Cymro鈥檔 gwneud prif fwrdd NATO
Mae鈥檙 saer o Gymru, Paul Rathkey, wedi ennill contract pwysig i wneud y bwrdd cyfarfod ar gyfer arweinwyr byd yn Uwchgynhadledd NATO 2014
Wales Office minister Alun Cairns with Welsh cabinet maker Paul Rathkey.
Bydd t卯m Paul yng nghwmni Rathkeys, Lland诺, yn defnyddio pedair tunnell o goed i wneud dau fwrdd ar gyfer y digwyddiad. Bydd bwrdd 25 metr o hyd yn cael ei ddefnyddio yn y brif ystafell gyfarfod, a bydd ail fwrdd, 17 metr o ran diamedr, mewn ail ystafell gyfarfod, lle bydd yr arweinwyr yn cwrdd mewn grwpiau llai. Bydd coed o bob cwr o Gymru鈥檔 cael eu defnyddio i wneud y byrddau.
Nid Rathkeys yw鈥檙 unig fusnes i elwa o鈥檙 contract; mae coesau鈥檙 byrddau鈥檔 cael eu gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr; daw鈥檙 Derw Cymreig gan gwmni coed yn Abertawe; daw鈥檙 coed laminedig o Gaerdydd; cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi darparu鈥檙 deunydd ar gyfer y ceblau; a bydd cwmni cludo o Ben-y-bont ar Ogwr wrth law i symud y bwrdd anferth i鈥檙 Celtic Manor.
Gyda phythefnos i fynd nes bydd y gwaith wedi鈥檌 gwblhau, dywedodd Paul:
Mae鈥檔 fraint cael gwahoddiad i wneud y bwrdd hwn ar gyfer yr Uwchgynhadledd. Dyma un o鈥檙 prosiectau mwyaf rydyn ni wedi鈥檌 dderbyn, ond rydyn ni鈥檔 hoffi sialens.
Rydyn ni wedi gwneud yn si诺r bod holl elfennau鈥檙 bwrdd yn Gymreig, o鈥檙 coed i鈥檙 cerbydau cludo. Bydd y chwe aelod o鈥檙 t卯m yn gweithio鈥檔 ddiflino i wneud yn si诺r bod popeth yn barod ar amser.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae gweld bwrdd NATO鈥檔 cael ei greu yma yng Nghymru gan Paul, gan ddefnyddio derw Cymreig 鈥� mae hyd yn oed y coesau鈥檔 cael eu gwneud yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr 鈥� yn tanlinellu鈥檙 ffaith fod yr Uwchgynhadledd yn wych i鈥檙 wlad, nid yn unig o ran y proffil, ond yn ymarferol hefyd.
Mae busnesau yng Nghymru 鈥� masnachwyr lleol, gwestai, cyflenwyr bwyd a darparwyr ynni - yn elwa o effaith NATO, ac mae Cymru鈥檔 cael ei gweld ar draws y byd fel gwlad sy鈥檔 gallu cynnal digwyddiadau gyda鈥檙 gorau yn y byd.
Cynhelir Uwchgynhadledd NATO yng ngwesty鈥檙 Celtic Manor ar 4 - 5 Medi a bydd dros 60 o arweinwyr y byd yn bresennol.
Mae Rathkeys yn cynhyrchu gwaith coed sy鈥檔 amrywio o ddodrefn unigol ac addurniadau ac ategolion cain, i adnewyddu ystafelloedd a hyd yn oed tai neu fusnesau.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales