Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Sgipio cynnwys

Sut i wneud cais

I gael rif Yswiriant Gwladol bydd angen gwneud cais ar-lein. Bydd angen i chi gadarnhau鈥檆h hunaniaeth pan fyddwch yn gwneud cais.

Pa ddogfennau fydd eu hangen arnoch

Os oes gennych y dogfennau canlynol, sicrhewch eu bod ar law cyn i chi ddechrau:

  • pasbort o unrhyw wlad
  • cerdyn hunaniaeth genedlaethol o wlad yr UE neu o Norwy, Liechtenstein neu鈥檙 Swistir

Efallai y bydd angen i chi roi gwybodaeth am un neu fwy o鈥檙 dogfennau.

Gallwch wneud cais o hyd os nad oes gennych y dogfennau hyn, ond efallai y bydd angen i chi fynychu apwyntiad mewn person i gadarnhau鈥檆h hunaniaeth.

Cadarnhau eich hunaniaeth

Os gallwch, bydd angen cymryd a lanlwytho:

  • llun o鈥檆h hunan yn dal eich pasbort
  • lluniau o鈥檙 dogfennau hunaniaeth eraill

Gallwch ddefnyddio ff么n clyfar, llechen neu gamera digidol.

Byddwch yn cael gwybod sut i dynnu鈥檙 lluniau a sut y dylent edrych yn ystod y broses gwneud cais.

Gallwch ofyn i rywun dynnu鈥檙 lluniau ar eich cyfer.

Os na allwch lanlwytho lluniau

Gallwch wneud cais ar-lein o hyd ond bydd y cais yn cymryd fwy o amser.

Efallai y bydd angen mynychu apwyntiad neu anfon llungop茂au o鈥檆h dogfennau. Byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod beth i鈥檞 wneud ar 么l cyflwyno鈥檆h cais.

Gwneud cais ar-lein

Ar 么l gwneud cais

Ar 么l gwneud cais byddwch yn derbyn e-bost gyda鈥檆h rhif cyfeirnod. Bydd yr e-bost yn dweud wrthych os oes angen darparu tystiolaeth bellach o鈥檆h hunaniaeth.

Gall gymryd hyd at 4 wythnos i gael eich rhif Yswiriant Gwladol ar 么l cadarnhau eich hunaniaeth.

Cael help gyda鈥檆h cais

Llinell gymorth ceisiadau am rif Yswiriant Gwladol (Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban)
Ff么n: 0800 141 2079
Ff么n testun: 0800 141 2438
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Llinell gymorth Gymraeg ceisiadau am rif Yswiriant Gwladol (Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban)
Ff么n: 0800 141 2349
Ff么n testun: 0800 141 2438
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Llinell gymorth ceisiadau am rif Yswiriant Gwladol (Gogledd Iwerddon)
Ff么n: 0800 587 0024
Ff么n testun: 0800 587 0194
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur 鈥� darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Darganfyddwch am gostau galwadau