Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Hydref 2019

Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Eich cyfrifoldebau o ran ymgyrchu gwleidyddol

Gyda鈥檙 posibilrwydd o etholiad cyffredinol eleni, rydym yn atgoffa elusennau o鈥檜 cyfrifoldebau o ran ymgyrchu gwleidyddol.

Mae gan elusennau hanes balch o ymgysylltu mewn trafodaethau cyhoeddus o amrywiol safbwyntiau, gan roi llais i鈥檞 buddiolwyr ac amlygu eu hachos.

Fodd bynnag, mae鈥檙 cyd-destun gwleidyddol presennol ar gyfer etholiad yn wahanol iawn i鈥檙 hyn yr ydym wedi ei weld yn y gorffennol.

Mae ein Prif Swyddog Gweithredol, Helen Stephenson CBE, wedi cyhoeddi blog yn trafod .

Paratowch i ddychwelyd adroddiad blynyddol eich elusen

Ar 12 Tachwedd 2018, fe newidiom ein gwasanaeth ar-lein ar gyfer adroddiad blynyddol elusennau. Os nad ydych chi wedi cyflwyno adroddiad blynyddol ar-lein ers hynny, bydd angen i chi wneud pethau鈥檔 wahanol y tro nesaf.

Dysgwch beth fydd angen i chi ei wneud os mai鈥檙 tro diwethaf i鈥檆h elusen gyflwyno adroddiad blynyddol oedd cyn 12 Tachwedd 2018.

Mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno eich adroddiad blynyddol o fewn 10 mis i ddiwedd eich blwyddyn ariannol. Er enghraifft, os oedd diwedd eich blwyddyn ariannol ar 31 Rhagfyr 2018, eich dyddiad cau yw 31 Hydref 2019.

Esbonia ein canllaw ynghylch paratoi adroddiad blynyddol elusen beth sydd angen i chi ei gyflwyno a phryd.

Gwelliannau i adrodd twyll elusennol a chydweithio i鈥檞 atal

Yn ddiweddar fe gyhoeddom ffurflen ar-lein newydd i adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn eich elusen, i鈥檞 gwneud yn llawer haws i chi adrodd am achosion o dwyll a throseddau seiber.

Dengys dadansoddiad diweddar o adroddiadau o dwyll fod elusennau yn parhau i fod yn ddioddefwyr i鈥檙 bygythiadau mwyaf mynych, megis Mandad, twyll Prif Swyddog a Gwe-rwydo - oll yn fathau o 鈥榖eirianneg gymdeithasol鈥�, yn ymwneud 芒 chamddefnydd neu ddynwarediad, fel arfer trwy e-bost.

Gall y twyllau hyn beryglu cronfeydd, seilwaith ac enw da gwerthfawr eich elusen, ond gallant fod yn hynod soffistigedig ac anodd i鈥檞 canfod, gan dwyllo hyd yn oed y rhai mwyaf profiadol ac uwch ar draws pob sector. Os ydych chi鈥檔 credu bod eich elusen wedi ei thargedu, mae鈥檔 bwysig siarad ac adrodd am hyn, er mwyn i ni allu nodi鈥檙 risgiau a helpu eraill ar draws y sector.

Gallwch hefyd gymryd camau allweddol i ddiogelu eich elusen rhag niwed trwy gymryd rhan yn Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth Twyll Elusennau eleni.

Rydym yn annog pawb yn y sector elusennol i gymryd rhan i helpu trechu twyll. Gallwch:

  • (yn cynnwys adnoddau pwysig megis dalenni ffeithiau, fideos a sesiynau holi ac ateb)
  • dilyn ac ymgysylltu gyda鈥檙 ymgyrch ar draws a gan ddefnyddio鈥檙 hashnod #CharityFraudOut

Paratoi eich elusen ar gyfer Brexit

Mae鈥檔 hanfodol fod elusennau yn rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig o鈥檙 Undeb Ewropeaidd. Mae鈥檙 Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi cyhoeddi canllaw i helpu sefydliadau cymdeithas sifil i baratoi ar gyfer Brexit.

Mae鈥檔 cwmpasu 5 maes allweddol i鈥檞 hystyried, yn cynnwys beth sydd angen i chi ei wneud os yw eich elusen:

  • yn derbyn cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd
  • yn cyflogi staff o鈥檙 Undeb Ewropeaidd neu gyda gwirfoddolwyr o鈥檙 Undeb Ewropeaidd
  • yn derbyn data personol o鈥檙 Undeb Ewropeaidd
  • yn mewnforio neu鈥檔 allforio nwyddau i neu o鈥檙 EU

Yn ddiweddar fe fu DCMS hefyd yn cynnal gweminar gyda鈥檙 Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) ynghylch Elusennau a Brexit heb gytundeb, sydd ar gael ar sianel YouTube yr NCVO.

Diogelu ac amddiffyn pobl

Mae diogelu yn flaenoriaeth llywodraethu allweddol ar gyfer yr holl ymddiriedolwyr, nid dim ond y rhai sy鈥檔 gweithio gyda grwpiau a ystyrir i fod dan risg yn draddodiadol.

Yn ddiweddar mae鈥檙 Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) wedi lansio amrywiaeth o adnoddau diogelu, gyda chefnogaeth sefydliadau eraill.

Cafodd yr adnoddau eu hariannu ar y cyd gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Dylech ddefnyddio鈥檙 rhain ar y cyd 芒鈥檔 canllawiau ynghylch dyletswyddau diogelu ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau.

Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cysylltu 芒 ni ynghylch unrhyw faterion diogelu, neu ddigwyddiadau diogelu, cwynion neu gyhuddiadau nad ydynt wedi eu hadrodd i ni.

Dysgwch am adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn eich elusen fel ymddiriedolwr.

Dysgwch am adrodd am gamymddwyn difrifol mewn elusen gan weithiwr neu wirfoddolwr.

Canllaw wedi ei ddiweddaru ar archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennol

Os yw incwm eich elusen dros 拢25,000, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ymddiriedolwyr drefnu i berson annibynnol neu gwmni cyfrifyddu gyflawni archwiliad neu archwiliad annibynnol o gyfrifon yr elusen.

Diben hyn yw rhoi rhywfaint o sicrwydd annibynnol i ymddiriedolwyr, cefnogwyr a buddiolwyr yr elusen, ynghyd 芒鈥檙 cyhoedd yn gyffredinol, y rhoddwyd cyfrif priodol am arian yr elusen. Gall ymddiriedolwyr y rhan fwyaf o elusennau ddewis cynnal archwiliad annibynnol yn hytrach nag archwiliad. Mae arolygiad annibynnol yn graffu 鈥榗yffyrddiad ysgafn鈥� sydd fel arfer yn costio llai nag archwiliad.

I helpu ymddiriedolwyr rydym wedi diweddaru ein canllaw archwiliad annibynnol o gyfrifon elusennau: arweiniad i ymddiriedolwyr (CC31), i鈥檞 wneud yn haws i鈥檞 ddarllen ac yn fwy hygyrch.

Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i benodi arolygydd annibynnol gyda鈥檙 gallu a phrofiad ymarferol gofynnol i gyflawni arolygiad cymwys o gyfrifon eich elusen.

Adrodd trafodion gyda phart茂on cysylltiedig mewn cyfrifon elusennol

Yn Awst 2019 fe gyhoeddom astudiaeth a ganfu fod llai na dwy draean o elusennau gydag incwm yn llai nag 拢1 miliwn oedd wedi paratoi eu cyfrifon yn defnyddio鈥檙 Datganiad o鈥檙 Arfer a Argymhellir i Elusennau (SORP) wedi datgelu trafodion gyda phart茂on cysylltiedig yn llawn.

Gwyddom fod ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau yn ddibynnol ar dryloywder, felly mae鈥檔 hanfodo fod elusennau sy鈥檔 paratoi cyfrifon SORP yn darparu darlun cyflawn o unrhyw daliadau neu gostau a dalwyd i鈥檙 ymddiriedolwyr ac unrhyw drafodion eraill yn ymwneud ag ymddiriedolwyr a phersonau ac endidau gyda chysylltiad agos iddynt.

Darllenwch yr astudiaeth ynghylch adrodd am drafodion gyda phart茂on cysylltiedig.

Sut i gael help ar gyfer elusen anweithredol neu aneffeithiol

Mae鈥檙 rhaglen 鈥楢dfywio Ymddiriedolaethau鈥� yn helpu elusennau sy鈥檔 ei chael yn anodd i wario eu hincwm ar fuddiant cyhoeddus. Gall ymddiriedolwyr elusennau gael help o鈥檙 rhaglen, a dylent drafod dyfodol eu helusen os yw鈥檔 anodd:

  • cael ymddiriedolwyr newydd
  • gwario eich incwm
  • nodi buddiolwyr
  • canfod amser i redeg yr elusen

Dysgwch sut i gael help i鈥檆h elusen o鈥檙 rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau.

Cadw mewn cysylltiad 芒 ni

Mae oriau agor ein canolfan gyswllt wedi eu hymestyn i ddarparu mwy o gefnogaeth i chi.

Rydym am roi鈥檙 holl offer fydd eu hangen aroch chi i lwyddo, gan sicrhau y gall elusennau ffynnu ac ysbrydoli ymddiriedaeth er mwyn i bobl allu gwella bywydau a chryfhau cymdeithas. Y rhif yw 0300 066 9197 ac rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd 4pm.

Cofrestru ar gyfer hysbysiadau e-bost 188体育 yw鈥檙 ffordd fwyaf syml o fod yn gyfredol gyda鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwn ar ein gwefan. Fe ofynnir i chi roi cyfeiriad e-bost er mwyn creu tanysgrifiad, a gallwch ddewis pa mor aml yr hoffech chi gael eich hysbysu.

Mae hefyd yn ddefnyddiol i鈥檔 dilyn trwy ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol a . Rydym yn rhannu gwybodaeth bwysig, canllawiau a diweddariadau ar gyfer y sector elusennol.