Stori newyddion

Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU 2014

Bydd Cymru鈥檔 cynnal uwchgynhadledd fuddsoddi ryngwladol ar 21 Tachwedd 2014.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
UK Investment Summit Wales 2014

Mabwysiadu technoleg newydd i sicrhau mantais gystadleuol鈥� yw thema鈥檙 uwchgynhadledd.

Bydd yr uwchgynhadledd yn adeiladu ar y diddordeb a gafwyd mewn busnesau yng Nghymru yn dilyn Uwchgynhadledd NATO 2014 yn ddiweddar.

Bydd y digwyddiad gwahoddiad yn unig hwn sy鈥檔 cael ei gyd-drefnu gan Lywodraethau Cymru a鈥檙 DU, yn dod 芒 150 o fuddsoddwyr byd-eang, arweinwyr busnesau ac uwch weinidogion y llywodraeth at ei gilydd. Bydd yn rhoi cyfle i鈥檙 rhai sy鈥檔 bresennol rwydweithio, cael gweld technolegau chwyldroadol a chael cyfle i glywed gan yr arbenigwyr.

Bydd y trafodaethau yn y digwyddiad yn cynnwys:

  • Strategaethau a ddefnyddir gan fusnesau arweiniol i wybod y diweddaraf am dechnoleg newydd a鈥檌 defnyddio er mwyn tyfu
  • Rhagweld technoleg a鈥檌 masnacheiddio
  • Y dulliau a ddefnyddir i seibrdroseddu a鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud yng Nghymru i ymateb i鈥檙 bygythiad hwn
  • Datblygu modelau newydd o ryngweithio鈥檔 academaidd ac o ran busnes
  • R么l Cymru o ran cefnogi datblygiadau technoleg a thwf busnesau

Mae ecosystem gwyddoniaeth ac arloesi鈥檙 DU yn cynnig sg么p sylweddol i鈥檙 dyfodol. Mae defnyddio arbenigedd y DU ym maes technoleg yn ganolog i gynnal llwyddiant economaidd y DU ym meysydd busnes a diwydiant.

Y DU yw鈥檙 prif gyrchfan yn Ewrop ar gyfer prosiectau buddsoddi uniongyrchol tramor, gyda 14% yn fwy o brosiectau na鈥檙 llynedd.

Roedd gan Gymru 79 o brosiectau mewnfuddsoddi uniongyrchol tramor yn 2013-14, y nifer fwyaf mewn 24 mlynedd. Llwyddodd hyn i greu neu ddiogelu dros 10,000 o swyddi. Mae鈥檙 uwchgynhadledd yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU 2014, cysylltwch ag Isaac Hewlings [email protected].

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Tachwedd 2014 show all updates
  1. Added link to the live stream and investment video.

  2. First published.