Bydd canllawiau newydd yn gwneud gofynion profion yn haws i yrwyr gyda diabetes sy鈥檔 cael eu trin ag inswlin
Bydd gan yrwyr sy鈥檔 trin eu diabetes gydag inswlin fwy o ddewis o ran sut maent yn profi eu lefelau glwcos o dan canllawiau newydd a gyhoeddir gan DVLA heddiw.

Mae鈥檙 diweddariad yn golygu y gall gyrwyr nawr dewis i ddefnyddio dyfeisiadau monitro glwcos fflach a pharhaus i gymryd darlleniadau glwcos cyn iddynt yrru, neu yn ystod egwyl gyrru. Hyd nawr, bu鈥檔 rhaid i yrwyr brofi eu lefelau glwcos gyda darlleniad gwaed drwy bricio bys dim mwy na 2 awr cyn gyrru ac wedyn eto yn ystod egwyl o bob dwy awr o yrru.
Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:
Rydym am ei wneud mor hawdd a diogel 芒 phosibl i yrwyr bod ar y ffyrdd. Mae ein panel o arbenigwyr meddygol sy鈥檔 helpu creu鈥檙 safonau meddygol ar gyfer gyrru o hyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg newydd, ac rydym yn falch ein bod yn gallu cynnig ffordd arall i鈥檔 gyrwyr i fonitro eu lefelau glwcos.
Mae鈥檙 canllawiau wedi cael eu diweddaru yn dilyn trafodaethau gyda Phanel Cynghori Meddygol Anrhydeddus yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar yrru a diabetes mellitus. Mae鈥檙 panel yn cynnwys arbenigwyr meddygol blaenllaw mewn diabetes, meddygon DVLA, aelodau lleyg ac arsylwyr o sefydliadau eraill. Mae鈥檔 gweithio ar y cyd gyda DVLA i ddarparu cyngor arbenigol gyda鈥檙 bwriad o gynnal a gwella diogelwch y ffyrdd.
Dywedodd Nikki Joule, Rheolwr Polisi Diabetes UK:
Mae鈥檙 canllawiau newydd, sy鈥檔 golygu bod Monitro Glwcos Fflach a Monitro Glwcos Parhaus yn gallu cael eu defnyddio i yrru, yn fuddugoliaeth enfawr i bobl sydd 芒 diabetes.
Mae technoleg arloesol fel hyn yn gwneud bywyd yn haws i bobl, oherwydd mae鈥檔 gwellhau eu gallu i fonitro eu lefelau glwcos gwaed o ddydd i ddydd a rheoli eu cyflwr yn ddiogel, gan gynnwys tra yrru.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda DVLA i sicrhau bod pobl sy鈥檔 byw gyda diabetes yn cael eu trin yn deg, a bod pawb yn gallu dal trwydded yrru os maent yn bodloni鈥檙 safonau ffitrwydd i yrru.
Nodiadau i olygyddion
1) Mae鈥檙 canllawiau ar brofion glwcos a gyhoeddir heddiw yn gymwys ar gyfer gyrwyr ceir a beiciau modur sy鈥檔 trin eu diabetes ag inswlin. Mae鈥檙 gofynion profion glwcos ar gyfer gyrwyr bws a lori yn parhau鈥檙 un peth (darlleniad gwaed drwy bricio bys).
2) Gall gyrwyr barhau i ddefnyddio darlleniadau prawf gwaed drwy bricio bys i brofi eu lefelau glwcos gwaed, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae鈥檙 canllawiau wedi鈥檜 diweddaru yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer gyrwyr sy鈥檔 parhau i ffafrio profion yn y modd hwn. Mae鈥檙 canllawiau hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer gyrwyr sy鈥檔 trin eu diabetes gyda thabledi, diet neu鈥檙 ddau.
3) Gall gyrwyr wisgo monitor glwcos (sydd yn synhwyrydd bach) ar eu croen. Mae鈥檙 synwyryddion hyn yn cofnodi lefel glwcos y gyrrwr yn barhaus. Defnyddir Monitorau Glwcos Fflach drwy sganio鈥檙 synhwyrydd yn gorfforol gyda dyfais yn eich llaw fel sydd eu hangen i gael darlleniadau. Mae dyfeisiadau monitro glwcos parhaus yn trosglwyddo darlleniad parhaus i ddyfais yn eich llaw, ff么n neu oriawr yn uniongyrchol o鈥檙 synhwyrydd.
4) Os ddefnyddir dyfeisiadau glwcos fflach neu barhaus, mae dal rhaid i yrwyr gadarnhau eu lefel glwcos gwaed gyda phrawf drwy bricio bys os:
- yw ei lefel glwcos yn 4.0 mmol/L neu is
- they experience symptoms of hypoglycaemia
- yw鈥檙 system fonitro glwcos yn rhoi darlleniad nad yw鈥檔 gyson gyda鈥檙 symptomau yr ydynt yn eu cael (er enghraifft maent yn teimlo symptomau hypoglycaemia ond nid yw鈥檙 darlleniad yn dynodi hyn)
5) Mae鈥檔 rhaid i yrwyr sy鈥檔 trin eu diabetes ag inswlin roi gwybod i DVLA. Nid oes rhaid i yrwyr sy鈥檔 trin eu diabetes drwy ddiet yn unig roi gwybod i DVLA. Os ydych mewn unrhyw amheuaeth, dylai gyrwyr siarad 芒鈥檜 meddyg neu weithiwr proffesiynol meddygol sy鈥檔 gysylltiedig a鈥檜 triniaeth.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407