Canllawiau

LP9: Beth sy鈥檔 digwydd pan na allaf wneud penderfyniadau drosof fy hun? (fersiwn y we)

Diweddarwyd 8 Chwefror 2022

Byddai llawer ohonom yn hoffi cynllunio ar gyfer amser pan fyddwn angen cymorth i wneud penderfyniadau.

Gall , , neu ddamwain ddifrifol olygu ein bod yn ddibynnol ar bobl eraill i wneud penderfyniadau pwysig yn ein bywydau.

Neu efallai y bydd angen i ni roi鈥檙 hawl i rywun wneud penderfyniadau drosom os byddwn, er enghraifft, yn mynd i fod yn yr ysbyty neu dramor am gyfnod ac na fydd yn hawdd i ni allu gwneud penderfyniadau drosom ein hunain.

1. Gwneud atwrneiaeth arhosol

Un ffordd o gynllunio ar gyfer y dyfodol yw drwy greu yr hyn a elwir yn atwrneiaeth arhosol (LPA. Mae LPA yn ffordd syml i chi ddewis rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau drosoch.

Gall LPA fod yn llawer rhatach na ffyrdd eraill i bobl wneud penderfyniadau ar eich rhan a gallant wneud pethau鈥檔 llawer haws i bobl eraill yn eich bywyd, na鈥檙 dewisiadau eraill.

Pwy allai fod angen atwrneiaeth arhosol?

Unrhyw un, o bosibl. Gall gwaeledd cyffredin fel canser neu glefyd y galon ein gadael yn ddibynnol ar bobl eraill i wneud i benderfyniadau ddigwydd.

Mae dros 800,000 o bobl yn y DU yn dioddef o , ac mae yn rhagweld y bydd hyn yn cynyddu i dros filiwn erbyn 2025.

O ran damweiniau, caiff rhywun eu derbyn i鈥檙 ysbyty gyda bob 90 eiliad yn y DU - mae damweiniau ar y ffyrdd neu ddamweiniau o ganlyniad i chwaraeon yn enghreifftiau o鈥檙 hyn a all fynd o鈥檌 le.

Does dim rhaid i chi fod yn oedrannus i LPA fod yn ddefnyddiol. Bydd rhai rhieni yn creu LPA i sicrhau y gofelir am eu plant yn y ffordd a ddymunant rhag ofn na fydd modd iddynt hwy eu hunain ofalu amdanynt.

2. Sut mae atwrneiaeth arhosol yn gweithio?

Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol y gallwch ei chreu gan ddefnyddio gwasanaeth syml neu ffurflenni papur. Yn eich LPA byddwch yn enwi鈥檙 bobl yr hoffech iddynt wneud penderfyniadau ar eich rhan pan nad ydych chi eisiau gwneud penderfyniadau neu鈥檔 methu 芒 gwneud penderfyniadau drosoch eich hun.

Gallwch wneud LPA ar gyfer penderfyniadau ynghylch eich arian neu ynghylch eich iechyd a鈥檆h lles.

3. Pa bryd bydd LPA yn dod yn weithredol?

Gallwch greu LPA i鈥檞 defnyddio ddim ond os na allwch chi wneud eich penderfyniadau eich hun mwyach 鈥� sef yr hyn a elwir yn golli 鈥榞alluedd meddyliol鈥�.

Neu gallwch wneud LPA i鈥檞 defnyddio ar gyfer rhai penderfyniadau penodol 鈥� rhai ariannol 鈥� tra eich bod yn parhau i fod 芒 galluedd meddyliol.

4. Beth allai ddigwydd os nad wyf yn creu LPA?

Os byddwch yn colli galluedd meddyliol, drwy salwch neu anaf, ac nad ydych wedi creu LPA:

  • ni fydd modd i chi wedyn allu penderfynu pwy sy鈥檔 gwneud penderfyniadau ar eich rhan (dim ond tra bydd gennych alluedd meddyliol y gallwch wneud eich LPA).

  • gallai pobl nad ydych yn eu hadnabod fod yn gwneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan 鈥� er enghraifft ynghylch derbyn triniaeth feddygol i鈥檆h cadw鈥檔 fyw ai peidio, neu ynghylch beth yr ydych yn ei fwyta a鈥檌 wisgo a ble rydych yn byw

  • gallai eich teulu neu ffrindiau orfod mynd i鈥檙 llys i wneud penderfyniadau ar eich rhan 鈥� a all fod yn llawer drutach a chymryd llawer mwy o amser na gwneud LPA

Os oes gennych alluedd meddwl, mae LPA yn ffordd syml a chyfreithiol-gadarn o roi grym i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau drosoch 鈥� dros dro neu am gyfnod mwy.

Mae鈥檔 hawdd creu LPA ar-lein. I gael cyfarwyddiadau gam wrth gam ewch i: www.lastingpowerofattorney.service.gov.uk/home

5. Pwy gaf i ddewis i wneud penderfyniadau ar fy rhan?

Caiff y bobl y byddwch yn eu dewis i wneud penderfyniadau ar eich rhan mewn LPA eu galw鈥檔 鈥榓迟飞谤苍别颈辞诲鈥�. Gallwch gael un atwrnai neu sawl un.

Nid oes galw am unrhyw gymwysterau arbennig i fod yn atwrnai; caiff unrhyw berson sydd dros 18 oed fod yn atwrnai, gydag ychydig o eithriadau. Mae llawer o bobl yn dewis aelodau o鈥檙 teulu neu ffrindiau agos i fod yn atwrneiod iddynt. Bydd rhai pobl yn dewis gweithwyr proffesiynol megis cyfreithiwr neu gyfrifydd.

6. Pa fath o benderfyniadau fydd fy atwrneiod yn eu gwneud?

Mae hynny鈥檔 dibynnu os ydych yn creu LPA yng nghyswllt iechyd a lles neu ar gyfer penderfyniadau ariannol 鈥� neu鈥檙 ddau.

Mae LPA eiddo ac ariannol yn ymdrin 芒 phenderfyniadau fel:

  • gofalu am eich biliau

  • gwneud buddsoddiadau ar eich rhan

  • prynu, gwerthu neu gynnal eich eiddo

  • rhoi rhoddion ar eich rhan

Mae LPA iechyd a lles yn ymdrin 芒 phethau fel:

  • p鈥檜n ai a ydych yn byw gartref neu mewn cartref gofal

  • y gweithgareddau hamdden, deiet a鈥檙 mathau o ddillad sydd orau gennych

  • beth sy鈥檔 digwydd i鈥檆h anifeiliaid anwes os byddwch yn colli galluedd meddwl

  • p鈥檜n ai i dderbyn triniaeth feddygol i鈥檆h cadw鈥檔 fyw y tu hwnt i bwynt penodol

7. Ydy LPA yn golygu fod gan rywun reolaeth lwyr drosof?

Nac ydy. Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl eisiau鈥檙 dewis o gael cymorth i wneud penderfyniadau tra bo ganddynt alluedd meddyliol o hyd. Os felly, rhaid i鈥檆h atwrneiod weithredu ar eich cyfarwyddiadau chi yn unig a gallwch ganslo eich LPA ar unrhyw adeg.

Hyd yn oed pan fyddwch yn colli galluedd meddyliol, rhaid i鈥檆h atwrneiod eich cynnwys gymaint 芒 phosibl wrth wneud penderfyniadau.

Gallwch hefyd gynnwys cyfarwyddiadau yn eich LPA ynghylch y math o benderfyniadau iechyd neu les y gall eich atwrneiod eu gwneud ar eich rhan 鈥� a鈥檙 rhai na ch芒nt eu gwneud.

Dywed y gyfraith fod yn rhaid i atwrneiod ddilyn un rheol goruwch pob peth: gwneud penderfyniadau er eich budd gorau chi, nid eu budd gorau hwy neu rywun arall.

8. Pa fesurau diogelwch eraill sydd?

Bydd llawer o bobl yn dewis mwy nac un person y maent yn ymddiried ynddynt fel eu hatwrnai er mwyn gwarchod yn erbyn y posibilrwydd o gam-ddefnyddio.

Gallwch benderfynu yn eich LPA faint o atwrneiod fydd yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan 鈥� er enghraifft, fod yn rhaid iddynt i gyd gytuno ar benderfyniadau arbennig o bwysig (megis gwerthu eiddo) ond y gallant wneud penderfyniadau eraill yn annibynnol.

9. Onid ar gyfer pobl sydd 芒 chyllid cymhleth y mae LPA?

Na. Gallwch greu LPA i reoli eich arian a鈥檆h eiddo y ffordd sydd orau gennych, waeth pa mor fawr neu gymhleth yw鈥檆h materion.

Ond gallwch hefyd greu LPA ar gyfer penderfyniadau sydd 芒 dim i鈥檞 wneud ag arian 鈥� gan gynnwys penderfyniadau meddygol a ble yr ydych yn byw.

10. A oes angen i mi dalu i鈥檓 hatwrneiod?

Mater i chi yw hyn. Mae鈥檙 rhan fwyaf o atwrneiod sydd heb fod yn rhai proffesiynol yn gweithredu yn ddi-d芒l. Fodd bynnag, gallwch drefnu i dalu i鈥檆h atwrneiod am eu hamser, os dymunwch.

Fel arfer bydd angen i chi dalu i atwrneiod proffesiynol, megis cyfreithwyr neu gyfrifyddion.

11. A oes angen cyfreithiwr arnaf i鈥檓 helpu i greu LPA?

Nac oes. Mae gwneud LPA gan ddefnyddio gwasanaeth y llywodraeth yn syml ac nid yw鈥檔 defnyddio unrhyw iaith gyfreithiol gymhleth.

Mae llawer o bobl yn arbed arian ac yn creu atwrneiaeth arhosol ddilys heb gymorth cyfreithiwr. Fodd bynnag, oherwydd bod LPA yn ddogfen bwysig, mae鈥檔 well gan rai pobl gynnwys arbenigwr cyfreithiol.

12. Pwy gaiff greu LPA?

Caiff unrhyw un dros 18 oed sydd 芒 galluedd meddyliol greu atwrneiaeth arhosol.

13. Faint yw cost LPA?

Mae Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn codi 拢82 i brosesu cais LPA. Caiff pobl ar rai budd-daliadau dalu ffi is neu ddim ffi o gwbl.

Nid yw ffi OPG yn cynnwys cost talu i gyfreithiwr helpu i greu eich LPA, os byddwch yn defnyddio un.

14. Beth allwn i ei wneud yn awr?

Bydd rhai pobl yn cwrdd 芒 theulu a ffrindiau cyn creu LPA, i weld pwy sydd 芒鈥檙 sgiliau cywir, yr amser a鈥檙 parodrwydd i fod yn atwrnai iddynt.

Mae鈥檔 benderfyniad o鈥檙 pwys mwyaf ac mae鈥檔 golygu bod angen i bawb feddwl am eich lles gorau 鈥� nid pwy allai gael eu digio gan eich dewis o atwrnai.

Pan fyddwch yn barod, gallech ddechrau creu eich LPA gan ddefnyddio鈥檙 鈥� un ai ar eich pen eich hun neu gyda chymorth. Does dim rhaid i chi lenwi鈥檙 ffurflen gyfan ar eich union ond gallwch ei harbed wrth i chi fynd ymlaen a gorffen gwahanol rannau pan fyddwch yn barod.

Mae digon o arweiniad ym mhob cam o鈥檙 gwasanaeth ar-lein i wneud y broses yn haws ac atal y camgymeriadau cyffredin y bydd pobl yn eu gwneud ar ffurflenni papur.

Gallwch hefyd lawr lwytho ffurflenni papur LPA neu gallwch ofyn am ffurflenni gan Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Ff么n: 0300 456 0300
Ff么n testun: 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw

Sylwer, oherwydd diffyg staff sy鈥檔 siarad Cymraeg, ni allwn ateb galwadau yn Gymraeg. Gallwch naill ai barhau 芒鈥檆h galwad yn Saesneg, neu ysgrifennu eich ymholiad mewn e-bost a鈥檌 anfon i [email protected]. Yna, byddwn yn ymateb i chi yn Gymraeg.

15. Rhannu鈥檙 neges

A allai aelodau o鈥檙 teulu, cydweithwyr neu ffrindiau fod eisiau cynllunio ar gyfer amser pan fyddant angen cymorth gyda phenderfyniadau bywyd? Ystyriwch rannu copi o鈥檙 daflen hon.

Holl ganllawiau a ffurflenni Cymraeg Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus