Cam ymlaen at atwrneiaeth arhosol ar-lein
Bydd y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu hamddiffyn yn well wrth i ddiwygiadau i symleiddio atwrneiaethau arhosol gael Cydsyniad Brenhinol.

- Y Ddeddf Atwrneiaethau yn cael Cydsyniad Brenhinol
- Yn creu mesurau diogelu newydd i amddiffyn yn erbyn twyll a cham-drin
- Digideiddio i wella amser prosesu a lleihau gwallau dynol
Mae鈥檙 cytundebau cyfreithiol hyn yn galluogi person i roi pwerau gwneud penderfyniadau am ei ofal, triniaeth neu faterion ariannol i berson arall os yw鈥檔 colli galluedd meddyliol.
Mae鈥檙 Ddeddf Atwrneiaethau yn rhoi鈥檙 golau gwyrdd cychwynnol ar ddod 芒鈥檙 broses bapur bresennol ar-lein am y tro cyntaf. Bydd y newidiadau, pan g芒nt eu cyflwyno, yn gwneud y system yn gyflymach, yn haws ei defnyddio ac yn fwy diogel i鈥檙 miloedd o bobl sy鈥檔 gwneud atwrneiaeth arhosol bob blwyddyn, ac sy鈥檔 dibynnu arni.
Bydd y ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd gan Stephen Metcalfe AS ac a gefnogir gan y Llywodraeth, hefyd yn cryfhau鈥檙 amddiffyniad twyll presennol drwy ganiat谩u gwiriadau ar hunaniaeth y rheini sy鈥檔 gwneud cais am atwrneiaeth arhosol.
Mae鈥檙 system ar-lein newydd a鈥檙 mesurau diogelu ychwanegol bellach yn cael eu datblygu gan Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd angen cynnal profion helaeth i sicrhau bod y broses yn syml i鈥檞 defnyddio, yn gweithio yn 么l y bwriad ac yn ddiogel. Bydd rhagor o wybodaeth am ba bryd y bydd ar gael yn cael ei chyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.
Dywedodd Mike Freer, y Gweinidog Cyfiawnder:
Mae miliynau o bobl yn dibynnu ar atwrneiaeth arhosol i wneud yn si诺r y gofelir am eu gofal a鈥檜 harian os byddant yn colli galluedd meddyliol.
Mae鈥檙 Ddeddf hon yn caniat谩u i ni foderneiddio鈥檙 gwasanaeth, cyflwyno mesurau diogelu newydd rhag twyll a cham-drin a鈥檌 gwneud yn haws rhoi tawelwch meddwl i bobl y bydd eu buddiannau鈥檔 cael eu gwarchod.
Mae nifer yr atwrneiaethau arhosol cofrestredig wedi cynyddu鈥檔 sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf i dros 6 miliwn, ond mae鈥檙 broses o wneud un yn dal yn cynnwys llawer o nodweddion papur sydd dros 30 oed. Bob blwyddyn, mae Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn delio 芒 dros 19 miliwn o ddarnau o bapur o ganlyniad i鈥檞 system all-lein.
Bydd digideiddio yn cyflymu鈥檙 amser cofrestru drwy sylwi ar wallau鈥檔 gynharach a chaniat谩u iddynt gael eu datrys ar-lein, yn hytrach na gorfod aros i ddogfennau gael eu postio鈥檔 么l ac ymlaen rhwng yr ymgeisydd a Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus, fel sy鈥檔 digwydd ar hyn o bryd.
Bydd proses well ar bapur hefyd yn cael ei chyflwyno ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu defnyddio鈥檙 rhyngrwyd.
Mae鈥檙 diwygiadau hyn yn adeiladu ar lwyddiant y gwasanaeth 鈥淒efnyddio Atwrneiaeth Arhosol鈥� a lansiwyd yn 2020, a oedd yn galluogi sefydliadau fel banciau i wirio cofrestriad atwrneiaeth arhosol yn ddigidol ac yn ddiogel ar unwaith. Arweiniodd hyn at gyflymu proses a oedd yn cymryd wythnosau i ddod i ben yn y gorffennol, tra鈥檙 oedd cop茂au papur yn cael eu rhannu.
Dywedodd Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus Cymru a Lloegr:
Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i foderneiddio atwrneiaethau arhosol ac rydym gam yn nes at wasanaeth cyflymach, mwy diogel a syml.
Mae ein ffocws nawr ar barhau i ddatblygu, profi a mireinio llwyfan ar-lein newydd a gwell proses ar bapur, i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth a fydd yn cynnwys mesurau diogelu ychwanegol ac sy鈥檔 diwallu anghenion ein holl gwsmeriaid.
Yn y cyfamser, mae Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cynyddu nifer y staff sy鈥檔 prosesu ceisiadau ac mae鈥檙 timau bellach yn cofrestru tua 19,000 yn fwy o atwrneiaethau arhosol bob mis na chyn y pandemig.
Nodiadau i olygyddion:
- Cyflwynwyd atwrneiaeth arhosol yn 2007 fel rhan o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Roedd hyn yn disodli鈥檙 system flaenorol o atwrneiaeth barhaus a oedd wedi bod ar waith ers 1986.
- Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol (LPA). Mae atwrneiaeth arhosol arian ac eiddo yn cynnwys penderfyniadau fel prynu a gwerthu eiddo neu reoli cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, neu fuddsoddiadau. Mae atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn gallu cynnwys penderfyniadau ynghylch triniaethau meddygol a threfniadau gofal, fel ble dylai rhywun fyw, 芒 phwy y dylai gysylltu, a鈥檌 ofal o ddydd i ddydd.
- Er bod atwrneiaethau arhosol yn gytundebau preifat rhwng unigolion, rhaid i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru atwrneiaeth arhosol cyn gellir ei defnyddio.
- Mae鈥檙 gwasanaeth Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol yn gymwys i鈥檙 rhai a gofrestrwyd ar 么l mis Ionawr 2016 yn unig.
- Roedd y diwygiadau鈥檔 seiliedig ar ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder i鈥檙 ymgynghoriad ym mis Mai 2022: Ailwampio Atwrneiaeth Arhosol i wella diogelwch ac effeithlonrwydd - 188体育 (www.gov.uk)