Tim Moss

Bywgraffiad
Mae Tim yn Brif Weithredwr DVLA ar hyn o bryd ar ôl ymuno â’r asiantaeth ym mis Mawrth 2025.
Cyn hynny bu’n Brif Swyddog Gweithredu ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau yn Llywodraeth Cymru. Roedd yn gyfrifol am ystod o swyddogaethau corfforaethol gan gynnwys Digidol, Data a Thechnoleg, Cyllid, Adnoddau Dynol, Ystadau, Diogelwch, Cyfreithiol, Masnachol a Chaffael.
Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, roedd Tim yn Brif Weithredwr yn y Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd. Cyn hynny, bu’n Gofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Cymru a Lloegr ac yn Brif Weithredwr yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd.
Mae gyrfa Tim hefyd yn cynnwys 12 mlynedd mewn uwch rolau gweithredol yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Mae ganddo radd yn y Gwyddorau Naturiol o Brifysgol Caergrawnt, MBA o Brifysgol Abertawe, ac mae’n byw ar fferm yn Ne Cymru ac mae’n briod gyda 2 o blant. Derbyniodd CBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2016 am wasanaethau i’r economi a phobl Abertawe.
Prif Weithredwr
Yn gyfrifol am arweinyddiaeth gyffredinol y DVLA.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Prif Weithredwr a Rheolwr Cyffredinol, IPO
-
Prif Weithredwr, Cofrestrydd Cwmnïau