Ffurflen

Cynlluniau pensiwn: Hysbysiad o dreth a ddidynnwyd (R185) (Gweinyddwr cynllun pensiwn)

Defnyddiwch ffurflen R185 (Gweinyddwr cynllun pensiwn) i ddarparu gwybodaeth gan ymddiriedolaeth am daliad wedi'i gyllido gan gyfandaliad budd-dal marwolaeth trethadwy.

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn weinyddwr cynllun pensiwn, defnyddiwch ffurflen R185 (Gweinyddwr cynllun pensiwn) wrth wneud taliad i ymddiriedolwr, sydd ddim yn ymddiriedolwr noeth, sydd wedi鈥檌 gyllido gan un o鈥檙 cyfandaliadau budd-dal marwolaeth canlynol, a oedd yn destun t芒l cyfandaliadau budd-dal marwolaeth arbennig o dan adran 206 o Ddeddf Cyllid 2004:

  • cyfandaliad budd-dal marwolaeth o fuddiannau diffiniedig
  • budd-dal marwolaeth o arian nas defnyddiwyd ar ffurf cyfandaliad
  • budd-dal a gyrchir o gronfa pensiwn ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
  • budd-dal marwolaeth o arian a gyrchir yn hyblyg o gronfa pensiwn
  • budd-dal diogelu pensiwn ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
  • budd-dal diogelu blwydd-dal ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth

Dylech ddarparu鈥檙 ffurflen hon cyn pen 30 diwrnod o wneud y taliad.

Dylai鈥檙 ymddiriedolaeth sy鈥檔 cael y taliadau gadw鈥檙 ffurflen hon. Bydd angen hon ar yr ymddiriedolaeth er mwyn iddi allu darparu鈥檙 wybodaeth hon i鈥檙 buddiolwr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Ebrill 2017 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon