Canllawiau

Dod o hyd i rif Yswiriant Gwladol cyflogai, neu ei wirio, drwy ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol

Diweddarwyd 17 Rhagfyr 2024

Rhagarweiniad

Gallwch ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol cyflogai, neu ei wirio, drwy anfon Cais i Ddilysu rhif Yswiriant Gwladol (NVR) gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.

Anfonwch NVR os ydych yn gyflogwr ac ni all eich meddalwedd fasnachol y gyflogres ddod o hyd i rifau Yswiriant Gwladol cyflogeion, neu eu gwirio.

Cyn i chi ddechrau

Fel cyflogwr, mae鈥檔 rhaid i chi gofrestru gyda CThEF ar gyfer聽TWE Ar-lein聽cyn defnyddio Offer TWE Sylfaenol i gyfrifo a chyflwyno o ran eich cyflogres.

Mae鈥檔 rhaid i chi aros o leiaf 2 wythnos ar 么l anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn cyntaf cyn anfon NVR. Ni fydd hyn yn creu rhif Yswiriant Gwladol newydd.

Os nad yw鈥檆h cyflogai erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol, rhoi gwybod iddo am聽wneud cais am rif Yswiriant Gwladol.

Trefnu meddalwedd yr Offer TWE Sylfaenol

I ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol i anfon NVR, mae鈥檔 rhaid i chi wneud y canlynol:

  • lawrlwytho a gosod y feddalwedd
  • creu cofnod ar gyfer y cyflogwr
  • creu cofnod ar gyfer y cyflogeion rydych am wirio eu rhifau Yswiriant Gwladol

Cael help gyda聽threfnu Offer TWE Sylfaenol.

Os ydych yn wynebu anawsterau wrth lawrlwytho neu agor Offer TWE Sylfaenol,聽gwiriwch argaeledd y gwasanaeth ac a oes unrhyw broblemau ynghylch y gwasanaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Creu NVR ar gyfer cyflogai

  1. Lansio Offer TWE Sylfaenol.
  2. Dewiswch 鈥楬afan鈥�. Bydd hyn yn mynd 芒 chi i鈥檙 dudalen hafan.
  3. Dewiswch enw鈥檙 cyflogwr o鈥檙 rhestr, 鈥楥yflogwyr鈥�, ar ochr chwith y dudalen. Os ydych wedi ychwanegu mwy nag un cyflogwr at yr Offer TWE Sylfaenol, bydd yn rhaid i chi ddewis y cyflogwr y mae鈥檙 cyflogai鈥檔 gweithio iddo. Bydd hyn yn mynd 芒 chi i鈥檙 dudalen, 鈥楳anylion y cyflogwr鈥�.
  4. Dewiswch y flwyddyn dreth bresennol o鈥檙 opsiynau ar dop y dudalen.
  5. Dewiswch y cysylltiad, 鈥楻heoli cyflogeion鈥�, o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen. Bydd hwn yn mynd 芒 chi i鈥檙 dudalen, 鈥楻heoli cyflogeion鈥�, sydd 芒 rhestr o鈥檙 holl gyflogeion o dan y cyflogwr hwn.
  6. Dewiswch y cyflogai perthnasol o鈥檙 rhestr (dim ond un cyflogai ar y tro y mae modd i chi greu NVR ar ei gyfer). Bydd hyn yn mynd 芒 chi i鈥檙 dudalen, 鈥楳anylion y cyflogai鈥�.
  7. Dewiswch y cysylltiad, 鈥楥ais i Ddilysu rhif Yswiriant Gwladol (NVR)鈥�, o鈥檙 ddewislen ar ochr chwith y dudalen. Bydd hwn yn mynd 芒 chi i dudalen, 鈥楥ais i Ddilysu Rhif Yswiriant Gwladol (NVR)鈥�.
  8. Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen hon.
  9. Dewiswch 鈥楴esaf鈥� i gadarnhau eich bod wedi creu NVR ar gyfer y cyflogai hwn.
  10. Dewiswch 鈥楴esaf鈥� i orffen 芒鈥檙 broses a mynd yn 么l i鈥檙 dudalen, 鈥楳anylion y cyflogai鈥�.

Gallwch greu Cais i Ddilysu rhif Yswiriant Gwladol (NVR) ar gyfer cyflogai arall drwy ailadrodd y broses.

Anfonwch yr NVRs at CThEF

Mae angen i chi anfon yr NVRs fel un cyflwyniad ar 么l llenwi pob un.

  1. Ar y dudalen, 鈥楳anylion y cyflogai鈥�, dewiswch enw鈥檙 cyflogwr yn adran, 鈥楲lywio鈥�, y ddewislen ar y chwith. Bydd hyn yn mynd 芒 chi i鈥檙 dudalen 鈥楳anylion y cyflogwr鈥�.
  2. Dewiswch y cysylltiad, 鈥楤wrw golwg dros gyflwyniadau sydd heb eu gwneud鈥�, o鈥檙 ddewislen ar y chwith. Bydd hwn yn mynd 芒 chi i鈥檙 dudalen, 鈥楤wrw golwg dros gyflwyniadau sydd heb eu gwneud鈥�.
  3. Dewiswch y cysylltiad, 鈥楢nfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu gwneud鈥�, ar ochr dde isaf y dudalen. Bydd hwn yn mynd 芒 chi i鈥檙 dudalen, 鈥楥yflwyno data i Gyllid a Thollau EF鈥�.
  4. Darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen hon.
  5. Dewiswch 鈥楴esaf鈥� i fynd i鈥檙 dudalen, 鈥楧ilysu cyflwyniad鈥�.
  6. Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
  7. Dewiswch 鈥楴esaf鈥� i fynd i鈥檙 dudalen, 鈥楽tatws y cyflwyniad鈥�, a bydd y dudalen, 鈥楥anlyniadau鈥檙 cyflwyniad鈥�, yn dilyn honno.

Bydd y dudalen hon yn rhoi cyfeirnod unigryw i chi er mwyn cwblhau鈥檙 broses o gyflwyno鈥檙 NVR.

Cadwch y rhif hwn ar gyfer eich cofnodion.

Ar 么l i chi gyflwyno鈥檙 NVRs

Bydd CThEF yn diweddaru鈥檆h聽cyfrif TWE Ar-lein聽i wneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • dilysu rhif Yswiriant Gwladol
  • rhoi鈥檙 rhif Yswiriant Gwladol cywir

Ni allwn roi amserlen i chi am y diweddariad hwn, felly efallai y bydd angen i chi wirio eich cyfrif fwy nag unwaith.