Ymddiriedolaethau ac Ystadau: Hysbysiad yr ymddiriedolwr o dreth a ddidynnwyd (R185) (LSDB)
Defnyddiwch ffurflen R185 (Pensiwn LSDB) i ddarparu gwybodaeth gan fuddiolwr am daliad wedi'i gyllido gan gyfandaliad budd-dal marwolaeth trethadwy.
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn ymddiriedolwr, sydd ddim yn ymddiriedolwr noeth, defnyddiwch ffurflen R185 (Pensiwn LSDB) wrth wneud taliad wedi鈥檌 gyllido gan un o鈥檙 cyfandaliadau budd-dal marwolaeth canlynol, a oedd yn destun t芒l cyfandaliadau budd-dal marwolaeth arbennig o dan adran 206 o Ddeddf Cyllid 2004:
- cyfandaliad budd-dal marwolaeth o fuddiannau diffiniedig
- budd-dal marwolaeth o arian nas defnyddiwyd ar ffurf cyfandaliad
- budd-dal a gyrchir o gronfa pensiwn ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
- budd-dal marwolaeth o arian a gyrchir yn hyblyg o gronfa pensiwn
- budd-dal diogelu pensiwn ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
- budd-dal diogelu blwydd-dal ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
Dylech ddarparu鈥檙 ffurflen hon cyn pen 30 diwrnod o鈥檙 adeg pan wnaed y taliad i鈥檙 buddiolwr, neu pan gafwyd yr wybodaeth gan weinyddwr y cynllun, pa bynnag un sydd hwyraf.
Dylai鈥檙 sawl sy鈥檔 cael y taliadau gadw鈥檙 ffurflen hon. Bydd angen yr wybodaeth sydd ar y ffurflen hon os gwneir cais am ad-daliad o dreth.