Stori newyddion

Y DU yn ennill aseiniad cymorth F-35 byd-eang gwerth 拢500M

R么l y DU fel partner blaenllaw ar y rhaglen F-35 byd-eang yn derbyn hwb enfawr arall heddiw.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Two RAF F-35B Lightning break away together over the North Sea.

Two RAF F-35B Lightnings over the North Sea. Crown copyright.

Mae r么l y DU fel un o bartneriaid blaenllaw y rhaglen F-35 fyd-eang wedi cael hwb anferthol arall heddiw ar 么l i鈥檙 ganolfan atgyweirio cydrannau awyrennau ac afioneg yng Ngogledd Cymru gael ail aseiniad mawr o waith gan Adran Amddiffyn UDA, aseiniad gwerth 拢500M.

Ar 么l cyhoeddi yn 2016 y byddai鈥檙 DU yn gartref i ganolfan atgyweirio fyd-eang ar gyfer y gyfran gyntaf o gydrannau F-35, mae newyddion heddiw鈥檔 golygu y bydd llawer mwy o鈥檙 gwaith cymorth ar gyfer yr awyrennau arloesol yn cael ei wneud yn y DU.

Bydd yr aseiniad newydd yn cefnogi cannoedd o swyddi F-35 ychwanegol yn y DU a bydd llawer o鈥檙 swyddi hynny yn Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn (DECA) y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei safle yn Sealand, lle bydd y rhan fwyaf o鈥檙 gwaith yn cael ei wneud.

Bydd yn cynnig gwasanaethau cynnal a chadw, atgyweirio, archwilio ac uwchraddio hollbwysig i ystod ehangach fyth o systemau afionig, electronig a thrydanol, a hynny ar gyfer cannoedd o awyrennau F-35 o bob cwr o鈥檙 byd.

Mae鈥檙 datrysiad buddugol yn adeiladu ar y fenter arloesol a ffurfiwyd ar y cyd rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn (DECA), BAE Systems a Northrop Grumman, sef Sealand Support Services Ltd (SSSL). Mae gwasanaethau a gwaith cymorth SSSL ar gyfer awyrennau F-35 i fod i ddechrau yn 2021.

Dywedodd Gavin Williamson, yr Ysgrifennydd Amddiffyn:

Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn sicrhau bod Prydain wrth galon y bartneriaeth F-35 fyd-eang, sef y rhaglen amddiffyn fwyaf erioed. Mae鈥檔 dangos hyder yn ein gweithlu medrus a鈥檙 diwydiannau uwch-dechnoleg sy鈥檔 sicrhau ein bod ni a鈥檔 cynghreiriaid yn cael y gorau un o鈥檙 hyn sydd gan ddiwydiant peirianneg Prydain i鈥檞 gynnig.

Mae ein gweledigaeth i greu Prydain Fyd-eang yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i ddarparu nwyddau o鈥檙 safon uchaf i weddill y byd, a鈥檙 rheini wedi鈥檜 gwneud ym Mhrydain.

Mae鈥檙 fargen hon yn adeiladu ar sylfeini cadarn y bartneriaeth amddiffyn barhaus rhwng y DU ac UDA. Mae鈥檔 hwb sylweddol i swyddi ym Mhrydain ac i鈥檙 gweithwyr medrus sy鈥檔 galluogi鈥檙 awyrennau ymladd blaenllaw hyn i barhau i鈥檔 cadw ni鈥檔 saff ac yn ddiogel.

Mae鈥檙 aseiniad yn cydnabod y sgiliau blaenllaw a鈥檙 cymorth hanfodol sy鈥檔 cael eu darparu yn DECA - un o Asiantaethau Gweithredol y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae鈥檔 gosod Gogledd Cymru wrth galon y gwaith o ddarparu cymorth F-35 am y 40 mlynedd nesaf ac mae鈥檔 rhoi cefnogaeth uniongyrchol i gannoedd o swyddi uwch-dechnoleg F-35 eraill yn y DU.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yn sgil y cyhoeddiad hwn, mae Gweinyddiaeth Amddiffyn Sealand, unwaith eto, yn dangos ei nodweddion fel canolfan atgyweirio cydrannau hanfodol ar gyfer awyrennau F-35.

Mae dyfodol diwydiant amddiffyn y DU yn cael ei gryfhau gan sgiliau miloedd o bobl sy鈥檔 cael eu cyflogi ym mhob rhan o鈥檙 diwydiant yng Nghymru, gan gynnwys y bobl sy鈥檔 rhoi cymorth 芒 chyfarpar hollbwysig y Lluoedd Arfog.

Rwy鈥檔 falch bod sgiliau ein gweithwyr wedi cael eu cydnabod o ganlyniad i鈥檙 buddsoddiad newydd hwn yn economi Gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd y buddsoddiad yn parhau i ddarparu ffynhonnell lewyrchus o swyddi a thwf i鈥檙 ardal drwy鈥檙 gadwyn gyflenwi ehangach yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd Syr Simon Bollom, Prif Weithredwr asiantaeth caffael y Weinyddiaeth Amddiffyn, Cymorth a Chyfarpar Amddiffyn:

Drwy ennill y gwaith hwn, mae鈥檙 DU wedi dangos sut gall y Weinyddiaeth Amddiffyn gydweithio鈥檔 effeithiol 芒鈥檙 diwydiant er mwyn dod 芒 gweithlu profiadol a medrus at ei gilydd i gynnig datrysiad cymorth arloesol sy鈥檔 cynnig y gwerth gorau, a hynny er budd partneriaid F-35.

Hefyd, mae鈥檙 DU yn elwa ar ymrwymiad hirdymor i鈥檙 rhaglen F-35 ac yn elwa ar ei phartneriaeth amddiffyn unigryw ag UDA. Drwy gydweithio 芒鈥檔 partneriaid o DECA, BAE Systems a Northrop Grumman, bydd SSSL yn gallu cynnig rhagoriaeth beirianyddol, ystwythder ac arloesedd o鈥檙 radd flaenaf i鈥檙 rhaglen F-35.

Mae gan DECA hanes hir a disglair o ddarparu gwasanaethau afionig i awyrennau jetiau cyflym. Mae鈥檙 aseiniad F-35 newydd hwn yn cadarnhau r么l DECA yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau a chymorth i awyren ymladd fwyaf blaengar y byd, a hynny am ddegawdau i ddod.

Dywedodd Geraint Spearing, Prif Weithredwr DECA:

Rwy鈥檔 arbennig o falch y byddwn ni鈥檔 darparu elfen mor hanfodol a sylweddol o鈥檙 datrysiad byd-eang i gynnal cydrannau F-35. Mae hyn yn brawf o waith caled ac ymrwymiad ein gweithlu a bydd yn diogelu鈥檙 sgiliau blaengar hyn er mwyn cefnogi gwaith amddiffyn a diogelwch am lawer o flynyddoedd i ddod.

Mae鈥檙 newyddion yn dilyn cyhoeddiad ym mis Tachwedd 2018 bod y DU wedi archebu 17 awyren F-35B arall, a fydd yn cael eu danfon rhwng 2020 a 2022. Byddant yn ymuno 芒 17 awyren arall Prydain sydd ar hyn o bryd yn RAF Marham ac UDA, yn ogystal ag un arall sydd wedi鈥檌 harchebu.

Hefyd, ym mis Tachwedd 2018, rhoddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn gontract 拢160M i Kier VolkerFitzpatrick i ddarparu seilwaith a fyddai鈥檔 paratoi RAF Lakenheath ar gyfer 2 sgwadron o awyrennau F-35 Awyrlu UDA.

Canolfan Suffolk fydd y safle rhyngwladol parhaol cyntaf ar gyfer awyrennau F-35 Awyrlu UDA yn Ewrop a bydd hynny鈥檔 parhau i gadw hanes hir a balch y safle o gefnogi gallu Awyrlu UDA yn y DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Chwefror 2019