Guidance

Beth i'w wneud os oes gennych ddyfarniad ond nad yw'r diffynnydd wedi talu (EX321)

Updated 24 May 2024

Cael eich arian ar 么l dyfarniad

Os yw llys wedi penderfynu bod yn rhaid i rywun dalu swm o arian i chi (rydych wedi 鈥榗ael dyfarniad yn erbyn y diffynnydd鈥�), ac nad ydych wedi derbyn taliad, gall y canllaw hwn eich helpu i benderfynu beth i鈥檞 wneud nesaf. Ni fydd y llys yn gorfodi鈥檙 dyfarniad oni bai eich bod yn gofyn iddo wneud hynny.

Gallwch geisio cael eich arian (a elwir yn 鈥榞orfodi eich dyfarniad鈥�) drwy ofyn i鈥檙 llys am:

  • gwarant rheolaeth
  • gorchymyn atafaelu enillion
  • gorchymyn dyled trydydd parti
  • gorchymyn codi t芒l

Mae鈥檙 canllaw hwn yn rhoi disgrifiadau byr o bob un o鈥檙 dulliau gorfodi hyn.

Os oes arno rywun 拢5,000 neu fwy ichi, gallwch hefyd wneud cais i wneud y diffynnydd yn fethdalwr, fodd bynnag, gall hyn fod yn ddrud.

Cofiwch, ni all y llys warantu y byddwch yn cael eich arian yn 么l, a bydd yn rhaid i chi dalu ffi am unrhyw gamau a gymerwch. Er y bydd y llys yn ychwanegu鈥檙 ffi at yr arian sydd eisoes yn ddyledus gan y diffynnydd, ni all y llys ddychwelyd yr hyn yr ydych wedi鈥檌 dalu os na fyddwch yn cael eich arian gan y diffynnydd, neu os bydd y llys yn gwrthod eich cais.

Fodd bynnag, efallai y bydd eich sefyllfa ariannol yn golygu nad oes rhaid i chi dalu ffi. Gall y llyfryn 鈥�EX160A 鈥� Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd鈥� roi mwy o wybodaeth i chi am hyn, mae hefyd ar gael gan staff y llys. Bydd yn rhaid i chi wneud cais ar wah芒n am bob ffi y byddai鈥檔 rhaid i chi ei thalu fel arall.

Cyn i chi benderfynu sut i barhau, dylech ystyried:

  • a ydych yn debygol o gael eich arian a鈥檆h ffi llys gan y diffynnydd
  • a oes ar y diffynnydd arian i bobl eraill neu a oes ganddo ddyfarniadau llys eraill
  • a yw鈥檙 diffynnydd yn berchen ar unrhyw nwyddau neu asedau y gellir eu cymryd a鈥檜 gwerthu mewn arwerthiant
  • a yw鈥檙 diffynnydd yn gweithio
  • a oes gan y diffynnydd enillion eraill, fel incwm o fuddsoddiadau
  • a oes gan y diffynnydd gyfrif banc, cyfrif cymdeithas adeiladu neu gyfrif arall
  • a yw鈥檙 diffynnydd yn berchen ar eiddo (fel t欧)
  • a oes arno unrhyw un arall arian i鈥檙 diffynnydd

A oes gan y diffynnydd unrhyw ddyfarniadau eraill

Gallwch chwilio鈥檙 Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon i weld a oes gan y diffynnydd unrhyw ddyfarniadau neu ddirwyon blaenorol neu rai sydd heb eu talu. Mae鈥檙 gofrestr yn cadw manylion am:

  • ddyfarniadau am 6 blynedd
  • dirwyon am 5 mlynedd

Rhaid i chi ofyn i鈥檙 Cofrestrydd wneud chwiliad. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi am bob enw rydych eisiau chwilio amdano.

Gallwch gysylltu 芒鈥檙 Cofrestrydd, neu neu drwy ysgrifennu at:

Trust Online
153 - 157 Cleveland Street
Llundain
W1T 6QW

Ff么n: 020 7380 0133

Dewiswch pa weithdrefn i鈥檞 defnyddio

Mae pob ffordd o orfodi eich dyfarniad wedi鈥檌 hanelu at agwedd wahanol ar asedau鈥檙 diffynnydd. Hynny yw:

  • nwyddau sy鈥檔 eiddo (gwarant o reolaeth)
  • t芒l? neu gyflog (gorchymyn atafaelu enillion)
  • arbedion (gorchymyn dyled trydydd parti)
  • asedau (gorchymyn codi t芒l)

Dewiswch yr un sydd fwyaf tebygol o gael eich arian yn 么l. Er enghraifft, os yw鈥檙 diffynnydd yn ddi-waith neu鈥檔 hunangyflogedig, byddech yn gwastraffu eich amser a鈥檆h arian yn gofyn am orchymyn atafaelu enillion. Ond os oes gan y diffynnydd arian mewn cyfrif banc, gallai gorchymyn dyled trydydd parti fod yn addas.

Gwarant rheolaeth

Mae gwarant rheolaeth yn rhoi鈥檙 awdurdod i asiantau gorfodi鈥檙 llysoedd gymryd nwyddau o gartref neu fusnes y diffynnydd. Bydd asiantau gorfodi yn ceisio naill ai:

  • casglu鈥檙 arian sy鈥檔 ddyledus
  • cymryd nwyddau i鈥檞 gwerthu mewn arwerthiant

Ni allwch ofyn i鈥檙 Llys Sirol godi gwarant os yw鈥檙 swm yr ydych eisiau i鈥檙 asiant gorfodi ei gasglu yn fwy na 拢5,000, oni bai eich bod yn gorfodi cytundeb a wnaed o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Y rheswm am hyn yw mai dim ond yn y Llys Sirol y gellir gorfodi cytundebau a reoleiddir. Ond gallwch ofyn i asiant gorfodi (drwy鈥檙 Uchel Lys) geisio casglu鈥檙 arian sy鈥檔 ddyledus i chi neu i gymryd nwyddau o鈥檙 cartref.

Mae鈥檙 weithdrefn yn yr Uchel Lys yn wahanol i鈥檙 Llys Sirol a gall fod yn gymhleth ac yn ddrutach. Efallai y byddwch eisiau ceisio cyngor gan gyfreithiwr, canolfan y gyfraith neu Cyngor ar Bopeth cyn i chi ddechrau鈥檙 weithdrefn hon. Mae rhai canolfannau gwrandawiadau鈥檙 Llys Sirol hefyd yn gofrestrfeydd dosbarth yr Uchel Lys. Gall staff yno neu yn yr Uchel Lys yn Llundain ddweud mwy wrthych am orfodi gan yr Uchel Lys.

Gallwch ofyn i鈥檙 asiant gorfodi o鈥檙 Llys Teulu geisio cael unrhyw swm o arian yn 么l. Os yw鈥檙 dyfarniad yr ydych yn ceisio鈥檌 orfodi yn dod o鈥檙 Llys Teulu, dylech godi gwarant yn y Llys Teulu.

Ni all asiantau gorfodi bob amser dynnu ymaith a gwerthu nwyddau鈥檙 diffynnydd. Er enghraifft, ni allant gael gwared ar eitemau cartref hanfodol ac offer neu nwyddau masnachwyr o dan gytundebau llogi neu rentu.

Ni fydd yr asiant gorfodi yn cymryd nwyddau鈥檙 diffynnydd os nad ydynt werth digon i dalu鈥檙 warant ar 么l costau cymryd a gwerthu鈥檙 nwyddau. Yn aml, dim ond ffracsiwn o鈥檜 gwerth gwreiddiol y mae nwyddau a werthir mewn arwerthiant yn ei godi. Mae hefyd yn bosibl bod nwyddau鈥檙 diffynnydd eisoes wedi鈥檜 hatafaelu gan asiantau gorfodi sy鈥檔 gweithredu o dan warant arall.

I gael rhagor o wybodaeth am warantau, darllenwch Sut ydw i鈥檔 gofyn am warant rheolaeth - EX322 sydd hefyd ar gael o unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau鈥檙 Llys Teulu.

Gorchymyn atafaelu enillion

Anfonir gorchymyn atafaelu enillion at gyflogwr y diffynnydd. Mae鈥檔 dweud wrth y cyflogwr am gymryd swm o enillion y diffynnydd bob diwrnod cyflog a鈥檌 anfon i swyddfa gasglu. Yna anfonir yr arian atoch chi.

Rhaid i鈥檙 diffynnydd fod wedi鈥檌 gyflogi gan rywun cyn y gallwch ofyn am orchymyn atafaelu enillion. Ni ellir gwneud gorchymyn os yw鈥檙 diffynnydd yn ddi-waith neu鈥檔 hunangyflogedig.

Hefyd, efallai na fydd y llys yn gallu gwneud gorchymyn neu efallai na fydd ond yn gwneud gorchymyn i鈥檞 dalu鈥檔 么l mewn rhandaliadau bychain, os yw treuliau byw鈥檙 diffynnydd yn fwy na鈥檙 swm y mae鈥檔 ei ennill.

I gael rhagor o wybodaeth am orchymyn atafaelu enillion, darllenwch sut ydw i鈥檔 gofyn am orchymyn atafaelu enillion - EX323. Sydd hefyd ar gael o unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau鈥檙 Llys Teulu.

Gorchymyn dyled trydydd parti

Fel arfer, caiff gorchymyn dyled trydydd parti ei wneud i atal y diffynnydd rhag cymryd arian allan o鈥檌 gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Telir yr arian sy鈥檔 ddyledus i chi o鈥檙 cyfrif.

Gellir anfon gorchymyn dyled trydydd parti hefyd at unrhyw un sydd arno arian i鈥檙 diffynnydd. Os oes gan y diffynnydd gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, bydd y banc neu鈥檙 gymdeithas adeiladu yn rhewi鈥檙 cyfrif pan fydd yn derbyn y gorchymyn gan y llys. Os yw鈥檙 cyfrif yn 鈥榦verdrawn鈥� ar y diwrnod y mae鈥檙 banc neu鈥檙 gymdeithas adeiladu yn derbyn eich archeb, ni ellir eich talu o鈥檙 cyfrif.

Bydd y diffynnydd yn gwybod am y gorchymyn a gall roi鈥檙 gorau i dalu arian i mewn i鈥檙 cyfrif.

I gael rhagor o wybodaeth am orchymyn dyled trydydd parti, darllenwch EX325 鈥� Gorchymyn dyled trydydd parti a gorchymyn codi t芒l 鈥� sut ydw i鈥檔 gofyn am orchymyn? sydd hefyd ar gael o unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau鈥檙 Llys Teulu.

Gorchymyn codi t芒l

Mae gorchymyn codi t芒l yn atal y diffynnydd rhag gwerthu ei asedau (fel eiddo, tir neu fuddsoddiadau) heb dalu鈥檙 hyn sy鈥檔 ddyledus ichi ganddynt.

Ni fyddwch yn cael eich arian nes bydd y diffynnydd yn gwerthu ei asedau. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwch yn gallu gofyn i鈥檙 llys am orchymyn i鈥檞 gorfodi i werthu eu hasedau. Mae ffurflen 鈥�EX325 鈥� Gorchymyn dyled trydydd parti a gorchymyn codi t芒l 鈥� sut ydw i鈥檔 gofyn am orchymyn?鈥� yn egluro mwy am y weithdrefn hon.

Gall gorchymyn dyled trydydd parti neu orchymyn codi t芒l fod yn gymhleth. Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr neu eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Gwybodaeth am faterion ariannol y diffynnydd

Os cyfaddefodd y diffynnydd i鈥檙 hawliad ac wedi gwneud cynnig i dalu cyn i鈥檙 dyfarniad gael ei wneud, byddwch eisoes yn gwybod rhywbeth am ei faterion ariannol. Ond os mai dim ond ychydig a wyddoch am sefyllfa ariannol y diffynnydd, efallai y gallwch gael gwybod mwy drwy ofyn am 鈥楨X324 鈥� Sut ydw i鈥檔 gwneud cais am orchymyn? 鈥� Gorchymyn i gael gwybodaeth gan unigolyn sydd arno arian i chi鈥�.

Nid yw gorchymyn i gael gwybodaeth yn ddull o orfodi eich dyfarniad. Mae鈥檔 ffordd o gael gwybod am incwm, asedau a gwariant y diffynnydd. Gall yr wybodaeth hon eich helpu i benderfynu:

  • a all y diffynnydd eich talu
  • pa ddull sydd fwyaf tebygol o gael eich arian i chi

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi am orchymyn i gael gwybodaeth. Er y bydd y llys yn ychwanegu鈥檙 ffi at yr arian sydd eisoes yn ddyledus ichi gan y diffynnydd, ni all y llys ddychwelyd yr hyn yr ydych wedi鈥檌 dalu os na fydd eich dull gorfodi yn llwyddo.

I gael rhagor o wybodaeth am orchymyn i gael gwybodaeth, darllenwch 鈥�EX324 鈥� Sut ydw i鈥檔 gwneud cais am orchymyn? 鈥� Gorchymyn i gael gwybodaeth gan unigolyn sydd arno arian ichi鈥� mae hefyd ar gael o unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau鈥檙 Llys Teulu.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr holl weithdrefnau hyn ar-lein neu gan staff unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau鈥檙 Llys Teulu. Fodd bynnag, ni fydd staff y llys yn gallu dweud wrthych pa ddull gorfodi i鈥檞 ddewis. Eich lle chi yw penderfynu pa un sydd fwyaf tebygol o gael eich arian yn 么l. Efallai y byddwch yn gallu cael cyngor cyfreithiol am ddim gan ganolfan y gyfraith, Cyngor ar Bopeth, neu ganolfan cyngor i ddefnyddwyr.

Cofiwch, ni all y canllaw hwn ond rhoi syniad cyffredinol i chi o鈥檙 hyn sy鈥檔 debygol o ddigwydd. Ni all esbonio popeth am reolau a gweithdrefnau鈥檙 llysoedd.