwy鈥檔 credu ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiad ei hun i鈥檙 pecyn cyfan drwy wneud cynnydd ar y pwerau codi treth incwm sydd ar gael iddi鈥檔 barod.
Nid oes Senedd arall yn y byd nad yw鈥檔 gyfrifol am godi arian yn ogystal 芒鈥檌 wario.
Ym 1773 chwalodd y 鈥楳eibion Rhyddid鈥� y llongau te yn Harbwr Boston gyda鈥檙 alwad i uno 鈥淒im trethiant heb gynrychiolaeth鈥�. Wel, yma yng Nghymru mae gennym sefyllfa o chwith, braidd: cynrychiolaeth a phwerau deddfu llawn ond heb gyfrifoldeb ar gyfer trethiant arwyddocaol. Rhan greiddiol o ymddangosiad democratiaeth oedd perthynas gyfunedig rhwng deddfu a chodi arian i ategu鈥檙 ddeddfwriaeth honno 鈥� rhywbeth canolog i atebolrwydd democrataidd.
Madam Lywydd, mae hwn yn becyn o ddatganoli i Gymru. Ac os oes unrhyw un yma yn meddwl y gellir datgymalu鈥檙 pecyn hwn rywsut, neu y gellir chwarae gemau gwleidyddol gydag unrhyw ran ohono, yna maent mewn perygl o gamddeall yn ddybryd yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni yma, a beth yw鈥檙 cyfle i ni yng Nghymru.
Mae鈥檙 cyfle i sefydlu setliad datganoli, na fydd yn mynd mor bell ag y byddai Plaid Cymru neu rai pobl eraill yn ei hoffi, efallai, ond sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu lle mae barn gyhoeddus Cymru ar hyn o bryd i gyflawni canlyniad ein Refferendwm ein hunain yn 2011 pan - drwy fwyafrif o ddwy i Un 鈥� y dywedodd pobl Cymru 鈥榠e鈥� i Gynulliad deddfu llawn. Ond gan gydnabod hefyd bod cefnogaeth ar gyfer annibyniaeth a chwalu鈥檙 Undeb ar lefel is nag erioed, bron 芒 bod, yng Nghymru.
Gan fy mod yn credu鈥檔 gryf bod y cyhoedd yng Nghymru yn dyheu i ni symud ymlaen fel cenedl ac i鈥檙 lle hwn - y Cynulliad Cenedlaethol hwn, y Senedd hon - ddod yn fforwm go iawn ar gyfer trafod, datrys ac ymdeimlad o bwrpas a gweithredu, yn fynegiant o鈥檔 huchelgais cenedlaethol ar gyfer twf economaidd, creu cyfoeth, cyflawniadau addysgol, canlyniadau iechyd o鈥檙 radd flaenaf er mwyn iddo ddarparu atebion ar yr holl faterion sy鈥檔 wirioneddol bwysig i鈥檙 bobl y mae鈥檔 eu gwasanaethu, nid yn gyfrwng ar gyfer sgwrs ddiddiwedd am ragor o bwerau, neu gynhyrchu consensws diflas sy鈥檔 bodloni ar gyffredinedd, lle mae cyllid yn cael ei ddefnyddio bob amser fel yr esgus cenedlaethol mawr dros beidio 芒 chyflawni ein potensial.
Efallai y bydd yn peri tipyn o syndod i chi, Madam Lywydd, na holwyd fi unwaith ar yr un garreg drws ledled Cymru ynghylch rhagor o bwerau neu ddatganoli yn ystod yr ymgyrch etholiadol diweddar.
Mewn gwirionedd, mae pawb ohonom yn gwybod yr hyn roedd y pleidleiswyr yn dymuno ei drafod.
Ac mae鈥檙 datgysylltiad a鈥檙 gagendor rhwng eu pryderon a鈥檙 hyn y mae sylwebyddion Cymru yn canolbwyntio arno bob dydd yn enfawr.
Lleoliaeth
Ac oherwydd ein bod ni yng Nghymru yn treulio鈥檙 holl amser yn siarad am ddatganoli rhagor o bwerau i鈥檙 Cynulliad, rydym mewn perygl o golli鈥檙 cyfleoedd cyffrous sy鈥檔 trawsnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol rhannau eraill o鈥檙 Deyrnas Unedig.
Rydym ni yng Nghymru mewn perygl o gael ein hongian ar hen fodel o ddatganoli o鈥檙 20fed ganrif. Ar yr un pryd, rydym yn gweld lleoliaeth a datganoli, datganoli is-genedlaethol, yn ffynnu ar draws gweddill y Deyrnas Unedig mewn ffyrdd na fyddai llawer iawn o bobl wedi gallu ei ragweld yn cael ei ddarparu o Whitehall. A bydd ein Bil Datganoli a Lleoliaeth newydd a gyhoeddwyd yn yr Araith Rasol yn mynd 芒鈥檙 dull radical hwnnw i lefel newydd.
Madam Lywydd, pan fyddaf yn gweld cynghorau cryf dan ofal Llafur yn taro bargeinion gyda Changhellor y Trysorlys a鈥檙 Trysorlys mewn lleoedd fel Manceinion a Newcastle, neu yn Glasgow - yr holl ardaloedd metro hynny sydd 芒 phoblogaethau nad ydynt yn annhebyg i Gymru, gan ddatgloi eu potensial i sbarduno arloesi, twf a chynhyrchiant newydd ar gyfer eu rhanbarthau, nid wyf eisiau gweld Cymru yn cael ei gadael ar 么l.
Oherwydd dylai鈥檙 un synnwyr hwnnw o ddatganoli, grymuso a gwthio pwerau i lawr i gymunedau fod yn nodweddiadol o鈥檙 lle hwn hefyd.
Ac felly bydd Bargen Dinas Caerdydd yn brawf litmws o ddau beth i ni wleidyddion o Gymru: Bydd yn datgelu a ydym ni yng Nghymru yn deall yr agenda ddatganoli a鈥檙 cyfleoedd cyffrous y mae鈥檔 eu cyflwyno o ran adnewyddiad economaidd a dinesig yma yng Nghymru. Ac yn hanfodol, bydd hefyd yn brawf o鈥檔 pragmatiaeth wleidyddol.
Rydym yn genedl fach ac rwy鈥檔 credu bod gennym rym mwy na鈥檔 maint ni pan fyddwn yn cydweithio. Nid wyf yn credu bod rhyfela llwythol hen ffasiwn gwleidyddiaeth Cymru wedi bod o fudd mawr i Gymru dros y blynyddoedd, ac nid wyf yn credu mai dyna beth mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl Cymru yn dymuno ei gael gan eu gwleidyddion mewn gwirionedd 鈥� yn sicr, dyna鈥檙 neges a glywaf yn uchel ac yn glir gan y gymuned fusnes sydd eisiau gweld pragmatiaeth a chydweithio yn dod yn rai o nodweddion gwleidyddiaeth Cymru. Ac mae鈥檙 dull hwnnw鈥檔 sicr yn un rwy鈥檔 ceisio ei gyflawni yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Cymru.
Ac felly, ar 么l i Fil Cymru gael ei basio, bydd y baich yn disgyn ar y lle hwn i fwrw ymlaen 芒鈥檙 agenda leoliaeth ddeinamig sy鈥檔 trawsnewid rhagolygon economaidd dinasoedd, rhanbarthau a siroedd yn Lloegr.
Ond gallaf gyhoeddi heddiw, fel cam cyntaf, y byddwn yn datganoli鈥檙 broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau am bob fferm wynt ar y tir - waeth beth yw鈥檙 capasiti cynhyrchu - i lawr i鈥檙 lefel leol drwy鈥檙 Bil Ynni a鈥檙 ddeddfwriaeth gysylltiedig鈥� gan gynnwys yma yng Nghymru.
Bydd y newid hwn yn rhoi rhagor o lais i bobl leol ynghylch a ddylid adeiladu ffermydd gwynt yn eu hardaloedd. Ac yn unol 芒 naws Cytundeb Dydd G诺yl Dewi, mater i鈥檙 Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru fydd penderfynu sut dylid ymdrin 芒鈥檙 ceisiadau hyn yn y dyfodol ac a ddylent aros ar y lefel leol.
Casgliad
Credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn rhannu gweledigaeth gyffredin ar gyfer Cymru: Cymru sy鈥檔 hyderus, yn allblyg ac yn fwy o rym nag y byddai ei maint yn ei awgrymu yn yr economi fyd-eang.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dechrau ar raglen ddeddfwriaethol gyffrous i helpu i wireddu鈥檙 dyhead hwnnw, ond er mwyn i Gymru lwyddo o ddifri, rhaid i hon fod yn fenter ar y cyd ar y naill ben a鈥檙 llall i鈥檙 M4.
Nid wyf eisiau gweld Cymru ar ei h么l hi. Ac felly rwyf yn dod yma heddiw i ddweud ei bod yn bryd i ni roi terfyn ar y drafodaeth ddi-baid am ragor o bwerau sydd wedi nodweddu gwleidyddiaeth Cymru am yr 16 mlynedd ddiwethaf.
Rwy鈥檔 gwrthod y syniad bod datganoli yn daith ddiddiwedd o ryw fath. Mae pobl Cymru wedi gwrthod annibyniaeth ac maent yn blino ar y diffyg cysylltiad gwleidyddol maent yn ei weld rhwng y materion sy鈥檔 bwysig iddynt hwy a鈥檙 ddadl am ddatganoli sy鈥檔 ymddangos fel pe bai hi鈥檔 ddiddiwedd y maent yn ein gweld ni鈥檔 ymwneud 芒 hi.
A bydd yr hyn fydd yn atgyfnerthu r么l y Cynulliad hwn ym mywyd cenedlaethol Cymru yn fwy na dim ond newid ei enw i Senedd (y bydd gennych y p诺er i鈥檞 wneud yn y dyfodol); yn fwy nag unrhyw becyn o gymwyseddau datganoledig newydd o Lundain i Gaerdydd; yn fwy na galluogi pobl 16 a 17 oed i bleidleisio yng Nghymru (unwaith eto, y bydd gennych y p诺er i鈥檞 wneud yn y dyfodol), ac yn fwy hyd yn oed na rhoi terfyn ar yr Ysgrifennydd Gwladol yn dod yma bob blwyddyn i drafod araith y Frenhines; bydd yn digwydd pan fydd pobl ym mhob rhan o Gymru - yn enwedig y rhai sy鈥檔 teimlo fwyaf pell o Gaerdydd, yn y gogledd ac yn y gorllewin, yn cydnabod bod y Cynulliad hwn yn gwbl hanfodol i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 materion canolog sydd o bwys i鈥檞 bywydau - nid dim ond fforwm ar gyfer cwyno, ond talwrn penderfynu a gweithredu.
Madam Lywydd, rwy鈥檔 credu y bydd Bil newydd Cymru, a gyhoeddwyd yn araith Ei Mawrhydi fis diwethaf, wedi ei hategu gan gyllid teg a phwerau trethu newydd, yn cynnig y cyfle i Gymru symud ymlaen o鈥檙 ddadl am bwerau ac edrych tuag allan ac at i fyny.
Diolch i chi am y cyfle hwn i siarad heddiw.