Sut i ddefnyddio deunyddiau hyrwyddo Bwyta Allan i Helpu Allan
Cyhoeddwyd 13 Gorffennaf 2020

Nawr eich bod wedi cofrestru ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, mae鈥檔 amser i chi roi gwybod i鈥檆h cwsmeriaid eich bod yn cymryd rhan.
I鈥檆h helpu, rydym wedi paratoi pecyn o ddeunyddiau hyrwyddo i chi eu defnyddio.
Maent yn cynnwys:
- pecyn o bosteri ynghyd ag 鈥榟ysbys ar gyfer y bwrdd鈥� i鈥檞 defnyddio yn eich safle
- delweddau a ffeiliau digidol i鈥檞 defnyddio ar eich gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol
Gallwch eu defnyddio mor aml ag y dymunwch, a hynny yn rhad ac am ddim.
Os nad ydych wedi cofrestru eto, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch wneud y canlynol:
- dysgu sut i gofrestru鈥檆h bwyty neu sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
- dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
Nodweddion y cynllun
Gallwch ddefnyddio鈥檙 Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan:
- i gynnig gostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o 拢10 yr un, oddi ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i bobl sydd am eu mwynhau y tu mewn
- i hawlio鈥檙 arian yn 么l gan y llywodraeth yn gyflym ac yn hawdd
- ar yr un pryd 芒 bargeinion eraill yr ydych yn eu cynnig er mwyn i gwsmeriaid gael manteision ychwanegol
Gallwch gynnig y cynllun drwy鈥檙 dydd, bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, o 3 i 31 Awst 2020.
Nid oes cyfyngiad ar faint o weithiau y gall cwsmeriaid ddefnyddio鈥檙 cynnig yn ystod cyfnod y cynllun, ac nid oes angen iddynt ddangos taleb.
Ni all eich cwsmeriaid gael gostyngiad ar ran rhywun nad yw鈥檔 bwyta nac yn yfed yno.
Cewch eich ychwanegu at dwlsyn ar-lein y bydd pobl yn ei ddefnyddio i ddod o hyd i sefydliadau sy鈥檔 cymryd rhan.
Mae alcohol a thaliadau gwasanaeth wedi鈥檜 heithrio o鈥檙 cynnig.