Egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Diweddarwyd 30 Gorffennaf 2024
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth wedi鈥檌 deilwra cyn gynted 芒 phosibl i gwsmeriaid y gallai fod angen help ychwanegol arnynt. Mae hyn hefyd yn unol 芒鈥檔 cyfrifoldebau cyfreithiol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, er mwyn darparu addasiadau rhesymol i wneud yn si诺r nad oes unrhyw un o dan anfantais.
Help i gwsmeriaid sy鈥檔 cysylltu 芒 ni dros y ff么n neu drwy鈥檙 post
Byddwn yn monitro galwadau a gohebiaeth 芒 CThEF i adnabod cwsmeriaid y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Gallai hyn gynnwys anawsterau a achosir gan eu hyder, mynediad, cyflwr emosiynol, iechyd meddwl, gallu, anawsterau o ran deall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud, ac anabledd. Byddwn hefyd yn gofyn i gwsmeriaid roi gwybod i ni a oes angen cymorth ychwanegol arnynt.
Bydd ein hymgynghorwyr wedyn yn trosglwyddo galwadau i鈥檔 T卯m Cymorth Ychwanegol sydd 芒 sgiliau, gwybodaeth ac empathi priodol i roi cymorth ac addasiadau rhesymol i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. Byddant hefyd yn darparu un man cyswllt i ddatrys ymholiadau anodd.
Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am sefydliadau鈥檙 Sector Gwirfoddol a Chymunedol a all ddarparu cymorth a chyngor arbenigol ar gyfer amrywiaeth o faterion nad ydynt yn ymwneud 芒 threth ac amgylchiadau personol, megis:
- anawsterau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu
- incwm isel, cam-drin ariannol neu gam-drin domestig
- anawsterau sy鈥檔 gysylltiedig ag oedran
- cymorth i fudwyr a gofalwyr
Bydd elusennau treth yn gallu darparu cyngor annibynnol i roi cymorth i gwsmeriaid gyda鈥檜 materion treth a budd-daliadau.
Help 芒 gwasanaethau digidol a ffyrdd eraill o ddelio 芒 ni
Bydd CThEF yn datblygu gwasanaethau digidol hygyrch ac yn rhoi cymorth i bob cwsmer sydd angen help i gyfathrebu 芒 ni鈥檔 ddigidol. Rydym hefyd am gynnig dewisiadau amgen i bobl na allant gyfathrebu 芒 ni ar-lein, lle bo hynny鈥檔 briodol. Mae hyn yn cynnwys:
-
cymorth gan ymgynghorwyr i helpu cwsmeriaid i sefydlu a defnyddio eu cyfrifon digidol, neu helpu i lenwi Ffurflenni Treth ar bapur
-
y gwasanaeth Cynorthwyydd y Gellir Ymddiried Ynddo, sy鈥檔 galluogi cwsmeriaid i ofyn i deulu neu ffrindiau eu cynrychioli a siarad 芒 CThEF ar eu rhan
-
cymorth gan elusennau treth
Mae CThEF yn gweithio gyda darparwyr meddalwedd trydydd parti i gefnogi鈥檙 gwaith o ddatblygu meddalwedd hygyrch, gan osod amodau ar gyfer ymgysylltu drwy ein platfform digidol, sy鈥檔 cynnwys:
- cydymffurfio 芒 Deddf Cydraddoldeb 2010
- bodloni canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA
Cydymffurfio, dyled a chymorth tribiwnlys
Rydym yn ymwybodol y gall gwiriadau cydymffurfio ac achosion cyfreithiol achosi straen. Mae hyn yn arbennig o wir i gwsmeriaid o dan amgylchiadau sy鈥檔 agored i niwed nad oes ganddynt rywun sy鈥檔 gymwys yn eu helpu.
Lle mae anghenion penodol ac mae cwsmeriaid yn ein gwneud yn ymwybodol ohonynt 鈥� byddwn yn cyfathrebu 芒 nhw鈥檔 empathig ac yn ystyried yr anghenion hynny a鈥檜 sefyllfa.
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- rhoi cymorth i bob cwsmer sy鈥檔 cael unrhyw anawsterau yn ystod ymchwiliad gan esbonio materion mewn ffordd glir ac empathig a nodi opsiynau ar gyfer y ffordd ymlaen drwy gydol y broses
- gweithio i ddatrys materion heb fod angen mynd i dribiwnlys
- rhoi gwybod i gwsmeriaid am gymorth a chyngor annibynnol
- gweithio鈥檔 empathig gydag unrhyw un sy鈥檔 wynebu anawsterau ariannol i gytuno ar drefniadau talu fforddiadwy - os bydd amgylchiadau cwsmer yn newid (gan gynnwys ar 么l cytuno ar drefniant talu) rydym bob amser yn barod i weithio gyda nhw a darparu cymorth, gan gydnabod y gall anghenion ychwanegol godi ar unrhyw adeg o鈥檙 broses
Darllenwch ragor am sut mae CThEF yn trin cwsmeriaid sydd 芒 dyledion treth.
Helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i gymorth ychwanegol
Bydd ein harweiniad, ein cyfathrebiadau a鈥檔 llythyrau at gwsmeriaid yn cyfeirio at y cymorth ychwanegol y mae CThEF yn ei ddarparu.
Mae gennym arweiniad manwl ar sut i gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch sy鈥檔 cwmpasu鈥檙 ystod o gymorth y gallwn ei ddarparu os, er enghraifft:
- mae gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol
- mae gennych anawsterau symud neu anableddau corfforol
- mae gennych anableddau synhwyraidd, megis nam ar y golwg, clyw neu leferydd
- mae gennych gyflyrau iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
- rydych yn profi caledi ariannol 鈥� er enghraifft, ni allwch fforddio hanfodion megis bwyd, biliau neu rent
- rydych yn dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin economaidd
- rydych yn yr ysbyty
Sylwer nad yw鈥檙 cymorth sydd ar gael wedi鈥檌 gyfyngu i鈥檙 enghreifftiau hynny.
Mae鈥檙 arweiniad yn ymdrin 芒鈥檙 gwahanol ffyrdd o gysylltu 芒 CThEF os oes angen:
- defnyddio ff么n testun, sgwrs dros y we neu Iaith Arwyddion Prydain
- gwybodaeth mewn fformat gwahanol
- help i lenwi ffurflenni
- rhagor o amser oherwydd eich amgylchiadau
- gwybodaeth mewn iaith arall
- penodi rhywun i siarad 芒 CThEF ar eich rhan
Gallwch hefyd gysylltu 芒 CThEF os oes angen help arnoch gydag ymholiadau penodol.