Ailwampio Atwrneiaeth Arhosol i wella diogelwch ac effeithlonrwydd
Bydd y broses o reoli materion anwylyd yn cael ei chryfhau a鈥檌 moderneiddio o dan ddiwygiadau mawr a gyhoeddwyd gan y llywodraeth heddiw (19 Mai 2022).

- Mesurau diogelu newydd i amddiffyn yn erbyn twyll a cham-drin
- Bydd y broses yn symlach, yn gyflymach ac yn haws ei defnyddio
- Gwasanaeth digidol newydd i leihau camgymeriadau wrth ymgeisio a chyflymu cofrestriadau
Mae Gweinidogion wedi amlinellu cynlluniau i drawsnewid y system atwrneiaeth arhosol 鈥� gan ei gwneud hi鈥檔 haws ei defnyddio ac yn fwy diogel byth rhag twyll.
O dan y cynigion, bydd pobl yn gallu gwneud atwrneiaeth arhosol yn gyfan gwbl ar-lein am y tro cyntaf erioed 鈥� gan ei chysoni 芒 gwasanaethau eraill y llywodraeth, fel gwneud cais am ysgariad. Bydd y system bapur bresennol yn parhau i weithredu, sy鈥檔 golygu y gall pobl ddewis proses hygyrch sy鈥檔 gweddu orau i鈥檞 hanghenion penodol.
Yn hollbwysig, bydd y diwygiadau鈥檔 atgyfnerthu鈥檙 mesurau diogelu i amddiffyn pobl agored i niwed rhag cam-drin neu dwyll. Mae鈥檙 cynlluniau鈥檔 cynnwys archwiliadau adnabod newydd a fyddai鈥檔 gofyn am wybodaeth neu ddogfennau swyddogol fel trwydded yrru, pasbort neu gyfrif Porth y Llywodraeth fel rhan o broses ddilysu gryfach.
Mae nifer yr atwrneiaethau arhosol cofrestredig wedi cynyddu鈥檔 sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf i dros 6 miliwn, ond mae鈥檙 broses o wneud un yn dal yn cynnwys llawer o nodweddion papur sydd dros 30 oed.
Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn ymgynghoriad gan y llywodraeth a oedd yn ceisio safbwyntiau ar foderneiddio鈥檙 system. Mae鈥檙 cynigion wedi cael eu datblygu ar 么l ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid fel Age UK, Cymdeithas y Cyfreithwyr, a鈥檙 Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol, i sicrhau eu bod yn gweithio i鈥檙 rhai sy鈥檔 dibynnu ar atwrneiaethau arhosol i reoli eu materion yn nes ymlaen mewn bywyd.
Dywedodd Tom Pursglove AS, y Gweinidog Cyfiawnder:
Mae atwrneiaeth arhosol yn rhoi cysur a sicrwydd i filiynau o bobl y bydd penderfyniadau鈥檔 cael eu gwneud er eu lles gorau pe baen nhw鈥檔 colli galluedd.
Bydd ein diwygiadau鈥檔 ei gwneud hi鈥檔 haws cael gafael ar y system, a鈥檌 gwneud hi鈥檔 symlach ac yn fwy diogel byth rhag twyll. Mae hyn yn rhan o鈥檔 cynlluniau i fanteisio ar dechnoleg ar draws y llywodraeth a darparu gwasanaethau gwell i鈥檙 cyhoedd.
Dogfen gyfreithiol yw atwrneiaeth arhosol sy鈥檔 caniat谩u i bobl (y rhoddwr) benodi rhywun arall (yr atwrnai) i wneud penderfyniadau ynghylch eu lles, eu harian neu eu heiddo. Mae鈥檔 adnodd pwysig sy鈥檔 galluogi pobl i ddewis rhywun maen nhw鈥檔 ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eu rhan pe baent yn colli galluedd yn y dyfodol. Maen nhw鈥檔 cael eu defnyddio gan bobl h欧n yn aml ond mae unrhyw un dros 18 oed yn gallu eu gwneud.
Gweithredir y gwasanaeth gan Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus ac ar hyn o bryd mae鈥檔 delio 芒 dros 19 miliwn darn o bapur bob blwyddyn. Bydd cyflwyno proses ddigidol newydd yn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y sefydliad, ac yn lleihau ei 么l troed carbon.
Bydd digideiddio hefyd yn helpu i leihau camgymeriadau gan roddwyr, atwrneiod ac eraill sy鈥檔 rhan o鈥檙 broses drwy sicrhau y gellir codi a datrys y rhain yn gynnar 鈥� gan helpu i gwtogi amseroedd aros yn y pen draw.
Dywedodd Stuart Howard, Gwarcheidwad Cyhoeddus Dros Dro Cymru a Lloegr:
Mae atwrneiaeth arhosol yn hanfodol er mwyn helpu pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chadw rheolaeth dros eu penderfyniadau.
Bydd y diwygiadau hyn yn ein galluogi i foderneiddio鈥檙 broses 鈥� gan sicrhau bod ein gwasanaeth yn addas ar gyfer y dyfodol, yn ddiogel ac yn syml ei ddefnyddio, a bod modd ei ddefnyddio ar-lein.
Mae鈥檙 llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i edrych ymhellach ar sut gallai鈥檙 system ddigidol newydd wella鈥檙 broses dystio a鈥檌 symleiddio. Byddai鈥檔 rhoi mwy o amser i roddwyr ganolbwyntio ar y penderfyniadau pwysig yn y broses, fel i bwy maen nhw鈥檔 rhoi pwerau a hyd a lled y pwerau hynny.
Nodiadau i olygyddion
- Cyflwynwyd atwrneiaeth arhosol yn 2007 fel rhan o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Roedd hyn yn disodli鈥檙 system flaenorol o Atwrneiaeth Barhaus a oedd wedi bod ar waith ers 1986.
- Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol. Mae atwrneiaeth arhosol arian ac eiddo yn cynnwys penderfyniadau fel prynu a gwerthu eiddo neu reoli cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, neu fuddsoddiadau. Mae atwrneiaeth arhosol iechyd a lles yn gallu cynnwys penderfyniadau ynghylch triniaethau meddygol a threfniadau gofal, fel ble dylai rhywun fyw, 芒 phwy y dylai gysylltu, a鈥檌 ofal o ddydd i ddydd.
- Er bod atwrneiaethau arhosol yn gytundebau preifat rhwng unigolion, rhaid i Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru atwrneiaeth arhosol cyn gellir ei defnyddio.
- Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 12 wythnos rhwng 20 Gorffennaf a 13 Hydref 2021.
- Ochr yn ochr 芒鈥檙 ymgynghoriad ffurfiol, bydd Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i ymgysylltu drwy weithdai ac ymchwil defnyddwyr 鈥� gan gasglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau, a chlywed eu profiadau.
- Roedd y Gweithgor Rhanddeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr o鈥檙 canlynol:
- Cymdeithas Alzheimer鈥檚
- Age UK
- Age Cymru
- Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Cyfreithwyr ar gyfer Pobl H欧n (SFE)
- STEP
- ADASS
- ADSS Cymru
- Mencap
- Sefydliad Polisi Iechyd Meddwl ac Arian
- UK Finance
- Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- Cymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu
- Y Sefydliad Cydraddoldeb Hiliol
- Roedd y Farwnes Finlay a Chadeirydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol hefyd yn bresennol
- Roedd y cynigion canlyniadol yn canolbwyntio ar y newidiadau lefel uchel sydd angen eu gwneud i ddeddfwriaeth sylfaenol.
- Er bod Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyflwyno adnodd digidol yn 2013, rhaid cwblhau camau olaf y broses, gan gynnwys llofnodi, tystio, ardystio a chyflwyno鈥檙 atwrneiaeth arhosol, ar bapur.
- Daw cyllid Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfan gwbl o鈥檙 ffioedd a godir i gofrestru atwrneiaeth arhosol a gwasanaethau eraill mae鈥檔 eu darparu, felly mae鈥檔 bwysig sicrhau bod cyllid tymor hir y Swyddfa yn gynaliadwy ac yn gadarn, gan sicrhau ar yr un pryd bod ei gwasanaethau鈥檔 dal ar gael i bawb sydd eu hangen. Bydd cynyddu effeithlonrwydd drwy鈥檙 diwygiadau newydd hyn yn allweddol i hynny.