T欧 Olwen wedi鈥檌 ddewis fel Elusen o Ddewis DVLA wrth i godi arian gyrraedd chwarter miliwn
Mae staff DVLA wrthi鈥檔 paratoi ar gyfer blwyddyn brysur dros ben o weithgareddau.

Mae staff DVLA yn Abertawe wrthi鈥檔 paratoi ar gyfer blwyddyn brysur dros ben o weithgareddau codi arian ar gyfer T欧 Olwen ar 么l ei ddewis fel yr Elusen o Ddewis ar gyfer 2019.
Daw hyn yn syth ar 么l y newyddion fod staff DVLA wedi codi鈥檙 swm anhygoel o 拢250,000 ar gyfer pum elusen dros y pum mlynedd diwethaf fel rhan o鈥檌 menter Elusen o Ddewis a lansiwyd yn 2014.
Mae gweithgareddau ar gyfer T欧 Olwen eisoes wedi cychwyn gyda gr诺p crwydrol newydd i staff a fydd yn wynebu her heicio bob mis i godi arian i鈥檙 elusen, sy鈥檔 darparu gwasanaethau gofal lliniarol i bobl yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys twrnamaint p锚l-droed yr haf a dringo Ben Nevis, yn ogystal 芒 gwerthu cacennau, rafflau a llawer o weithgareddau eraill trwy gydol y flwyddyn.
Mis diwethaf, trosglwyddodd DVLA siec i Maggie鈥檚 Abertawe ar 么l codi 拢58,803 trwy ymdrechion codi arian staff. Bydd y swm hwn yn talu i ganolfan Abertawe鈥檙 elusen fod ar agor am bum wythnos o鈥檙 flwyddyn, gan roi budd i tua 2500 o ymwelwyr. Bydd yr arian hefyd yn helpu ariannu gwasanaethau fel cyngor ar fudd-daliadau, sesiynau seicolegydd clinigol a chymorth profedigaeth i鈥檙 rhai sy鈥檔 defnyddio鈥檙 ganolfan.
Wrth glywed y newyddion, dywedodd Helen Murray MBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth T欧 Olwen:
Mae鈥檙 holl d卯m yn Nh欧 Olwen wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis i fod yn Elusen o Ddewis DVLA eleni.
Er na all T欧 Olwen gynnig gwellhad, gallwn gynnig bywyd o ansawdd da i gleifion, ynghyd 芒 gofal diwedd oes dosturiol pan ddaw鈥檙 amser.
Mae ein cleifion yn derbyn gofal naill ai yn Nh欧 Olwen ei hun, yn eu cartrefi eu hunain neu ar wardiau ysbytai lleol. Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i sicrhau y gall y gofal hanfodol hwn barhau ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda DVLA yn y flwyddyn i ddod.
Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:
Mae codi 拢250,000 yn garreg filltir anhygoel i鈥檞 gyrraedd. Rwy鈥檔 falch iawn o鈥檔 staff sy鈥檔 parhau i wynebu鈥檙 her ac yn rhoi cymaint o鈥檜 hamser eu hunain i godi arian ar gyfer ein helusennau enwebedig.
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr, ynghyd 芒 T欧 Olwen, ac rwyf wrth fy modd y byddwn yn cefnogi鈥檙 elusen wych hon yn 2019.
Nodiadau i olygyddion:
-
Y llynedd, fe wnaeth DVLA godi 拢58,803 ar gyfer Maggie鈥檚 Abertawe, Elusen o Ddewis DVLA ar gyfer 2018.
-
Yn y gorffennol, cododd DVLA 拢21,389 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru yn 2014, 拢43,578 ar gyfer LATCH yn 2015, 拢70,906 ar gyfer Cymdeithas Clefyd Alzheimer yn 2016, 拢56,159 ar gyfer Mind yn 2017.
-
Mae T欧 Olwen yn cynnig ansawdd bywyd i gleifion, ynghyd 芒 gofal diwedd oes briodol a thosturiol pan ddaw鈥檙 amser. Mae cleifion yn derbyn gofal naill ai yn Nh欧 Olwen ei hun, yn eu cartrefi eu hunain neu ar wardiau ysbytai lleol. Mae鈥檙 gofal yn cael ei ymestyn i deuluoedd a ffrindiau, a rhoddir y gefnogaeth cyhyd ag y mae ei angen.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407