Cyfarwyddyd: sut i lenwi ffurflen TR1
Diweddarwyd 23 Ionawr 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae鈥檙 nodiadau hyn yn rhoi cyfarwyddyd cyffredinol ar sut i lenwi ffurflen TR1 ar gyfer trosglwyddo eiddo.
Nid oes yn rhaid ichi ddefnyddio cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall i lenwi ac anfon y ffurflen atom, ond mae鈥檙 cymorth y gallwn ei roi ichi yn gyfyngedig. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ichi. Os oes morgais yn gysylltiedig, gall y rhoddwr benthyg fynnu eich bod yn defnyddio cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig.
Yn y cyfarwyddyd hwn, y 鈥榯rosglwyddwr鈥� yw鈥檙 unigolyn sy鈥檔 trosglwyddo鈥檙 eiddo, os yw鈥檔 ei werthu neu鈥檔 ei roi. Y 鈥榯rosglwyddai鈥� yw鈥檙 unigolyn sy鈥檔 cael yr eiddo.
1. Pryd i ddefnyddio ffurflen TR1
Gallwch ddefnyddio ffurflen TR1 i drosglwyddo:
- yr holl dir mewn un neu ragor o deitlau cofrestredig
- eiddo sydd i鈥檞 gofrestru am y tro cyntaf
I drosglwyddo rhan o deitl cofrestredig, defnyddiwch ffurflen TP1 yn lle.
2. Cyn llenwi ffurflen TR1 dylech wneud y canlynol
2.1 Gweld a yw鈥檙 tir yn gofrestredig ai peidio
Bydd yn rhaid ichi wybod a yw鈥檙 eiddo鈥檔 gofrestredig ai peidio oherwydd mae hyn yn effeithio ar y wybodaeth y bydd yn rhaid ichi ei hanfon atom. I gael gwybod a yw鈥檙 eiddo鈥檔 gofrestredig ai peidio, gallwch wneud un o鈥檙 canlynol:
- defnyddio ein gwasanaeth Find a property
- gwneud chwiliad o鈥檙 map mynegai
2.2 Gweld beth sydd yn y gofrestr
Os yw鈥檙 eiddo鈥檔 gofrestredig, mae鈥檔 bosibl y bydd cofnodion yn y gofrestr i鈥檞 hystyried cyn ichi allu cwblhau trosglwyddiad yr eiddo.
I weld beth sydd yn y gofrestr, gallwch wneud un o鈥檙 canlynol:
Gall cofnodion gynnwys:
- cyfyngiad: cofnod sy鈥檔 gofyn am weithredu cyn y gellir cofrestru鈥檙 trosglwyddiad, ee cael caniat芒d i drosglwyddo gan yr unigolyn a enwir mewn cyfyngiad, neu dystysgrif yn cydymffurfio 芒鈥檙 amodau mewn gweithred benodedig
- rhybudd unochrog/rhybudd a gytunwyd/ rhybuddiad: mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid ichi wneud cais i鈥檞 dileu/tynnu ymaith
- cymal yn y brydles (os yw鈥檙 eiddo鈥檔 brydlesol) sy鈥檔 gofyn i鈥檙 landlord roi ei ganiat芒d, neu o leiaf gael gwybod
- caniat芒d y rhoddwr benthyg os yw鈥檙 eiddo wedi ei forgeisio, neu dystiolaeth o ryddhau鈥檙 morgais os ydych yn clirio鈥檙 benthyciad
Dylech ystyried pob cofnod yn y gofrestr a chael y dystiolaeth y mae ei hangen arnoch cyn ichi anfon eich cais atom.
3. Sut i lenwi鈥檙 paneli ar ffurflen TR1
Bydd llenwi llawer o鈥檙 paneli ar y ffurflen yn haws os oes gennych gopi o鈥檙 gofrestr neu gopi swyddogol o鈥檙 gofrestr (gweler Gweld beth sydd yn y gofrestr.
3.1 Panel 1: rhifau teitl
Nodwch rif(au) teitl yr eiddo rydych am ei drosglwyddo (mae鈥檙 rhif hwn ar frig tudalen gyntaf copi swyddogol o鈥檙 gofrestr). Gallwch ddefnyddio鈥檙 un ffurflen ar gyfer mwy nag un rhif teitl. Os nad yw鈥檙 eiddo鈥檔 gofrestredig, gadewch y panel hwn yn wag.
Bydd defnyddio鈥檙 ffurflen drosglwyddo hon yn arwain at drosglwyddo鈥檙 holl eiddo yn y teitl cofrestredig. Os mai eich bwriad yw trosglwyddo rhan yn unig o鈥檙 eiddo yn y teitl, defnyddiwch ffurflen TP1 yn lle.
3.2 Panel 2: eiddo
Rhowch ddisgrifiad byr (gan gynnwys y cod post) o鈥檙 eiddo rydych yn bwriadu ei drosglwyddo. Os yw鈥檙 eiddo鈥檔 gofrestredig, fe welwch hyn ar ddechrau鈥檙 Gofrestr Eiddo fel y鈥檌 dangosir ar y copi swyddogol o鈥檙 gofrestr ac fel rheol bydd yn gyfeiriad post yr eiddo.
3.3 Panel 3: dyddiad
Nodwch y dyddiad cwblhau yn y panel hwn (gweler panel 12: cyflawni). Peidiwch 芒 gwneud hyn nes bydd y trosglwyddiad wedi ei gyflawni.
3.4 Panel 4: y trosglwyddwr(wyr)
Ysgrifennwch enwau llawn (gan gynnwys pob enw canol) yr unigolyn neu鈥檙 unigolion sy鈥檔 mynd i drosglwyddo鈥檙 eiddo. Enw(au) y perchnogion cofrestredig yn y gofrestr fydd y rhain, neu rywun sy鈥檔 gallu profi ei fod yn gweithredu ar eu rhan (e.e. ysgutor).
Os nad yw鈥檙 wybodaeth a roddir yn y bwlch hwn yn cyd-fynd 芒鈥檙 manylion perchnogaeth sy鈥檔 ymddangos yn y gofrestr, bydd yn rhaid ichi roi tystiolaeth i egluro hynny. Gall hyn fod yn weithred newid enw neu dystysgrif priodi ar gyfer rhywun sydd wedi newid ei enw. Os yw cydberchennog wedi marw, bydd yn rhaid ichi anfon y dystysgrif marwolaeth neu grant profiant atom.
Os yw鈥檙 trosglwyddwr yn gwmni, bydd yn rhaid ichi gwblhau鈥檙 meysydd ychwanegol yn y panel.
3.5 Panel 5: y trosglwyddai(eion)
Ysgrifennwch enwau llawn yr unigolion y mae鈥檙 eiddo i gael ei drosglwyddo iddynt (uchafswm o bedwar). Peidiwch 芒 chynnwys y teitlau 鈥楳r鈥� neu 鈥楳rs鈥�, ond os oes ganddynt deitl arall, dylech ei gynnwys.
Os yw unig berchennog (fel Mr A) am drosglwyddo鈥檙 eiddo i ddau (neu ragor) o bobl gan gynnwys ei hunan (e.e. fel Mr a Mrs A), bydd yn rhaid cynnwys ei enw hefyd. Ni all drosglwyddo cyfran yn unig o鈥檙 eiddo.
Os yw鈥檙 trosglwyddai yn gwmni, bydd angen ichi gwblhau鈥檙 meysydd ychwanegol yn y panel.
3.6 Panel 6: cyfeiriad
Mae angen i bob trosglwyddai roi cyfeiriad ar gyfer gohebu inni, a rhaid iddo fod yn gyfeiriad post yn y DU neu dramor. Cofiwch gynnwys unrhyw god post neu god tramor cyfatebol. Gallwch roi hyd at ddau gyfeiriad arall ar gyfer pob trosglwyddai hefyd, a all fod yn gyfeiriad post, ebost, rhif blwch neu gyfeiriad cyfnewid dogfennau鈥檙 DU.
Mae鈥檔 bwysig cadw eich cyfeiriad yn gyfoes oherwydd gall fod angen inni anfon rhybuddion pwysig atoch a allai effeithio ar eich hawliau.
3.7 Panel 7: trosglwyddiad
Mae鈥檙 datganiad hwn yn briodol ym mhob achos; peidiwch ag ychwanegu ato, na newid y panel hwn mewn unrhyw ffordd arall.
3.8 Panel 8: cydnabyddiaeth
Nodwch y swm a dalwyd am yr eiddo sy鈥檔 cael ei drosglwyddo (yn y blwch cyntaf). Os yw鈥檙 trosglwyddiad trwy rodd, dewiswch yr ail flwch. Os yw鈥檙 trosglwyddiad am unrhyw gydnabyddiaeth arall, dewiswch y trydydd blwch a nodwch y manylion.
3.9 Panel 9: gwarantau teitl
Wrth ddarparu鈥檙 gwarantau hyn, mae鈥檙 trosglwyddwr(wyr) yn rhoi addewidion rhwymol penodol am y teitl i鈥檙 eiddo. Ceir dau fath, er y gellir addasu鈥檙 naill neu鈥檙 llall. Mae鈥檙 gwarantau hyn yn gosod rhwymedigaethau, a fydd yn parhau i rwymo鈥檙 perchennog hyd yn oed ar 么l cyflawni鈥檙 trosglwyddiad. Mae鈥檙 maes hwn yn gymhleth ac os oes gennych unrhyw amheuon rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor gan gyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall. Ni allwn roi cyngor cyfreithiol ichi.
Y mathau o warantau yw:
- Gwarant teitl llawn: mae鈥檙 trosglwyddwr(wyr) yn gwarantu, hyd eithaf ei wybodaeth, nad oes arwystlon ariannol/llyffethair (ee morgeisi) na buddion trydydd parti eraill (ee hawliau tramwy/prydlesi) yn effeithio ar yr eiddo heblaw鈥檙 rhai a ddatgelwyd eisoes i鈥檙 trosglwyddai(eion)
- Gwarant teitl cyfyngedig: mae gwarant teitl cyfyngedig yn set fwy cyfyngedig o addewidion gan y trosglwyddwr(wyr). Mae鈥檔 gwarantu nad yw鈥檙 trosglwyddwr(wyr) wedi creu unrhyw arwystl, na galluogi unrhyw arwystl, llyffethair na budd trydydd parti sy鈥檔 bodoli o hyd ar ddyddiad y cydsyniad i gael ei greu.
Cwblhewch y panel hwn trwy ddewis y warant teitl, os oes un, i鈥檞 rhoi gan y trosglwyddwr ac ychwanegwch unrhyw addasiadau angenrheidiol at y warant honno.
3.10 Panel 10: datganiad o ymddiried
Dylid llenwi鈥檙 panel hwn os oes mwy nag un trosglwyddai.
Mae cydberchnogaeth yn faes anodd o鈥檙 gyfraith. Gall arwain at anghydfodau pan fo cydberchennog yn marw neu pan fo鈥檙 berthynas rhwng cydberchnogion yn torri. Mae鈥檔 bosibl y bydd cofnodi bwriadau鈥檙 cydberchnogion ym mhanel 10 y trosglwyddiad neu ar ffurflen JO ar wah芒n (a drafodir isod) yn cynorthwyo i osgoi anghydfodau o鈥檙 fath yn hwyrach. Fodd bynnag, dim ond man cychwyn yw hyn, oherwydd gall bwriadau鈥檙 cydberchnogion newid gydag amser.
Os oes mwy nag un trosglwyddai, fel cydberchnogion byddant yn dal yr eiddo ar ymddiried yn awtomatig i鈥檞 hunain a/neu rywun arall sydd 芒 budd llesiannol yn yr eiddo.
Gall cydberchnogion ddal eu budd llesiannol yn yr eiddo fel cyd-denantiaid neu denantiaid cydradd. Nid yw cyd-denantiaid llesiannol yn berchen ar gyfrannau penodedig yn yr eiddo. Os yw un ohonynt yn marw, mae ei fudd yn trosglwyddo鈥檔 awtomatig i鈥檙 cyd-denant(iaid) llesiannol sy鈥檔 goroesi hyd yn oed os yw wedi gwneud ewyllys yn ei adael i rywun arall.
Mae tenantiaid cydradd llesiannol yn berchen ar gyfrannau penodedig yn yr eiddo, a all fod yn gyfartal neu鈥檔 anghyfartal a gallant adael eu cyfran i rywun arall yn eu hewyllys.
Oni bai ei fod yn glir, ar adeg caffael, bod y cydberchnogion yn bwriadu dal y budd llesiannol ar ymddiried i鈥檞 hunain yn unig fel cyd-denantiaid, mae gennym ddyletswydd i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf A yn y gofrestr. Effaith y cyfyngiad hwn yw na fyddwn yn cofrestru gwerthiant na morgais o鈥檙 eiddo oni bai bod o leiaf dau berchennog cofrestredig, fel ymddiriedolwyr, i dderbyn arian y gwerthiant neu forgais ar y cyd. Mae hyn yn golygu nad oes hawl gan oroeswr olaf y tenantiaid cydradd werthu鈥檙 eiddo heb brofi bod yr ymddiried wedi dod i ben neu benodi cyd-ymddiriedolwr newydd.
Os yw鈥檙 cyd-drosglwyddeion yn bwriadu dal yr eiddo ar ymddiried i鈥檞 hunain yn unig fel cyd-denantiaid, dylent roi 鈥榅鈥� yn y blwch cyntaf. Fel arall, os ydynt yn bwriadu dal y budd llesiannol fel tenantiaid cydradd mewn cyfrannau cyfartal, dylent roi 鈥榅鈥� yn yr ail flwch. Dylent roi 鈥榅鈥� yn y trydydd blwch os ydynt yn bwriadu ei ddal mewn cyfrannau anghyfartal, neu ar eu cyfer eu hunain ac eraill (boed mewn cyfrannau cyfartal neu anghyfartal), neu o dan delerau gweithred ymddiried neu ewyllys sy鈥檔 bodoli ar wah芒n, ac ymhob achos dylent ychwanegu鈥檙 manylion perthnasol hefyd.
Fel dewis arall i lenwi鈥檙 panel hwn gallwch ddefnyddio鈥檙 ffurflen gwybodaeth ymddiried JO. Mae ffurflen JO yn cynnwys yr un dewisiadau 芒 phanel 10 ond mae wedi ei llunio fel ffurflen ar wah芒n i gynorthwyo i ddarparu鈥檙 wybodaeth berthnasol a sicrhau bod pob cyd-drosglwyddai鈥檔 arwyddo datganiad o ymddiried (gweler panel 12 isod). Os yw datganiad yr ymddiried ar yr hyn y bydd y trosglwyddeion yn dal yr eiddo eisoes wedi ei gynnwys mewn gweithred neu ewyllys ar wah芒n, gall trawsgludwr gynnwys manylion amdano yn ffurflen JO a鈥檌 harwyddo yn lle鈥檙 trosglwyddeion.
Os nad yw panel 10 y trosglwyddiad neu ffurflen JO yn cael eu cwblhau a鈥檜 cyflwyno gyda鈥檙 cais i gofrestru trosglwyddiad i gyd-drosglwyddeion, byddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn ddiofyn. Os oes gennych unrhyw amheuon am yr hyn sydd ei angen, dylech geisio cyngor proffesiynol cyn parhau.
3.11 Panel 11: darpariaethau ychwanegol
Weithiau ceir cyfamodau neu gytundebau rhwng y trosglwyddwr(wyr) a鈥檙 trosglwyddai(eion). Dyma lle dylech nodi鈥檙 manylion. Efallai y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol gan fod cyfamodau neu gytundebau o鈥檙 fath yn rhwymol ar yr unigolyn(ion) sy鈥檔 eu rhoi, hyd yn oed ar 么l cwblhau鈥檙 trosglwyddiad.
3.12 Panel 12: cyflawni
Rhaid i鈥檙 holl drosglwyddwyr gyflawni (llofnodi鈥檔 gyfreithiol) y weithred, gan ddefnyddio鈥檙 geiriau canlynol:
Llofnodwyd fel gweithred gan (enw llawn y trosglwyddwr) ____ (llofnod)
Ym mhresenoldeb : _______ (llofnod tyst)
(enw a chyfeiriad y tyst mewn prif lythrennau)
Os cwblhawyd paneli 10 neu 11, rhaid i鈥檙 trosglwyddeion lofnodi hefyd.
Dylai鈥檙 tyst fod yn annibynnol, ac yn ddelfrydol, yn rhywun sy鈥檔 eich adnabod yn dda ac sy鈥檔 gallu cadarnhau ichi lofnodi鈥檙 weithred, os oes angen. Gall un unigolyn dystio i fwy nag un llofnod, ond rhaid iddo lofnodi a chwblhau鈥檙 manylion islaw pob llofnod a dystiwyd.
Ni all un parti mewn trosglwyddiad dystio i lofnod y parti arall mewn trosglwyddiad. Gall priod, partner sifil neu gydbreswylydd y trosglwyddwr neu鈥檙 trosglwyddai fod yn dyst (os nad yw鈥檔 barti mewn gweithred), ond mae鈥檔 well osgoi hyn.
Ceir gofynion gwahanol os caiff y trosglwyddiad ei lofnodi gan atwrnai neu gwmni, neu o dan gyfarwyddyd y trosglwyddwr. Os hoffech gael y geiriad o dan yr amgylchiadau hynny, gweler Cyfarwyddyd ymarfer 8 neu cysylltwch 芒 ni.
4. Dogfennau i鈥檞 hanfon gyda ffurflen TR1
Rhaid i鈥檙 holl ddogfennau gofynnol gael eu hanfon gyda鈥檆h ffurflen TR1 wedi ei llenwi.
4.1 Tystysgrif Treth Dir y Dreth Stamp
Os ydych yn talu Treth Dir y Doll Stamp, bydd yn rhaid ichi anfon tystysgrif atom. Darllenwch ragor o wybodaeth gan Gyllid a Thollau EF.
4.2 Ffurflen AP1 neu ffurflen FR1
Os yw鈥檙 eiddo鈥檔 gofrestredig, rhaid ichi lenwi ffurflen AP1.
Os nad yw鈥檙 eiddo鈥檔 gofrestredig eto, rhaid ichi lenwi ffurflen FR1.
4.3 Tystysgrif hunaniaeth
Os ydych yn anfon ffurflen AP1 neu ffurflen FR1 ac nid ydych yn drawsgludwr, rhaid ichi ddarparu tystiolaeth hunaniaeth hefyd. Am ragor o wybodaeth, gweler:
- Llenwi ffurflenni ID1 ac ID2 (Trawsgludwr yn cadarnhau)
- Llenwi ffurflenni ID3 ac ID4 (Rhywun nad yw鈥檔 drawsgludwr yn cadarnhau)
5. Cysylltu 芒 ni
Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch ynghylch llenwi鈥檙 ffurflen, cysylltwch 芒 ni. Sylwch nad ydym yn rhoi cyngor cyfreithiol.