Trosolwg o Gynllun Turing, 2025 i 2026
Diweddarwyd 14 Mawrth 2025
Mae Cynllun Turing yn cynnig cyfle i ddarparwyr addysg wneud cais am gyllid i gefnogi eu myfyrwyr gyda lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd.
Mae cyllid yn agored i sefydliadau yn y DU a thiriogaethau tramor Prydeinig o bob rhan o鈥檙 sector addysg a hyfforddiant, gan gynnwys:
- ysgolion
- darparwyr addysg bellach (AB).
- darparwyr addysg uwch (AU).
Mae Gwneud Cais am gyllid Cynllun Turing yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y broses a dolen i wneud cais am gyllid.
Rhaid i fyfyrwyr sy鈥檔 cymryd rhan mewn lleoliadau Cynllun Turing fod yn derbyn eu haddysg neu hyfforddiant gan sefydliad cymwys yn y DU neu diriogaethau tramor Prydeinig
Nid oes angen i fyfyrwyr fod yn wladolion y DU i gymryd rhan. Rhaid iddynt fod wedi鈥檜 lleoli yn y DU neu diriogaeth dramor Brydeinig, ac yn astudio yn y sefydliad sy鈥檔 derbyn cyllid Cynllun Turing, neu鈥檔 astudio mewn sefydliad sy鈥檔 rhan o gais consortiwm.
Rheolir y cynllun gan yr Adran Addysg (DfE). Bydd sefydliad annibynnol yn asesu ceisiadau.
Pwrpas a nodau
Mae cyllid drwy Gynllun Turing yn galluogi darparwyr addysg i roi cyfle i鈥檞 myfyrwyr:
- datblygu eu sgiliau
- ennill profiad rhyngwladol
- rhoi hwb i鈥檞 cyflogadwyedd
Gall myfyrwyr hefyd ddatblygu eu sgiliau iaith a dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliannau eraill.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026, mae Cynllun Turing wedi鈥檌 gynllunio i fodloni鈥檙 nodau:
- gwella sgiliau
- hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol
- sicrhau gwerth am arian
Gwella sgiliau
Dylai prosiectau Cynllun Turing gynnig cyfleoedd meithrin gyrfa a darparu canlyniadau addysgol cryf. Dylent roi鈥檙 sgiliau caled a meddal i fyfyrwyr y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, p鈥檜n a ydynt ar lwybr academaidd neu dechnegol.
Hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol
Dylai prosiectau Cynllun Turing gefnogi symudedd cymdeithasol ac ehangu cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr ar draws y DU a thiriogaethau tramor Prydeinig, yn enwedig ar gyfer y rhai na fyddent o bosibl yn cael y cyfle i astudio a gweithio dramor fel arall.
Mae cyllid ychwanegol gan Gynllun Turing ar gael i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig a heb gynrychiolaeth ddigonol, a鈥檙 rhai ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol ac anableddau (SEND). Dylai darparwyr ddangos sut y bydd lleoliadau o fudd i鈥檙 myfyrwyr hynny a mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn eu cais.
Sicrhau gwerth am arian
Dylech sicrhau bod eich prosiectau Cynllun Turing yn defnyddio cyllid yn effeithiol i wella sgiliau myfyrwyr a gwella eu canlyniadau addysgol.
Mae proses ymgeisio Cynllun Turing yn gwobrwyo ymgeiswyr sy鈥檔 gallu dangos sut y byddant yn sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr y DU yn y ffordd y maent yn rheoli eu prosiectau. 聽
Er mwyn helpu i sicrhau gwell gwerth am arian, rydym yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ddarparwyr o ran sut y maent yn defnyddio cyllid teithio, ac yn darparu canllawiau cliriach ar ba gostau sefydliadol y gellir eu hariannu.
Cefnogi blaenoriaethau eraill y llywodraeth
Mae Cynllun Turing yn rhan o鈥檔 huchelgais hirdymor i gefnogi symudedd rhyngwladol myfyrwyr.
Mae鈥檙 cynllun yn:
- annog ymgysylltu rhyngwladol a pherthnasoedd newydd
- gwella partneriaethau presennol
- helpu i feithrin perthnasoedd newydd ar gyfer y DU
Darparwyr cymwys
Mae ysgolion, darparwyr AB ac AU yn gymwys i wneud cais am gyllid Cynllun Turing os ydynt:
- wedi鈥檜 cofrestru neu wedi鈥檜 cydnabod yn y DU neu diriogaethau tramor Prydeinig
- cyfrifol am ddarparu addysg neu hyfforddiant i鈥檙 myfyrwyr sy鈥檔 mynd ar leoliadau
Yn unol 芒 canllawiau ar reoli arian cyhoeddus Trysorlys EF a Safon Swyddogaethol y Llywodraeth ar gyfer grantiau, rhaid i ymgeiswyr fod yn ariannol hyfyw a bod 芒鈥檙 gallu i gyflenwi i gael eu cymeradwyo ar gyfer arian Cynllun Turing.
Ni ellir defnyddio arian Cynllun Turing tuag at weithgareddau Sefydliadau Confucius.
Partneriaethau consortiwm
Gall ysgolion a darparwyr AB bartneru 芒 darparwyr eraill o鈥檜 sector a gwneud cais am gyllid fel consortiwm. Gall nifer cyfyngedig o fathau eraill o sefydliadau ymuno 芒鈥檙 consortiwm os ydynt yn cyflawni鈥檙 r么l gydgysylltu.
Mae rhagor o wybodaeth am r么l consortia ar gyfer ysgolion a darparwyr AB.
Cyllid sydd ar gael
Mae cyllid Cynllun Turing yn gyfraniad tuag at gostau lleoliadau addysgol rhyngwladol. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe鈥檌 darperir ar sail fesul myfyriwr.
Mae cyllid ar gael ar gyfer:
-
costau teithio ar gyfer un daith ddwyffordd rhwng y DU neu diriogaeth dramor Brydeinig y mae鈥檙 darparwr ynddi a鈥檙 gyrchfan y mae鈥檙 lleoliad yn digwydd ynddi, gan gynnwys trosglwyddiadau
- cyfraniadau at gostau byw
- cymorth sefydliadol
- pasbortau, ffioedd ymgeisio am fisa, brechlynnau, tystysgrifau meddygol ac yswiriant teithio ar gyfer myfyrwyr difreintiedig (a elwir yn gyllid parodrwydd i deithio)
- dysgu iaith i fyfyrwyr ar leoliadau AB
- cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag AAAA 鈥� gan gynnwys myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru ac anghenion cymorth ychwanegol (ASN) yn yr Alban
- staff sy鈥檔 mynd gyda myfyrwyr ar leoliadau ysgol ac AB
Mae symiau cyllid gwahanol ar gael yn dibynnu ar:
- a yw myfyriwr yn yr ysgol, mewn AB neu AU
- a yw myfyriwr o gefndir difreintiedig, neu ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol neu anabledd
- lle mae鈥檙 myfyriwr yn bwriadu teithio
- pa mor hir y disgwylir i鈥檙 lleoliad barhau
Darperir cyllid teithio ar gyfradd benodol ar gyfer pob gwlad neu diriogaeth gyrchfan.
Lle mae costau teithio gwirioneddol yn is na鈥檙 gyfradd a awgrymir, gall darparwyr ddefnyddio鈥檙 gwahaniaeth i dalu am gostau teithio mewn lleoliadau eraill.
Mae鈥檙 ffordd rydym yn dyrannu cyllid i ysgolion a darparwyr AB llwyddiannus wedi newid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ar gyfer ysgolion, darparwyr addysg bellach a darparwyr addysg uwch.
Sut y gellir defnyddio cyllid Cynllun Turing
Gan mai bwriad cyllid Cynllun Turing yw bod yn gyfraniad tuag at gost lleoliadau, gallwch hefyd roi cyllid ychwanegol i fyfyrwyr o ffynonellau eraill ar gyfer costau nad ydynt yn cael eu talu gan y cynllun. Ni fydd angen i chi adrodd am y cyllid hwn i鈥檙 DfE.
Ni ddylid defnyddio cyllid Cynllun Turing ar gyfer gweithgareddau sydd eisoes wedi鈥檜 hariannu gan ffynhonnell arall, megis gan awdurdod lleol, cyllid myfyrwyr neu lywodraeth ddatganoledig.
Dim ond o fewn y flwyddyn academaidd honno y gellir defnyddio cyllid a ddyfarnwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 a rhaid i chi ddychwelyd unrhyw arian nas defnyddiwyd i鈥檙 Adran Addysg. Ni ellir trosglwyddo arian i鈥檙 flwyddyn academaidd nesaf.
Rhaid i chi:
- adrodd yn rheolaidd faint o鈥檙 cyllid hwn rydych yn ei wario
- cadw tystiolaeth o wariant
- bod yn barod i ddarparu dadansoddiad manwl o hyn ar gais
Os bydd eich cais yn llwyddiannus bydd angen i chi gyflwyno cynllun manwl cyn y gallwch dderbyn cyllid. Rhaid i鈥檙 cynllun gynnwys:
- sut rydych chi鈥檔 bwriadu ei ddefnyddio
- y dyddiad erbyn pryd y mae angen i chi fod wedi darparu鈥檙 lleoliadau鈥檔 llwyddiannus
Byddwch yn cael eich monitro yn erbyn y cynllun hwn.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael arweiniad manwl ar sut y gallant ddefnyddio eu cyllid, a pha dystiolaeth y bydd angen iddynt ei chasglu.
Mae mwy o wybodaeth ar sut y gall ysgolion, darparwyr AB a darparwyr AU ddefnyddio鈥檙 cyllid.
Cwynion
Gall darparwyr addysg, cydlynwyr consortiwm, myfyrwyr ac aelodau o鈥檙 cyhoedd sydd wedi rhyngweithio 芒 ni wneud cwynion.
Gallwch gyflwyno cwynion ffurfiol i鈥檙 DfE ar unrhyw adeg mewn perthynas ag unrhyw gam o鈥檙 cais neu gylch oes y prosiect drwy .