Araith Alun Cairns i'r dderbyniad Dydd G诺yl Dewi
Yr Ysgrifennydd Gwladol yn darparu araith i westeion yn nerbyniad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog yn Rhif 10 Downing Street

Diolch yn fawr i bawb am ymuno gyda ni yma yn Rhif 10 i ddathlu Dydd G诺yl Dewi, a diolch yn fawr i鈥檙 Prif Weinidog am ein croesawu ni am y drydedd flynedd yn ddilynol.
Dyma achlysur arwyddocaol i ni fel Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael dathlu a nodi pa mor berthnasol yw鈥檙 wlad sydd 鈥� yn fy marn i 鈥� y pwysicaf yn y Deyrnas Unedig, sef Cymru! Ac mae鈥檙 g锚m rygbi ar ddydd Sadwrn yn cadarnhau hyn!
Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol fy mod i, dros y tair blynedd ddiwethaf, wedi ceisio tynnu sylw at ffeithiau pwysig am Gymru i bwysleisio鈥檙 cyfraniad mawr rydyn ni鈥檔 ei wneud i鈥檙 Deyrnas Unedig.
Rwy鈥檔 meddwl fy mod i wedi dweud bob tro bod gan Gymru fwy o gestyll am bob milltir sgw芒r nag unrhyw wlad arall yn y byd!
Mae gen i rai ffeithiau newydd eleni:
Dyma lle mae鈥檙 ffordd fwyaf serth yn y byd, sef Ffordd Pen Llech yn Harlech, Eryri.
Mae Mynydd Everest wedi cael ei enwi ar 么l y Cymro, Syr George Everest, am arolygu鈥檙 Bwa Meridian am fwy na 35 mlynedd.
Cafodd yr hafalnod ei ddyfeisio gan Robert Recorde, y Ffisegydd a鈥檙 Mathemategydd o Ddinbych-y-Pysgod 鈥� felly os ydych chi鈥檔 cael trafferth gydag algebra, rydych chi鈥檔 gwybod pwy sydd ar fai.
Cafodd y neges radio gyntaf erioed ei throsglwyddo gan Marconi yn 1897, o Larnog, wrth ymyl fy etholaeth i, i Ynys Echni ym M么r Hafren dros bellter o dair milltir.
A鈥檙 neges oedd: 鈥淵dych chi鈥檔 barod?鈥�
Wel, Er mai gwlad fach ydyn ni, rydyn ni鈥檔 sicr yn barod i bwysleisio, nodi a dathlu ein hanes unigryw, ein hiaith a鈥檔 diwylliant sy鈥檔 ychwanegu at amrywiaeth y Deyrnas Unedig a鈥檙 tu hwnt.
Ac fel llywodraeth, rydyn ni鈥檔 barod i barhau i gefnogi arloesi, diwylliant, y byd academaidd a rhagoriaeth yn y sector cyhoeddus a鈥檙 sector preifat yng Nghymru, er mwyn darparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o Gymry balch.
Y Gymraeg yw un o鈥檙 ieithoedd byw hynaf yn Ewrop, ac mae鈥檔 tarddu o鈥檙 6ed ganrif. Llawer hynach na Saesneg!
Ac mae鈥檔 bleser gweld bod 30% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad o leiaf rywfaint o Gymraeg, a bod chwarter y plant yn cael eu dysgu鈥檔 gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae ein diwylliant rhagorol ar f茂n gael ei arddangos gan y c么r, ac rydyn ni鈥檔 gwerthfawrogi eu presenoldeb heddiw. Rydyn ni hefyd yn diolch i鈥檙 arddangoswyr am dynnu sylw at y bwyd gwych sydd hefyd yn bwysig i ymgyrch allforio鈥檙 Deyrnas Unedig.
Mae鈥檙 Prif Weinidog yn frwd dros bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig, ond o brofiad personol gallaf ddweud bod lle arbennig iawn i Gymru yn agenda鈥檙 Prif Weinidog. O hyrwyddo busnesau Cymreig fel Aston Martin, i fasnach ryngwladol i hybu allforion. Mae Cymru wastad o fewn golwg y Prif Weinidog.
Ym mis Awst fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau fynd 芒 mwy o fusnesau o Gymru nag o unrhyw ran arall o鈥檙 Deyrnas Unedig i Affrica, i hyrwyddo rhagoriaeth Gymreig wrth gefnogi鈥檙 byd sy鈥檔 datblygu.
A thros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chefnogaeth y Prif Weinidog, rwyf wedi cael y fraint o weld ein gwyddonwyr yn CERN yn Genefa. Mae ein clwstwr lled-ddargludyddion - y mwyaf yn y byd - wedi rhyfeddu cynulleidfaoedd rhyngwladol, ac ymhen tair wythnos byddaf yn cyflwyno鈥檙 rhestr gyntaf erioed o brosiectau Cymreig i gynulleidfaoedd rhyngwladol yng nghynhadledd MIPIM yn Cannes.
Mae ein Bargeinion Dinesig a Thwf yn dangos y gwaith sy鈥檔 digwydd ar y cyd rhyngom ni a Llywodraeth Cymru. Ac ar ddechrau鈥檙 wythnos hon, am y tro cyntaf, mae鈥檙 ddwy lywodraeth wedi cynnal digwyddiad gyda鈥檌 gilydd i Lysgenhadon yn y Swyddfa Dramor fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain.
Mae rhai o bobl fwyaf dawnus Cymru yn yr ystafell hon nawr, o fyd busnes i chwaraeon a diwylliant. Hoffwn dalu teyrnged i chi am eich ymdrech ddiflino yn hybu buddiannau Cymru gartref a thramor.
Gadewch i mi orffen gyda geiriau Dewi Sant, a fydd gobeithio yn ysbrydoliaeth i ni i gyd:
鈥淏yddwch lawen a gwnewch y pethau bychain.鈥�
Brif Weinidog 鈥� yn ogystal 芒鈥檙 pethau mawr yn y llywodraeth rydych chi鈥檔 gwneud trwy鈥檙 amser, rwy鈥檔 gwybod y bydd y geiriau hyn yn bwysig i chi oherwydd mae rhoi sylw ar y manylion yn cyfleu i鈥檙 dim sut rydych chi鈥檔 gwneud pethau.
Felly, rwy鈥檔 si诺r y bydd pob un ohonom yn cytuno eich bod yn dilyn llwybr a chyngor Dewi Sant, y Cymro gorau fu.
Diolch yn fawr.