Ysgrifennydd Cymru yn croesawu鈥檙 Ysgrifennydd Amddiffyn i ganolfannau yng Nghymru sydd ar y blaen o ran hyfforddiant ac addysg
Mae Ysgrifennydd Cymru a Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru yn ymuno 芒鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ar ei ymweliad cyntaf 芒 chanolfan yng Nghymru

Defence Secretary, Welsh Secretary and Minister Adams meet trainees at RAF St. Athan
Bydd Gavin Williamson, Alun Cairns a Nigel Adams yn teithio ar hyd a lled Cymru yn ymweld 芒 rhai o鈥檙 canolfannau yng Nghymru sy鈥檔 cyfrannu at allu hanfodol y DU i amddiffyn. Drwy siarad 芒鈥檙 rheini sy鈥檔 cael hyfforddiant mewn hedfan jetiau cyflym mewn awyrennau Hawk yn RAF Y Fali a gweld yr hyn sydd ar gael yn yr Ysgol Hyfforddiant Technegol yn Sain Tathan, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael gweld drostynt eu hunain beth sydd gan Gymru i鈥檞 gynnig o ran amddiffyn, diogelwch ac arloesi.
Yn ystod eu hymweliad ag RAF Sain Tathan, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cwrdd 芒 chynrychiolwyr sydd ar reng uchel o鈥檙 RAF a鈥檙 fyddin yng Nghymru. Byddant yn trafod eu huchelgais ar gyfer dyfodol canolfan De Cymru yn y cyfarfodydd.
Mae Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4 yn RAF Y Fali ar Ynys M么n, ac mae鈥檔 gyfrifol am hyfforddi cenhedlaeth nesaf y DU o beilotiaid awyrennau ymladd o鈥檙 radd flaenaf. Dyma鈥檙 tro cyntaf y bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn yn ymweld 芒鈥檙 ganolfan, a bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cael cyfle i gwrdd 芒 rhai o鈥檙 2,210 o berson茅l rheolaidd Lluoedd Arfog y DU yng Nghymru a chlywed am eu profiadau yng nghanolfan Ynys M么n a鈥檙 tu hwnt. Mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Llywodraeth y DU wedi buddsoddi cyfanswm o 拢945 miliwn mewn busnesau yng Nghymru yn 2016/17, felly erbyn hyn, Cymru yw un o鈥檙 llefydd mwyaf cystadleuol yn y byd i arloesi, adeiladu busnes a darparu diogelwch. Wrth siarad 芒 chomanderiaid yn RAF Y Fali a Sain Tathan, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn atgyfnerthu鈥檙 cymorth hanfodol hwn ar gyfer y sector amddiffyn yng Nghymru ac yn amlinellu eu gweledigaethau ar gyfer ei ddyfodol.
Dywedodd Gavin Williamson, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn:
Mae鈥檙 2,210 o berson茅l rheolaidd a鈥檙 1,080 wrth gefn yn y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn gwneud cyfraniad aruthrol i ddiogelwch a ffyniant y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru mae Pencadlys ein 160fed Brig芒d, yn ogystal 芒鈥檙 uned troedfilwyr ysgafn. Mae鈥檙 ysgol hyfforddiant i beilotiaid mewn hedfan jetiau cyflym yn RAF Y Fali, eu hysgol ar gyfer peirianneg maes yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan heb anghofio鈥檙 cyfleusterau hyfforddi yn ardal Aberhonddu.
Mae鈥檙 sector amddiffyn yn buddsoddi 拢945 miliwn mewn busnesau yng Nghymru bob blwyddyn, gan gefnogi 6,300 o swyddi, o General Dynamics ym Merthyr Tudful, sy鈥檔 adeiladu cerbydau arfog ar gyfer y Fyddin, i waith uwch dechnoleg Qinetiq yn Aberporth, a鈥檙 Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn yn Sir y Fflint, sy鈥檔 cefnogi ein jetiau cyflym RAF F-35 sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae RAF Y Fali a Sain Tathan yn enghreifftiau gwych o sut mae sector amddiffyn y DU yn ein gwarchod ni rhag bygythiadau byd-eang yn ogystal 芒 meithrin ffyniant, creu miloedd o swyddi medrus a chynhyrchu miliynau o bunnau mewn allforion.
Ar 么l gweld y doniau o safon fyd-eang yma yn ein canolfannau yn ogystal 芒鈥檙 milwyr sydd gennym yn barhaus yn Afghanistan, rwy鈥檔 fwy penderfynol nag erioed o sicrhau a chryfhau 么l troed milwrol Cymru.
Dywedodd Nigel Adams, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru:
Mae鈥檙 hyfforddiant o鈥檙 radd flaenaf sydd ar gael yn y canolfannau ledled Cymru wir yn brawf o gryfder y sector amddiffyn yng Nghymru. Gyda milwyr, criwiau awyr a llongwyr o Gymru yn gweithio ar hyd a lled y byd, mae modd gweld a theimlo鈥檙 sgiliau a鈥檙 arbenigedd sy鈥檔 cael eu meithrin yma ar lefel fyd-eang. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddiogelu enw da Cymru am ddarparu rhagoriaeth filwrol, ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at weithio鈥檔 agos gyda鈥檙 Ysgrifennydd Amddiffyn er mwyn hybu鈥檙 llwyddiant yma.
Bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn dysgu am y cymorth amhrisiadwy sy鈥檔 cael ei roi i gyn-filwyr yn Ne Cymru ar 么l ymweld 芒鈥檙 ddwy ganolfan RAF. Mae Woody鈥檚 Lodge yn helpu cyn-filwyr i ailgysylltu 芒鈥檜 teuluoedd a鈥檜 cymunedau. Mae hefyd yn lle croesawus i gyn-filwyr fynd i gael cymorth a chyngor.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ar 么l i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Yr Alban, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Gogledd Iwerddon lansio Strategaeth Cyn-filwyr y DU gyfan yn ddiweddar, mae鈥檔 galonogol ymweld 芒 mudiad sydd wedi bod yn gweithio tuag at gyflawni rhai o brif nodau鈥檙 strategaeth yma yn Ne Cymru ers blynyddoedd.
Mae Woody鈥檚 Lodge yn cefnogi cyn-filwyr i wynebu rhai o鈥檙 heriau a鈥檙 problemau amrywiol sy鈥檔 eu hwynebu pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog. Drwy ymweld 芒 mudiadau o鈥檙 fath, gall Llywodraeth y DU ddeall yr heriau hyn yn well a sicrhau bod gennym yr wybodaeth i gyd er mwyn darparu strategaeth sy鈥檔 gweithio.