Cofrestru鈥檆h sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
Dysgwch sut i gofrestru鈥檆h bwyty neu sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan.
Gallwch ddefnyddio鈥檙 Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynnig gostyngiad i annog pobl i fwyta yn eich bwyty.
Gallwch ddefnyddio鈥檙 Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan:
-
drwy鈥檙 dydd, bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst 2020
-
i gynnig gostyngiad o 50% ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i鈥檞 fwyta neu yfed y tu mewn (hyd at uchafswm gostyngiad o 拢10 fesul person sy鈥檔 bwyta)
-
i hawlio鈥檙 arian yn 么l gan y llywodraeth
Does dim cyfyngiad ar faint o weithiau y gall cwsmeriaid ddefnyddio鈥檙 cynnig yn ystod cyfnod y cynllun. Ni all eich cwsmeriaid gael gostyngiad ar ran rhywun nad yw鈥檔 bwyta nac yn yfed yno.
Mae alcohol a thaliadau gwasanaeth wedi鈥檜 heithrio o鈥檙 cynnig.
Ni fydd modd cofrestru ar 么l 31 Awst.
Pwy all gofrestru
Gallwch gofrestru os:
-
yw鈥檆h sefydliad yn gwerthu bwyd i鈥檞 fwyta yn y fan a鈥檙 lle ar y safle
-
yn darparu ei ardal fwyta ei hun, neu鈥檔 rhannu ardal fwyta gyda sefydliad arall, ar gyfer prydau sydd i鈥檞 bwyta ar y safle
-
cafodd eich sefydliad ei gofrestru fel busnes bwyd gyda鈥檙 awdurdod lleol perthnasol ar neu cyn 7 Gorffennaf
Ni allwch gofrestru:
-
sefydliad sy鈥檔 cynnig bwyd neu ddiod tecaw锚 yn unig
-
gwasanaethau arlwyo ar gyfer digwyddiadau preifat
-
gwesty sy鈥檔 rhoi gwasanaeth i鈥檙 ystafell yn unig
-
gwasanaethau sy鈥檔 darparu bwyd (megis bwyd ar fordeithiau sy鈥檔 rhan o gynnig pecyn)
-
faniau neu drelars bwyd symudol
Os yw鈥檆h cais yn seiliedig ar wybodaeth anonest neu wallus, bydd eich cofrestriad yn cael ei ddiddymu.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
I gofrestru, bydd angen arnoch:
-
y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer eich busnes (os nad oes gennych un, gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru)
-
enw a chyfeiriad pob sefydliad sydd i鈥檞 gofrestru, oni bai eich bod yn cofrestru mwy na 25
-
rhif y cyfrif banc yn y DU a鈥檙 cod didoli ar gyfer y busnes (dylid dim ond rhoi manylion cyfrif banc pan fo modd derbyn taliad BACS)
-
y cyfeiriad sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h cyfrif banc ar gyfer y busnes (dyma鈥檙 cyfeiriad sydd ar eich cyfriflenni banc)
-
y dyddiad dechreuodd eich busnes fasnachu
Hefyd, mae鈥檔 bosibl y bydd angen arnoch:
-
rhif cofrestru TAW
-
cyfeirnod cynllun TWE y cyflogwr
-
cyfeirnod unigryw y trethdalwr (UTR) ar gyfer Treth Gorfforaeth, Hunanasesiad neu Hunanasesiad y Bartneriaeth
Os ydych yn cofrestru 25 o sefydliadau neu lai, mae鈥檔 rhaid i chi roi manylion pob un.
Mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru鈥檆h holl sefydliadau ar yr un pryd. Nid yw鈥檔 bosibl ychwanegu rhagor o sefydliadau yn nes ymlaen. Os bydd angen i chi gywiro unrhyw wybodaeth a roddir wrth gofrestru neu newid eich cofrestriad, bydd yn rhaid i chi gysylltu 芒 CThEM.
Os ydych yn cofrestru mwy na 25 o sefydliadau
Os ydych yn cofrestru mwy na 25 o sefydliadau sy鈥檔 rhan o鈥檙 un busnes, does dim rhaid i chi roi manylion ar gyfer pob un.
Mae鈥檔 rhaid i chi roi cysylltiad i wefan sy鈥檔 cynnwys manylion pob sefydliad sy鈥檔 cymryd rhan yn y cynllun gan gynnwys yr enw masnachu a鈥檙 cyfeiriad.
Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i chi hefyd roi rhestr i CThEM os yw鈥檔 gofyn am un, yn cynnwys manylion yr holl sefydliadau sy鈥檔 cymryd rhan.
Cofrestru
Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.
Os ydych wedi defnyddio鈥檆h Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, neu TAW, mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio鈥檆h Dynodydd Defnyddiwr a鈥檆h cyfrinair presennol.
Os na, gallwch ddefnyddio Ddynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth 鈥榰nigolyn鈥�, neu greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) newydd a dewis math o gyfrif 鈥榰nigolyn鈥�.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda鈥檙 gwasanaeth hwn.
Daeth y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan i ben ar 31 Awst 2020. Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y cynllun, gallwch gyflwyno hawliad tan 30 Medi 2020.
Yr hyn sy鈥檔 digwydd nesaf
Byddwch yn cael eich cofrestru ar unwaith, a chewch gyfeirnod cofrestru 鈥� bydd angen hwn arnoch pan fyddwch yn hawlio鈥檙 ad-daliad.
Gallwch lawrlwytho deunyddiau hyrwyddo i鈥檆h helpu i hyrwyddo鈥檙 cynllun a rhoi gwybod i鈥檆h cwsmeriaid eich bod yn cymryd rhan.
Bydd enw a chyfeiriad eich sefydliad yn cael eu hychwanegu at restr o sefydliadau sy鈥檔 cymryd rhan, a fydd ar gael i鈥檙 cyhoedd. Os ydych wedi cofrestru mwy na 25 sefydliad, bydd URL y wefan hefyd yn cael ei ychwanegu.
Dylech gysylltu 芒 CThEM os yw unrhyw rai o鈥檆h gwybodaeth gofrestru yn newid.
Mae busnesau sydd 芒 mwy nag un sefydliad yn cael eu hannog i gofrestru pob sefydliad a allai gynnig y cynllun. Ar 么l i chi gofrestru鈥檆h busnes, efallai y bydd yn bosibl ychwanegu sefydliadau newydd. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi gysylltu 芒 CThEM eto i wneud hyn, a gallai hyn achosi oedi cyn i鈥檙 sefydliad gael ei gynnwys yn y cynllun.
Os ydych am gael eich tynnu oddi ar y rhestr o sefydliadau cofrestredig, dylech gysylltu 芒 CThEM a fydd yn eich tynnu 芒 llaw. Ni wneir hyn ar unwaith, felly bydd yn rhaid i chi roi gwybod i鈥檆h cwsmeriaid nad ydych yn cynnig y gostyngiad mwyach.
Pan fyddwch yn dechrau cynnig y gostyngiad
Dylech gynnwys enw鈥檙 Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan ar y bil pan rydych yn cynnig y gostyngiad.
Dylech aros hyd nes eich bod wedi鈥檆h cofrestru cyn i chi gynnig gostyngiad i鈥檆h cwsmeriaid. Ni allwch gynnig gostyngiad cyn 3 Awst.
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y cynllun, disgwylir y byddwch yn ei gynnig yn ystod eich holl oriau agor, ar yr holl ddiwrnodau cymwys rydych ar agor, ac ar bob gwerthiant cymwys o fwyd neu ddiod.
Os yw cwsmer yn prynu pryd o fwyd gyda鈥檙 bwriad o鈥檌 fwyta ond yna鈥檔 mynd ag ef i ffwrdd ac yn gadael y safle, gallwch barhau i roi鈥檙 gostyngiad.
Cofnodion y mae鈥檔 rhaid i chi eu cadw
Ar gyfer pob diwrnod rydych yn defnyddio鈥檙 cynllun, mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion o鈥檙 canlynol:
-
cyfanswm y bobl sydd wedi defnyddio鈥檙 cynllun yn eich sefydliad
-
cyfanswm gwerth y trafodion o dan y cynllun
-
cyfanswm y gostyngiad a roddwyd gennych
Os ydych yn defnyddio鈥檙 cynllun ar gyfer mwy nag un sefydliad, mae鈥檔 rhaid i chi gadw鈥檙 cofnodion hyn ar gyfer pob un.
Cyflwyno hawliad
Ni allwch hawlio eto. Bydd y gwasanaeth y byddwch yn ei ddefnyddio i gyflwyno hawliad ar gael ar 7 Awst 2020.
Bydd y gwasanaeth yn cau ar 30 Medi.
Mae鈥檔 rhaid i chi aros 7 diwrnod ar 么l cofrestru cyn gwneud eich hawliad cyntaf. Bydd CThEM yn talu hawliadau cymwys cyn pen 5 diwrnod gwaith.
Byddwch yn gallu cyflwyno hawliadau yn wythnosol.
Bydd angen i chi dalu TAW o hyd, yn seiliedig ar swm llawn biliau鈥檆h cwsmeriaid.
Bydd unrhyw arian a gewch drwy鈥檙 cynllun yn cael ei drin fel incwm trethadwy.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi rhagor o arweiniad ar sut i gyflwyno hawliad pan fydd y gwasanaeth cofrestru ar agor.
Help arall y gallwch ei gael
Mae CThEM wedi cyhoeddi arweiniad sy鈥檔 cynnwys rhagor o wybodaeth am gymhwystra yn ogystal 芒 sut i gynnig y gostyngiad.
Mae鈥檙 GIG wedi cyflwyno鈥檙 gwasanaeth profi ac olrhain i helpu i olrhain ymlediad coronafeirws.
Dewch o hyd i gymorth ariannol ar gyfer eich busnes yn sgil coronafeirws.
Cysylltu 芒 CThEM
Gallwch gysylltu 芒 CThEM am y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, os na allwch gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.
Updates to this page
-
Added translation
-
The Eat Out to Help Out Scheme is now closed. A link has been added to the claim page.
-
Businesses in England, Scotland, Wales or Northern Ireland are eligible to register for the scheme.
-
'What happens next' section updated to include the registration information that is available to the public. The 'Register' section now gives more information about which Government Gateway ID you can use.
-
Added translation
-
Added link to the register service for the Welsh.
-
You can now register your business for the Eat Out to Help Out Scheme.
-
First published.