Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n dweud ei bod hi’n bryd i’r Cynulliad ddod yn Senedd
Stephen Crabb: "Mae pobl Cymru’n daer eisiau i’w gwleidyddiaeth ddatblygu o ddatganoli a phwerau i gyflawni a newid go iawn.�

Queen's Speech 2015
Heddiw, wnaeth Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, defnyddio ei araith yn y Senedd i nodi sut bydd y setliad datganoli newydd i Gymru yn darparu modd i’r Cynulliad ddod yn Senedd lawn gyda phwerau codi trethi.
Dan y setliad datganoli presennol, mae sedd wedi ei chadw yn y Senedd ar gyfer Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ddydd Mercher, wnaeth Stephen Crabb defnyddio’r sedd honno i annerch y Cynulliad.
Wnaeth dweud:
-
Nad taith ddiddiwedd yw datganoli, a’i bod yn bryd rhoi terfyn ar y ddadl barhaus dros 16 mlynedd am bwerau, a bod Cynulliad Cymru yn dod yn Senedd lawn;
-
Dylai’r Cynulliad ymgymryd â phwerau codi trethi, ac nid bod yn adran wariant yn unig;
-
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi grym i ddinasoedd a chymunedau lleol dyfu ac arloesi, ac mae’n rhaid i wleidyddion yng Nghymru weithio gyda’i gilydd mewn cyfnod newydd o bragmatiaeth i wneud yn siŵr na fydd Cymru ar ei hôl hi
Wnaeth defnyddio’r araith i gyhoeddi y bydd Bil Cymru yn diddymu’r gofyniad hen ffasiwn i Ysgrifennydd Gwladol annerch y Cynulliad a chynnal sedd yn y siambr.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn datganoli y penderfyniadau ar geisiadau am bob fferm gwynt ar y tir i lawr i’r lefel leol drwy’r Mesur Ynni a deddfwriaeth gysylltiedig , gan gynnwys Cymru.
Dywedodd Stephen Crabb:
Credaf yn gryf fod y cyhoedd yng Nghymru yn awchu i ni symud ymlaen fel cenedl. Mae dyhead i’r lle hwn fod yn fforwm drafod o’r iawn ryw, yn fynegiant o’n huchelgais cenedlaethol - nid yn gyfrwng ar gyfer sgwrs ddiddiwedd am ragor o bwerau.
Rydym yn dechrau ar waith ail-ysgrifennu sylfaenol ar y setliad datganoli, fydd yn arwain at y pecyn mwyaf pellgyrhaeddol ac arwyddocaol o bwerau i gael ei ddatganoli i Gymru erioed.
Mae hi’n bryd i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiad i ddod yn ddeddfwrfa lawn ac atebol, drwy wneud cynnydd ar y pwerau codi treth incwm sydd ar gael iddi.
Mae’r amser wedi dod i roi’r dadleuon sglerotig diddiwedd am bwerau y tu ôl i ni a chanolbwyntio ar sut gall Senedd newydd Cymru feithrin twf, hyrwyddo arloesi, cynyddu cynhyrchiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.
Dyna beth mae pobl Cymru ei eisiau, a dyna beth maen nhw’n ei haeddu.
Nodiadau i olygyddion
Nododd Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi sut bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach i Gymru, gyda phwerau newydd ysgubol i’r Cynulliad.
Mae’r pwyntiau allweddol yn cynnwys:
-
Rhoi’r gallu i’r Cynulliad bennu ei faint ei hun ac ail-enwi ei hun yn Senedd
-
Gweinidogion Cymru i benderfynu ar brosiectau ynni hyd at 350 megawat, gan gynnwys y rhan fwyaf o ffermydd gwynt ar y tir a thechnolegau adnewyddadwy
-
Pwerau dros drwyddedu ffracio a datblygu porthladdoedd i’r Cynulliad Cenedlaethol
-
Datganoli’r holl bwerau sy’n ymwneud ag etholiadau’r Cynulliad a llywodraeth leol, gan gynnwys y system etholiadol, nifer yr etholaethau, eu ffiniau, a’r modd y cynhelir yr etholiadau eu hunain.
-
Sylfaen� cyllid Barnett i Gymru, er mwyn diogelu lefelau cymharol o gyllid Cymru