Gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR) i DVLA
I gael gwybod pa wybodaeth y mae DVLA yn ei chadw amdanoch chi a鈥檆h cerbyd, gallwch wneud cais am fynediad at ddata gan y testun (SAR). Y ffordd gyflymaf yw llenwi鈥檙 ffurflen a鈥檌 chyflwyno drwy e-bost.
Dogfennau
Manylion
Mae gennych hawl i ofyn am ddata personol y mae DVLA yn ei gadw amdanoch chi. Gelwir hon yn hawl am fynediad at ddata gan y testun ac mae鈥檔 cael ei rheoli gan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR).
Bydd angen ichi roi gwybodaeth inni i helpu profi eich hunaniaeth, fel y gallwn ddod o hyd i鈥檙 wybodaeth rydych yn gofyn amdani a phrosesu eich cais.
Gallwch ofyn am wybodaeth y mae DVLA yn ei chadw am:
- eich cofnod gyrrwr
- eich cerbyd cyfredol
- cerbyd a oedd wedi鈥檌 gofrestru yn eich enw chi
Nid oes t芒l am y wybodaeth hon.
Gwybodaeth am eich cofnod gyrrwr
Bydd angen ichi gynnwys:
- eich enw llawn
- dyddiad geni
- eich cyfeiriad presennol a鈥檙 cyfeiriad a ddangosir ar eich trwydded yrru Prydain Fawr (os yw鈥檔 wahanol)
- cymaint o fanylion 芒 phosibl, os hoffech inni adalw gwybodaeth feddygol a gedwir am eich ffitrwydd i yrru
Gallwch weld eich cofnod gyrru am restr o鈥檆h gwaharddiadau gyrru a phwyntiau cosb.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon .
Gwybodaeth am eich cerbyd
Bydd angen ichi gynnwys:
- eich enw llawn
- eich cyfeiriad presennol a鈥檙 cyfeiriad ar eich tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)
- rhif cofrestru鈥檙 cerbyd rydych yn gofyn amdano
- pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch, er enghraifft pryd y cofrestrwyd y cerbyd am y tro cyntaf neu鈥檙 dyddiad y鈥檌 prynoch
Sut i wneud cais
Gallwch wneud un o鈥檙 canlynol:
- cyflwyno鈥檆h cais drwy ddefnyddio鈥檙 ffurflen a鈥檌 hatodi i e-bost i鈥檞 hanfon i [email protected]
- argraffu鈥檙 ffurflen, ei llenwi, a鈥檌 hanfon i Ymholiadau Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR), DVLA, Abertawe, SA99 1BX
- e-bostio neu bostio llythyr, gan gynnwys y wybodaeth y gofynnwn amdani ar y ffurflen
- gwneud cais drwy we-sgwrs (Saesneg yn unig) neu dros y ff么n
Peidiwch 芒 defnyddio鈥檙 manylion hyn ar gyfer ymholiadau cyffredinol - cysylltwch 芒 DVLA yn lle.