Enillydd Gwobr Fast Growth 50 eleni鈥檔 enghraifft o arloesi ar ei orau
Hydro Industries oedd prif enillydd y gwobrau blynyddol a gynhaliwyd am yr unfed tro ar bymtheg yng Nghaerdydd ddydd Gwener, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Wayne Preece, CEO of Hydro Industries and Secretary of State for Wales Stephen Crabb
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Hydro Industries yn enghraifft o arloesi ar ei orau yng Nghymru. Mae鈥檙 cwmni a sefydlwyd ychydig dros bedair blynedd yn 么l wedi gweld cyfradd twf trosiant o dros 750% yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, o 拢258,000 i dros 拢2 filiwn.
Mae鈥檙 llwyddiant ysgubol hwn yn dangos y r么l hollbwysig sydd gan ein hentrepreneuriaid a鈥檔 busnesau lleol o ran creu swyddi a rhoi hwb i dwf economaidd ledled Cymru. Mae hefyd yn dangos bod ein cynllun economaidd hirdymor yn helpu i greu鈥檙 hyder a鈥檙 amodau iawn i fusnesau yng Nghymru fuddsoddi a thyfu.
Bydd Stephen Crabb yn ymweld 芒 Hydro Industries yn Llangennech yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae鈥檙 cwmni鈥檔 arloesi gyda thechnoleg electro ym maes puro d诺r er budd cymunedau yn rhai o ranbarthau mwyaf difreintiedig y byd. Yn ogystal 芒 dysgu mwy am gynlluniau鈥檙 cwmni, bydd Mr Crabb yn clywed sut mae ei dwf yn helpu cadwyn gyflenwi busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Dywedodd bod y talentau entrepreneuraidd a welwyd yn ystod Gwobrau Fast Growth 50, sy鈥檔 cydnabod rhai o鈥檙 cwmn茂au sydd wedi tyfu gyflymaf yng Nghymru, hefyd yn argoeli鈥檔 dda ar gyfer Uwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol y DU a fydd yn dod i Gymru ym mis Tachwedd.
Ychwanegodd Stephen Crabb:
Mae gan Gymru enw da Cymru fel cartref i entrepreneuriaid talentog, ac o ran cynhyrchu rhai o鈥檙 cynnyrch a鈥檙 gwasanaethau mwyaf arloesol ar y blaned. Bydd yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 mis nesaf, sy鈥檔 canolbwyntio ar y sector uwch dechnoleg, yn gyfle gwych i arddangos ein harloesedd, ein gweithlu medrus iawn a pham dylai buddsoddwyr rhyngwladol ddechrau talu sylw i Gymru.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU.