Y Prif Weinidog yn dathlu'r gorau o Gymru mewn derbyniad G诺yl Dewi
Cynhaliodd Prif Weinidog y DU dderbyniad Dydd G诺yl Dewi yn 10 Stryd Downing heddiw i ddathlu鈥檙 diwylliant, y diwydiant a鈥檙 cynnyrch gorau yng Nghymru.

Ymhlith y bobl oedd yno鈥檔 dathlu diwrnod cenedlaethol Cymru roedd Julien Macdonald OBE a Gareth Davies, Cadeirydd ar Undeb Rygbi Cymru.
Roedd yr Aston Martin DBX newydd 鈥� a gynhyrchwyd ar safle newydd y cwmni ym Mro Morgannwg 鈥� wedi ei barcio ar Stryd Downing er mwyn i鈥檙 gwesteion ei edmygu. Y safle yn Ne Cymru fydd 鈥榗artref trydaneiddio鈥� Aston Martin sy鈥檔 golygu y bydd Cymru ar flaen y gad o ran technoleg drydanol a bydd yn creu 700 o swyddi newydd i鈥檙 ardal.
Y tu mewn i Rif 10, roedd y sylw i gyd ar dalentau creadigol Cymru; arddangosodd Julien Macdonald, y dylunydd ffasiwn byd-enwog, ddetholiad o鈥檌 gasgliad ffasiwn a chafwyd perfformiadau cerddorol gan G么r Cymraeg Llundain a鈥檙 telynor Dylan Wyn Rowlands.
Meddai鈥檙 Prif Weinidog Theresa May:
Mae amrywiaeth eang y diwydiant a鈥檙 doniau a gynrychiolir yma heddiw yn brawf o gyfraniad enfawr pobl Cymru yma ac dros y byd.
O gerddoriaeth i weithgynhyrchu, o ffasiwn i fwyd, mae鈥檔 fraint o鈥檙 mwyaf cael dathlu treftadaeth Cymru a鈥檌 dyfodol disglair cyn Dydd G诺yl Dewi.
Mae golygon Cymru鈥檔 fyd-eang ac rwy鈥檔 benderfynol o weld y wlad wych hon yn mynd o nerth i nerth.
Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydw i wrth fy modd yn dathlu Dydd G诺yl Dewi drwy agor drysau Rhif 10 unwaith eto a chroesawu gwesteion sy鈥檔 cynrychioli pob agwedd ar ddiwylliant Cymru i ddathlu ein hiaith a鈥檔 hanes unigryw, yn ogystal 芒鈥檔 cyflawniadau ym myd busnes a chwaraeon.
Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth ynghyd heddiw i wneud yn si诺r bod y digwyddiad llwyddiant. Mae鈥檔 dangos yn glir bod Llywodraeth y DU a鈥檙 Prif Weinidog yn ymrwymedig i Gymru a鈥檜 bod yn cydnabod bod Cymru鈥檔 rhan annatod o鈥檔 hundeb.
Fe wnaeth y gwesteion hefyd fwynhau cynnyrch Cymreig o safon gan Patchwork Traditional Foods, cwmni wedi鈥檌 leoli yn Rhuthun sy鈥檔 defnyddio cynhwysion lleol i gynhyrchu bwydydd unigryw. Roedd Llanllyr Source yno hefyd, cwmni y caiff ei ddiodydd eu gweini mewn gwestai a bwytai ledled y byd, ynghyd 芒 Caws Teifi a Distyllfa D脿 Mh矛le, sydd wedi ennill gwobrau am eu cynnyrch.