Pwy sydd angen atwrneiaeth arhosol?
Gall atwrneiaethau arhosol helpu pawb i gynllunio ar gyfer y dyfodol pe bai damweiniau鈥檔 digwydd, neu salwch fel dementia, str么c a chlefyd y galon neu ddigwyddiadau bywyd eraill.
Dogfennau
Manylion
Cewch wybod yn y daflen hon sut mae gwneud atwrneiaeth arhosol, sef dogfen gyfreithiol sy鈥檔 caniat谩u i rywun rydych yn ymddiried ynddynt wneud penderfyniadau ar eich rhan os nad ydych yn gallu gwneud hynny.
Nid dim ond ffordd o gynllunio ar gyfer y dyfodol os byddwch yn colli galluedd meddyliol trwy ddementia yw atwrneiaethau arhosol. Mae pobl eraill yn creu atwrneiaethau arhosol rhag i ddamwain ddifrifol, neu salwch fel str么c, trawiad ar y galon neu ganser, eu gadael yn ddibynnol ar eraill i helpu gyda phenderfyniadau hollbwysig.
Mae rhieni sydd 芒 phlant hefyd yn gwneud atwrneiaeth arhosol i sicrhau bod eu plant yn derbyn gofal yn y ffordd maent yn dymuno rhag ofn na allant ofalu amdanynt eu hunain.
Mae gwasanaeth ar-lein atwrneiaeth arhosol Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ei gynllunio i鈥檞 gwneud yn hawdd i bawb greu atwrneiaeth arhosol.
Mae鈥檙 daflen yn cynnwys cyngor ar:
- pwy allai fod angen atwrneiaeth arhosol
- sut mae atwrneiaethau arhosol yn gweithio
- pwy allwch chi eu dewis i wneud penderfyniadau ar eich rhan
- pa gostau sydd ynghlwm
- beth allai ddigwydd os nad ydych yn creu atwrneiaeth arhosol
Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae bod yn atwrnai yn ei olygu: Atwrneiaeth arhosol: gweithredu fel atwrnai
Fformatau amgen
I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: [email protected]. Cofiwch roi eich cyfeiriad.